Search Legislation

Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Trosglwyddo Staff) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 818 (Cy.103)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Trosglwyddo Staff) (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

19 Mawrth 2003

Yn dod i rym

1 Ebrill 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a drosglwyddwyd gan adran 126(1) a (4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1), a pharagraff 22(1) o Atodlen 5B i'r Ddeddf honno, ac sy'n arferadwy ganddo mewn perthynas â Chymru(2), ac ar ôl cynnal ymgynghoriad llawn mewn perthynas â phob un o'r cyflogeion sydd i'w trosglwyddo, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn yw Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Trosglwyddo Staff) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Ebrill 2003.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—

ystyr “yr Atodlen” (“the Schedule”) yw'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn;

ystyr “Awdurdod Iechyd” (“Health Authority”) yw Awdurdod Iechyd yng Nghymru a sefydlwyd gan Orchymyn Sefydlu Awdurdodau Iechyd (Cymru) 1996(3);

ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003(4);

ystyr “cyflogai CCE” (“EES employee”) yw person y mae ei gontract cyflogaeth wedi'i drosglwyddo i Fwrdd Iechyd Lleol Powys(5) o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig;

ystyr “cyflogai perthnasol” (“relevant employee”) yw unrhyw berson —

(a)

nad yw ei gontract cyflogaeth gydag awdurdod iechyd a bennir yng ngholofn (1) wedi terfynu cyn y dyddiad trosglwyddo (p'un ai am fod y cyfnod o rybudd wedi dod i ben, am fod amser wedi mynd heibio neu am reswm arall); a

(b)

sydd wedi cael cynnig swydd gyflogedig gyda Bwrdd Iechyd Lleol a bennir yng Ngholofn (2) o'r Atodlen, ac eithrio Bwrdd Iechyd Lleol Powys yn unol â'r Cynllun Cyflogaeth Estynedig;

ystyr “Cynllun Cyflogaeth Estynedig” (“Extended Employment Scheme”) yw cynllun sy'n darparu bod Bwrdd Iechyd Lleol Powys yn cyflogi, am gyfnod nad yw'n hwy na 12 mis ac sy'n dechrau ar y dyddiad trosglwyddo, bersonau y mae eu contractau cyflogi wedi'u trosglwyddo i Fwrdd Iechyd Lleol Powys yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003(6));

ystyr “dyddiad diswyddo” (“redundancy date”) yw'r dyddiad y mae person y mae erthygl 5 yn gymwys iddo yn cael hysbysiad ei fod wedi'i ddiswyddo;

ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Ebrill 2003; ac

ystyr “Ymddiriedolaeth GIG Powys” (“the Powys NHS Trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Sefydlu) 1992(7).

Trosglwyddo cyflogeion Awdurdodau Iechyd i Fyrddau Iechyd Lleol

3.  Yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir contract cyflogaeth cyflogai perthnasol gydag awdurdod iechyd a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i Fwrdd Iechyd Lleol (sef un o'r Byrddau Iechyd Lleol a restrir yng ngholofn 2 o'r Atodlen) sydd wedi cynnig swydd gyflogedig i'r cyflogai perthnasol a bod yntau wedi'i derbyn.

Trosglwyddo cyflogeion Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys i Fwrdd Iechyd Lleol Powys

4.  Yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir contract cyflogaeth unrhyw berson a gâi ei gyflogi, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, gan Ymddiriedolaeth GIG Powys, ac nad yw ei gontract cyflogaeth gydag Ymddiriedolaeth GIG Powys wedi terfynu cyn y dyddiad trosglwyddo (p'un ai am fod cyfnod o rybudd wedi dod i ben, am fod amser wedi mynd heibio neu am reswm arall) i Fwrdd Iechyd Lleol Powys.

Trosglwyddo i'r Cynllun Cyflogaeth Estynedig os bydd diswyddo yn digwydd

5.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys i berson

(a)y mae ei gontract cyflogaeth wedi'i drosglwyddo i Fwrdd Iechyd Lleol o dan erthygl 3 neu 4;

(b)nad yw ei gontract cyflogaeth gyda'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw wedi terfynu cyn y dyddiad diswyddo (p'un ai am fod cyfnod o rybudd wedi dod i ben, am fod amser wedi mynd heibio neu am reswm arall); ac

(c)y datganwyd ei fod wedi'i ddiswyddo o'i swydd gyda'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw yn afreidiol ar unrhyw adeg rhwng y dyddiad trosglwyddo a 31 Mawrth 2004.

(2Yn effeithiol o'r dyddiad diswyddo, rhaid trin contract cyflogaeth rhwng person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo a'r Bwrdd Iechyd Lleol yr oedd yn cael ei gyflogi ganddo fel petai'n gontract cyflogaeth am dymor penodedig a wnaed yn wreiddiol rhwng y person hwnnw a Bwrdd Iechyd Lleol Powys.

(3Bydd erthygl 6 o Orchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003 (Trosglwyddo cyflogeion CCE o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig) yn gymwys i berson y mae ei gontract cyflogaeth wedi'i drosglwyddo i Fwrdd Iechyd Lleol Powys o dan baragraff (2) fel petai'r person hwnnw yn gyflogai CCE.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Mawrth 2003

Erthygl 3

YR ATODLEN

Colofn 1Colofn 2
Awdurdodau IechydByrddau Iechyd Lleol

Bro Tâf

Dyfed Powys

Gogledd Cymru

Gwent

Morgannwg

Abertawe

Blaenau Gwent

Bro Morgannwg

Caerdydd

Caerffili

Casnewydd

Castell-nedd Port

Talbot

Ceredigion

Conwy

Gwynedd

Merthyr Tudful

Pen-y-bont ar Ogwr

Powys

Rhondda Cynon Tâf

Sir Benfro

Sir Ddinbych

Sir Fynwy

Sir Gaerfyrddin

Sir y Fflint

Tor-faen

Wrecsam

Ynys Môn

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan baragraff 22(1) o Atodlen 5B i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (1977 p.49) ac adran 126(1) a (4) o'r Ddeddf honno, fel y'i diwygiwyd gan adrannau 6(1), (2) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (2002 p.17) ac Atodlen 4 i'r Ddeddf honno, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i drosglwyddo, i Fwrdd Iechyd Lleol, a hynny drwy orchymyn, unrhyw gyflogeion unrhyw Awdurdod Iechyd neu ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, sy'n ateb y disgrifiad penodedig.

Mae'r Gorchymyn yn trosglwyddo (erthygl 3) staff y pum Awdurdod Iechyd yng Nghymru a sefydlwyd gan Orchymyn Sefydlu Awdurdodau Iechyd (Cymru) 1996 (OS 1996/146), ac eithrio'r staff hynny a drosglwyddir o dan Orchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/813, (Cy.98)), i'r Byrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148, (Cy.18)). Mae'r Gorchymyn hefyd yn trosglwyddo (erthygl 4) staff Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Sefydlu) 1992 (O.S. 1992/2741) i Fwrdd Iechyd Lleol Powys. Os caiff unrhyw staff sy'n cael eu trosglwyddo i Fyrddau Iechyd Lleol o dan erthyglau 3 neu 4 eu diswyddo yn ystod y cyfnod o 12 mis yn dilyn y dyddiad trosglwyddo, byddant yn cael eu trosglwyddo (erthygl 5) i'r Cynllun Cyflogaeth Estynedig. Drwy'r Cynllun hwn gwneir ymdrech i gael swydd iddynt gydag un o gyflogwyr eraill y gwasanaeth iechyd neu gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn unol â'r gofynion ym mharagraff 22(3) o Atodlen 5B gwneir y Gorchymyn hwn yn sgil cydymffurfio ag unrhyw ofynion a ragnodwyd ynghylch ymgynghori mewn perthynas â phob un o'r cyflogeion a drosglwyddir. Mae'r darpariaethau ym mharagraffau 23, 24 a 25 o Atodlen 5B, i'r graddau y maent yn berthnasol, yn gymwys i'r cyflogeion a drosglwyddir o dan y Gorchymyn hwn.

(1)

1977 p.49, fel y'i diwygiwyd. Y diwygiadau perthnasol at ddibenion y Gorchymyn hwn yw'r rhai a wnaed gan adran 6 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (2002 p.17) ac Atodlen 4 iddi.

(2)

Mewn perthynas ag a.126(1) a (4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), o'i darllen gydag adran 40 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002. Mae'r pwerau eraill y mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud odanynt wedi'u rhoi'n uniongyrchol i'r Cynulliad.

(5)

Sefydlwyd Bwrdd Iechyd Lleol Powys drwy orchymyn o dan adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) — gweler Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (OS 2003/148, Cy. 18).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources