2003 Rhif 818 (Cy.103)
Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Trosglwyddo Staff) (Cymru) 2003
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a drosglwyddwyd gan adran 126(1) a (4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19771, a pharagraff 22(1) o Atodlen 5B i'r Ddeddf honno, ac sy'n arferadwy ganddo mewn perthynas â Chymru2, ac ar ôl cynnal ymgynghoriad llawn mewn perthynas â phob un o'r cyflogeion sydd i'w trosglwyddo, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Teitl, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Gorchymyn yw Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Trosglwyddo Staff) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Ebrill 2003.
2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
ystyr “yr Atodlen” (“the Schedule”) yw'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn;
ystyr “Awdurdod Iechyd” (“Health Authority”) yw Awdurdod Iechyd yng Nghymru a sefydlwyd gan Orchymyn Sefydlu Awdurdodau Iechyd (Cymru) 19963;
ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 20034;
ystyr “cyflogai CCE” (“EES employee”) yw person y mae ei gontract cyflogaeth wedi'i drosglwyddo i Fwrdd Iechyd Lleol Powys5 o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig;
ystyr “cyflogai perthnasol” (“relevant employee”) yw unrhyw berson —
- a
nad yw ei gontract cyflogaeth gydag awdurdod iechyd a bennir yng ngholofn (1) wedi terfynu cyn y dyddiad trosglwyddo (p'un ai am fod y cyfnod o rybudd wedi dod i ben, am fod amser wedi mynd heibio neu am reswm arall); a
- b
sydd wedi cael cynnig swydd gyflogedig gyda Bwrdd Iechyd Lleol a bennir yng Ngholofn (2) o'r Atodlen, ac eithrio Bwrdd Iechyd Lleol Powys yn unol â'r Cynllun Cyflogaeth Estynedig;
- a
ystyr “Cynllun Cyflogaeth Estynedig” (“Extended Employment Scheme”) yw cynllun sy'n darparu bod Bwrdd Iechyd Lleol Powys yn cyflogi, am gyfnod nad yw'n hwy na 12 mis ac sy'n dechrau ar y dyddiad trosglwyddo, bersonau y mae eu contractau cyflogi wedi'u trosglwyddo i Fwrdd Iechyd Lleol Powys yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 20036);
ystyr “dyddiad diswyddo” (“redundancy date”) yw'r dyddiad y mae person y mae erthygl 5 yn gymwys iddo yn cael hysbysiad ei fod wedi'i ddiswyddo;
ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Ebrill 2003; ac
ystyr “Ymddiriedolaeth GIG Powys” (“the Powys NHS Trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Sefydlu) 19927.
Trosglwyddo cyflogeion Awdurdodau Iechyd i Fyrddau Iechyd Lleol3
Yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir contract cyflogaeth cyflogai perthnasol gydag awdurdod iechyd a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i Fwrdd Iechyd Lleol (sef un o'r Byrddau Iechyd Lleol a restrir yng ngholofn 2 o'r Atodlen) sydd wedi cynnig swydd gyflogedig i'r cyflogai perthnasol a bod yntau wedi'i derbyn.
Trosglwyddo cyflogeion Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys i Fwrdd Iechyd Lleol Powys4
Yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir contract cyflogaeth unrhyw berson a gâi ei gyflogi, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, gan Ymddiriedolaeth GIG Powys, ac nad yw ei gontract cyflogaeth gydag Ymddiriedolaeth GIG Powys wedi terfynu cyn y dyddiad trosglwyddo (p'un ai am fod cyfnod o rybudd wedi dod i ben, am fod amser wedi mynd heibio neu am reswm arall) i Fwrdd Iechyd Lleol Powys.
Trosglwyddo i'r Cynllun Cyflogaeth Estynedig os bydd diswyddo yn digwydd5
1
Mae'r erthygl hon yn gymwys i berson
a
y mae ei gontract cyflogaeth wedi'i drosglwyddo i Fwrdd Iechyd Lleol o dan erthygl 3 neu 4;
b
nad yw ei gontract cyflogaeth gyda'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw wedi terfynu cyn y dyddiad diswyddo (p'un ai am fod cyfnod o rybudd wedi dod i ben, am fod amser wedi mynd heibio neu am reswm arall); ac
c
y datganwyd ei fod wedi'i ddiswyddo o'i swydd gyda'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw yn afreidiol ar unrhyw adeg rhwng y dyddiad trosglwyddo a 31 Mawrth 2004.
2
Yn effeithiol o'r dyddiad diswyddo, rhaid trin contract cyflogaeth rhwng person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo a'r Bwrdd Iechyd Lleol yr oedd yn cael ei gyflogi ganddo fel petai'n gontract cyflogaeth am dymor penodedig a wnaed yn wreiddiol rhwng y person hwnnw a Bwrdd Iechyd Lleol Powys.
3
Bydd erthygl 6 o Orchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003 (Trosglwyddo cyflogeion CCE o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig) yn gymwys i berson y mae ei gontract cyflogaeth wedi'i drosglwyddo i Fwrdd Iechyd Lleol Powys o dan baragraff (2) fel petai'r person hwnnw yn gyflogai CCE.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19988
YR ATODLEN
Colofn 1 | Colofn 2 |
|---|---|
Awdurdodau Iechyd | Byrddau Iechyd Lleol |
Bro Tâf Dyfed Powys Gogledd Cymru Gwent Morgannwg | Abertawe Blaenau Gwent Bro Morgannwg Caerdydd Caerffili Casnewydd Castell-nedd Port Talbot Ceredigion Conwy Gwynedd Merthyr Tudful Pen-y-bont ar Ogwr Powys Rhondda Cynon Tâf Sir Benfro Sir Ddinbych Sir Fynwy Sir Gaerfyrddin Sir y Fflint Tor-faen Wrecsam Ynys Môn |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)