Search Legislation

Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN IIIRHEDEG CANOLFANNAU PRESWYL I DEULUOEDD

Iechyd a lles y trigolion

10.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y ganolfan breswyl i deuluoedd yn cael ei rhedeg yn y fath fodd ag y bydd —

(a)yn hybu iechyd a lles y trigolion ac yn darparu'n briodol ar eu cyfer;

(b)yn gwneud darpariaeth ar gyfer gofal, triniaeth, addysg a goruchwyliaeth y trigolion ag sy'n briodol i'w hoed a'u hanghenion;

(2Rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol, ddarganfod dymuniadau a theimladau'r trigolion a'u cymryd i ystyriaeth wrth wneud penderfyniadau ynghylch eu hiechyd a'u lles, neu'r modd y cânt eu trin.

(3Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau bod y ganolfan breswyl i deuluoedd yn cael ei rhedeg —

(a)mewn modd sy'n parchu preifatrwydd ac urddas y trigolion; a

(b)gan roi sylw dyledus i ryw, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y trigolion ac unrhyw anabledd sydd ganddynt.

(4Wrth gydymffurfio â'r rheoliad hwn, pryd bynnag y ceir gwrthdrawiad rhwng buddiannau aelodau o deulu, rhaid i'r person cofrestredig drin lles plant y teulu hwnnw fel y peth pwysicaf.

Gofynion pellach ynghylch iechyd a lles

11.—(1Rhaid i'r person cofrestredig drefnu bod gan y trigolion gyfle i gael unrhyw gyngor neu driniaeth feddygol sy'n angenrheidiol.

(2Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau ar gyfer cofnodi, trafod, cadw'n ddiogel, rhoi'n ddiogel a gwaredu'n ddiogel meddyginiaethau a dderbynnir i'r ganolfan breswyl i deuluoedd.

(3Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i atal heintiadau, amgylchiadau gwenwynig a lledaeniad heintiadau yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

(4Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau —

(a)bod pob rhan o'r ganolfan breswyl i deuluoedd y gall y trigolion fynd iddynt yn rhydd rhag peryglon i'w diogelwch, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol;

(b)bod unrhyw weithgareddau y mae'r trigolion yn cymryd rhan ynddynt yn rhydd rhag risgiau y gellir eu hosgoi, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol; ac

(c)bod risgiau diangen i iechyd neu ddiogelwch y trigolion yn cael eu canfod a'u dileu i'r graddau y mae hynny'n bosibl.

(5Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau, drwy hyfforddi personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd neu drwy fesurau eraill, i atal y trigolion rhag cael niwed neu ddioddef camdriniaeth neu gael eu gosod mewn risg o gael niwed neu eu cam-drin.

(6Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na chaiff unrhyw un o'r trigolion ei atal yn gorfforol oni bai mai ataliad o'r math a ddefnyddir yw'r unig ddull ymarferol o ddiogelu lles y trigolyn hwnnw neu unrhyw drigolyn arall a bod yna amgylchiadau eithriadol.

(7Ar unrhyw achlysur pan gaiff un o'r trigolion ei atal yn gorfforol, rhaid i'r person cofrestredig gofnodi'r amgylchiadau, gan gynnwys natur yr ataliad.

(8Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau nad yw'r personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd yn defnyddio unrhyw fath o gosb gorfforol ar unrhyw adeg ar unrhyw blentyn neu riant o dan 18 oed sy'n cael ei letya mewn canolfan breswyl i deuluoedd.

Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant

12.—(1Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig ar amddiffyn plant —

(a)y bwriedir iddo ddiogelu plant sy'n cael eu lletya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso; a

(b)sy'n nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn os ceir unrhyw honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod.

(2Rhaid i'r weithdrefn o dan baragraff (1)(b) ddarparu'n benodol ar gyfer —

(a)cysylltu a chydweithredu ag unrhyw awdurdod lleol sy'n cynnal ymholiadau amddiffyn plant mewn perthynas ag unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd;

(b)cyfeirio yn ddiymdroi unrhyw honiadau o gamdriniaeth neu esgeulustod sy'n effeithio ar unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd at yr awdurdod lleol y mae'r ganolfan breswyl i deuluoedd wedi'i lleoli yn ei ardal;

(c)rhoi gwybod i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol fod unrhyw ymholiadau amddiffyn plant sy'n ymwneud ag unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd wedi'u cychwyn, ynghyd â chanlyniadau dilynol yr ymholiadau;

(ch)cadw cofnodion ysgrifenedig o unrhyw honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod, ac o'r camau a gymerwyd i ymateb iddo;

(d)rhoi ystyriaeth ym mhob achos i'r mesurau a all fod yn angenrheidiol i amddiffyn plant yn y ganolfan breswyl i deuluoedd yn sgil honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod;

(dd)gofyniad bod cyflogeion y person cofrestredig yn rhoi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch lles neu ddiogelwch unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd i un o'r canlynol —

(i)y person cofrestredig;

(ii)swyddog heddlu;

(iii)un o swyddogion swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol;

(iv)un o swyddogion yr awdurdod lleol y mae'r ganolfan breswyl i deuluoedd wedi'i lleoli yn ei ardal, neu

(v)un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant;

(f)gwneud trefniadau sy'n rhoi cyfle ar bob adeg i'r trigolion a'r personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd gael gweld gwybodaeth, a hynny ar ffurf briodol, a fyddai'n eu galluogi i gysylltu â'r awdurdod lleol y mae'r ganolfan breswyl i deuluoedd wedi'i lleoli yn ei ardal, neu â swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, ynghylch lles neu ddiogelwch plant sy'n cael eu lletya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

(3Yn y rheoliad hwn —

(a)ystyr “ymholiadau amddiffyn plant yw unrhyw ymholiadau a gyflawnir gan awdurdod lleol wrth arfer unrhyw un o'r swyddogaethau a roddir gan neu o dan Ddeddf 1989 sy'n ymwneud ag amddiffyn plant; a

(b)mae “plentyn” hefyd yn cynnwys unrhyw riant sydd o dan 18 oed.

(4Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig ar gyfer atal bwlio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd sy'n cynnwys yn benodol weithdrefn ar gyfer ymdrin â honiad o fwlio.

Lleoliadau

13.—(1Cyn darparu llety ar gyfer teulu yn y ganolfan breswyl i deuluoedd, neu os nad yw hynny'n rhesymol ymarferol, cyn gynted â phosibl wedyn, rhaid i'r person cofrestredig lunio cynllun ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y cynllun lleoliad”), gan ymgynghori â'r awdurdod lleoli, a chan nodi yn benodol —

(a)y cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i gael eu darparu yn ystod y lleoliad;

(b)amcanion y lleoliad a'i ganlyniad arfaethedig.

(2Rhaid i'r person cofrestredig gadw'r cynllun lleoliad o dan sylw a'i adolygu yn ôl yr angen.

(3Wrth baratoi neu adolygu'r cynllun lleoliad, rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol —

(a)ofyn barn aelodau'r teulu a'i chymryd i ystyriaeth;

(b)cymryd i ystyriaeth unrhyw asesiad neu adroddiad perthnasol arall sy'n ymwneud ag unrhyw aelod o'r teulu y gall yr awdurdod lleoli ei ddarparu.

(4Rhaid i'r person cofrestredig roi copi o'r cynllun lleoliad ac o unrhyw ddiwygiad iddo i'r awdurdod lleoli ac i'r rhiant yn y teulu y mae'n ymwneud ag ef

Cyfleusterau a gwasanaethau

14.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 4(6), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau ar gyfer trigolion yn unol â'r datganiad o ddiben.

(2O roi sylw i faint y ganolfan breswyl i deuluoedd a nifer ac anghenion y trigolion, rhaid i'r person cofrestredig —

(a)darparu cyfleusterau ffôn sy'n addas at anghenion y trigolion, a gwneud trefniadau i alluogi'r trigolion i ddefnyddio'r cyfleusterau hynny yn breifat;

(b)darparu, yn yr ystafelloedd a feddiennir gan deuluoedd, ddodrefn, dillad gwely a chelfi eraill digonol, gan gynnwys llenni, gorchuddion i'r llawr ac offer;

(c)darparu cyfleusterau golchi i'r rhieni olchi, sychu a smwddio dillad a llieiniau i'w teuluoedd;

(ch)darparu defnyddiau ac offer digonol ac addas ar gyfer glanhau;

(d)darparu offer cegin, llestri, cytleri a theclynnau digonol ac addas, a chyfleusterau digonol ar gyfer storio bwyd;

(dd)darparu cyfleusterau addas i'r rhieni baratoi bwyd i'w teuluoedd, a chyfleusterau bwyta addas i'r trigolion;

(e)cymryd rhagofalon digonol rhag risg damweiniau, gan gynnwys hyfforddi mewn cymorth cyntaf i bersonau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd;

(f)darparu man lle y gall arian a phethau gwerthfawr y trigolion gael eu hadneuo i gael eu rhoi'n ddiogel; ac

(ff)darparu cyfleusterau digonol ar gyfer adloniant a hamdden.

Staffio'r ganolfan breswyl i deuluoedd

15.  Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, o roi sylw i'r canlynol —

(a)datganiad o ddiben y ganolfan breswyl i deuluoedd o'i diben, ei maint a nifer ac anghenion ei thrigolion; ac

(b)yr angen i ddiogelu a hybu iechyd a lles y trigolion,

fod nifer digonol o bersonau a chanddynt gymwysterau, medrau a phrofiad addas yn gweithio i'r ganolfan breswyl i deuluoedd.

Ffitrwydd y gweithwyr

16.—(1Rhaid i'r person cofrestredig beidio —

(a)â chyflogi person i weithio at ddibenion y ganolfan breswyl i deuluoedd oni bai fod y person hwnnw yn ffit i weithio i ganolfan breswyl i deuluoedd; na

(b)caniatáu i berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo weithio at ddibenion y ganolfan breswyl i deuluoedd oni bai fod y person hwnnw yn ffit i weithio i ganolfan breswyl i deuluoedd.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir gan berson heblaw'r person cofrestredig mewn swydd lle y gallai ddod i gysylltiad yn rheolaidd â'r trigolion yn ystod ei ddyletswyddau.

(3At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio mewn canolfan breswyl i deuluoedd oni bai —

(a)bod ganddo'r cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni;

(b)ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol at ddibenion y gwaith y mae i'w gyflawni; ac

(c)bod gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 wedi'i sicrhau mewn perthynas ag ef neu hi.

(4Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio i ganolfan breswyl i deuluoedd ac nad yw paragraff (2) yn gymwys iddo yn cael ei oruchwylio'n briodol wrth gyflawni ei ddyletswyddau.

Cyflogi staff

17.—(1Rhaid i'r person cofrestredig —

(a)sicrhau bod pob penodiad parhaol yn ddarostyngedig i gwblhau cyfnod prawf yn foddhaol; a

(b)rhoi i bob cyflogai ddisgrifiad swydd yn amlinellu eu cyfrifoldebau.

(2Rhaid i'r person cofrestredig weithredu gweithdrefn ddisgyblu a fydd, yn benodol —

(a)yn darparu ar gyfer atal cyflogai o'i swydd os yw hynny'n angenrheidiol er lles diogelwch neu les y plant yn y ganolfan breswyl i deuluoedd;

(b)yn darparu bod methiant ar ran cyflogai i roi gwybod am ddigwyddiad o gamdriniaeth, neu gamdriniaeth a amheuir ar blentyn yn y ganolfan breswyl i deuluoedd i berson priodol yn sail dros ddechrau achos disgyblu.

(3At ddibenion paragraff (2)(b), person priodol yw —

(a)y person cofrestredig;

(b)un o swyddogion swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol;

(c)swyddog heddlu;

(ch)un o swyddogion yr awdurdod lleol y mae'r ganolfan breswyl i deuluoedd wedi'i lleoli yn ei ardal; neu

(d)un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant.

(4Ym mharagraff (2), mae “plentyn” hefyd yn cynnwys rhiant sydd o dan 18 oed.

(5Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob person a gyflogir ganddo —

(a)yn cael hyfforddiant, goruchwyliaeth a gwerthusiadau priodol; a

(b)yn cael eu galluogi o dro i dro i ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith y maent yn ei gyflawni.

Barn y staff ynghylch rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd

18.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw fater sy'n ymwneud â rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd i'r graddau y gallai adlewyrchu iechyd neu les y trigolion.

(2Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau i alluogi personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd i roi gwybod i'r person cofrestredig a swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol am unrhyw fater y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo.

Cofnodion

19.—(1Rhaid i'r person cofrestredig gadw, mewn perthynas â phob teulu sy'n cael ei letya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd, gofnod sydd —

(a)yn cynnwys yr wybodaeth, y dogfennau a'r cofnodion eraill a bennir yn Atodlen 3 mewn perthynas ag aelodau'r teulu;

(b)yn cael ei gadw yn gyfoes; ac

(c)yn cael ei gadw mewn lle diogel am gyfnod o bymtheng mlynedd ar ôl dyddiad y cofnod olaf.

(2Rhaid i'r cofnod a grybwyllir ym mharagraff (1) gael ei gadw'n ddiogel a rhaid peidio â'i ddatgelu i neb ac eithrio yn unol â'r canlynol —

(a)unrhyw ddarpariaeth mewn statud sydd yn awdurdodi gweld y cofnodion hynny odano, neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan statud felly neu yn rhinwedd statud felly; neu

(b)unrhyw orchymyn llys sy'n awdurdodi gweld cofnodion o'r fath.

(3Rhaid hefyd i'r person cofrestredig gadw'r cofnodion a bennir yn Atodlen 4 mewn perthynas â'r ganolfan breswyl i deuluoedd.

(4Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) —

(a)yn cael eu cadw yn gyfoes;

(b)ar gael bob amser i'w harchwilio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd gan unrhyw berson a awdurdodir gan swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol i fynd i'r ganolfan breswyl i deuluoedd a'i harchwilio; ac

(c)yn cael eu cadw am gyfnod o nid llai na thair blynedd ar ôl dyddiad y cofnod olaf.

(5Rhaid i gofnod sy'n cael ei gadw yn unol â pharagraff (1) gael ei gadw yn y ganolfan breswyl i deuluoedd cyhyd ag y bydd y teulu y mae'n ymwneud ag ef yn cael ei letya yno.

Cwynion

20.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu gweithdrefn (“y weithdrefn gwynion”) ar gyfer ystyried cwynion a wneir i'r person cofrestredig gan drigolyn neu gan berson sy'n gŵeithredu ar ran trigolyn.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw gŵ yn a wneir o dan y weithdrefn gŵ ynion yn cael ei hymchwilio'n llawn.

(3Rhaid i'r person cofrestredig roi copi ysgrifenedig o'r weithdrefn gŵ ynion i unrhyw drigolyn ac i unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran trigolyn os gofynnir amdano.

(4Rhaid i'r copi ysgrifenedig o'r weithdrefn gŵynion gynnwys —

(a)enw a chyfeiriad swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, a

(b)y weithdrefn (os oes un) y mae swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r person cofrestredig ar gyfer gwneud cwynion i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol sy'n ymwneud â chanolfannau preswyl i deuluoedd.

(5Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r person a wnaeth y gŵ yn am y camau sydd i'w cymryd (os oes rhai), a hynny o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad gwneud y gŵ yn, neu unrhyw gyfnod byrrach a fydd yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

(6Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud o unrhyw gŵyn neu sylw, o'r camau a gymerir mewn ymateb iddynt, ac o ganlyniad yr ymchwiliad.

(7Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan ofynnir amdano ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeg mis blaenorol a'r camau a gymerwyd.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources