Search Legislation

Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN ICYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Medi 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chanolfannau preswyl i deuluoedd yng Nghymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod lleoli” (“placing authority”), mewn perthynas â theulu, yw'r awdurdod lleol neu'r corff arall sy'n gyfrifol am drefnu lletya'r teulu mewn canolfan breswyl i deuluoedd;

ystyr “corff” (“organisation”) yw corff corfforedig;

ystyr “cynllun lleoliad” (“placement plan”) yw'r cynllun a baratoir yn unol â rheoliad 13;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “darparydd cofrestredig” (“registered provider”), mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o Ddeddf 2000 fel y person sy'n rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd;

ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad ysgrifenedig a lunnir yn unol â rheoliad 4;

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989(1);

ystyr “y Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;

ystyr “person cofrestredig” (“registered person”), mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd, yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu'n rheolwr cofrestredig y ganolfan breswyl i deuluoedd;

ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”), mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel rheolwr y ganolfan breswyl i deuluoedd;

mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” gan adran 4(2) o Ddeddf 2000;

ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd —

(a)

os oes swyddfa wedi'i phennu o dan baragraff (5) ar gyfer yr ardal y mae'r ganolfan breswyl i deuluoedd wedi'i leoli ynddi, yw'r swyddfa honno;

(b)

mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;

ystyr “teulu” (“family”) yw plentyn a rhiant y plentyn yn cael eu lletya neu i gael eu lletya gyda'i gilydd mewn canolfan breswyl i deuluoedd, a dehonglir yr ymadrodd “aelod o'r teulu” (“member of the family”) yn unol â hynny;

ystyr “trigolyn” (“resident”) yw unrhyw berson sydd am y tro yn cael ei letya mewn canolfan breswyl i deuluoedd;

dehonglir “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yn unol â rheoliad 5;

ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig sydd—

(a)

yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(2),

(b)

yn cyflawni gwasanaethau meddygol cyffredinol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997(3); neu

(c)

yn darparu gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau sy'n cael eu darparu o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 heblaw yn unol â'r Ddeddf honno; a

mae i “ymholiad amddiffyn plant” (“child protection enquiry”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 12(3)(a).

(2Yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio lle darperir fel arall, nid yw cyfeiriadau at blentyn yn cynnwys rhiant sy'n cael ei letya mewn canolfan breswyl i deuluoedd sydd o dan 18 oed.

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio, a ph'un ai o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, a chaniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr, a dehonglir cyfeiriadau at gyflogai neu at gyflogi person yn unol â hynny.

(4Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad —

(a)at reoliad neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu at yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y Rhif hwnnw; a

(b)mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y Rhif hwnnw.

(5Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa o dan ei reolaeth fel y swyddfa briodol mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd sydd wedi'u lleoli mewn ardal benodol yng Nghymru.

Sefydliadau sydd wedi'u heithrio

3.  At ddibenion y Deddf 2000, mae sefydliad wedi'i eithrio o fod yn ganolfan breswyl i deuluoedd —

(a)os yw'n ysbyty gwasanaeth iechyd, yn ysbyty annibynnol, yn glinig annibynnol neu'n gartref gofal;

(b)os yw'n hostel neu'n lloches rhag trais domestig; neu

(c)mewn unrhyw achos arall, os darparu llety ynghyd â gwasanaethau neu gyfleusterau eraill i unigolion sydd yn oedolion yw prif ddiben y sefydliad, ac os mae'r ffaith y gall yr unigolion hynny fod yn rhieni, neu y gall eu plant fod gyda hwy, yn ail i brif ddiben y sefydliad.

Datganiad o Ddiben

4.—(1Rhaid i'r person cofrestredig lunio mewn perthynas â'r ganolfan breswyl i deuluoedd ddatganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y datganiad o ddiben”) a rhaid iddo gynnwys datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 1.

(2Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a rhaid iddo drefnu bod copi ohono ar gael, pan ofynnir amdano, i gael ei archwilio —

(a)gan unrhyw berson sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd;

(b)gan unrhyw un o'r trigolion;

(c)gan unrhyw awdurdod lleol sy'n arfer unrhyw swyddogaethau o dan Ddeddf 1989 mewn perthynas â'r ganolfan breswyl i deuluoedd.

(3Rhaid i'r person cofrestredig gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r ganolfan breswyl i deuluoedd (yr “arweiniad trigolyn”) sy'n cynnwys crynodeb o'r datganiad o ddiben, a rhaid iddo ddarparu copi ohono i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a phob rhiant sy'n cael eu lletya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

(4Rhaid i'r person cofrestredig —

(a)cadw'r datganiad o ddiben a'r arweiniad i'r trigolion o dan sylw, a'u diwygio os yw'n briodol; a

(b)hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o fewn 28 diwrnod ar ôl unrhyw ddiwygiad o'r fath.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6) rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y ganolfan breswyl i deuluoedd yn cael ei rhedeg bob amser mewn modd sy'n gyson â'i datganiad o ddiben.

(6Ni fydd dim ym mharagraff (5) nac yn rheoliadau 14(1) nac 21(1) yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi'r person cofrestredig i dorri'r canlynol neu i beidio â chydymffurfio â hwy —

(a)unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn; neu

(b)yr amodau sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â chofrestru'r person cofrestredig o dan Ran II o Ddeddf 2000.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources