Search Legislation

Gorchymyn Pysgod Cregyn (Ardal Fôr Benodedig) (Gwahardd Dulliau Pysgota) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 607 (Cy.81)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Gorchymyn Pysgod Cregyn (Ardal Fôr Benodedig) (Gwahardd Dulliau Pysgota) (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

6 Mawrth 2003

Yn dod i rym

9 Mawrth 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 5, 5A a 15(3) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(1), ac sydd yn awr wedi eu breinio ynddo(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enw a chychwyn

1.   Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgod Môr (Ardal Fôr Benodedig) (Gwahardd Dulliau Pysgota) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 9 Mawrth 2003.

Dehongli

2.   Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “yr ardal fôr benodedig” (“the specified sea area”) yw'r ardal hwnnw o Fae Caerfyrddin sydd i'r gogledd o linell yn rhedeg yn union tua'r de o Benrhyn Gŵ yr i bwynt y mae ei yn gyfesurynnau yn 04°10−Gor, 51°30−Gog yna tua'r gorllewin i 04°27−Gor, 51°30−Gog, yna tua'r gogledd i 04°27−Gor, 51°36−Gog, yna tua'r gorllewin i 04°42−Gor, 51°36−Gog, ac yna yn union tua'r gogledd ar draws yr Ynys Bŷr i'r arfordir yn Nimbych y Pysgod;

ystyr “carthu hydrolig” (“hydraulic dredging”) yw'r dull o bysgota am folysgiaid dwygragennog sydd wedi'u claddu yng ngwely'r môr drwy dynnu'r carthwr y tu ôl i'r cwch ar ben pibell â thrawsfesur o 10-20cm a phwmpio dŵr o dan bwysedd uchel i geg y carthwr a'i gyfeirio yn ôl i fyny'r bibell gan greu sugnedd sy'n peri i ddeunydd, gan gynnwys y pysgod y certhir amdanynt, gael eu codi i wyneb y dŵ r,

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967;

ystyr “molysgiaid dwygragennog” (“bivalve molluscs”) yw molysciaid gyda chragen ddeuran golfachog sy'n cau am ddarnau meddal yr anifail.

Gwaharddiad

3.  Mae carthu hydrolig i hel molysgiaid dwygragennog yn yr ardal fôr benodedig drwy hyn yn cael ei wahardd.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig o ran cychod pysgota

4.—(1At ddibenion gorfodi erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer mewn cysylltiad ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig sydd yn y môr tiriogaethol cyfagos i Gymru y pwerau a roddir gan baragraffau (2) i (4) o'r Erthygl hon.

(2Caiff y swyddog fynd ar y cwch, boed gyda phobl wedi eu pennu i gynorthwyo gyda dyletswyddau'r swyddog neu hebddynt, ac i'r perwyl hwnnw, caiff fynnu bod y cwch yn aros a chaiff wneud unrhyw beth arall a fyddai yn hwyluso mynd ar y cwch.

(3Caiff y swyddog fynnu presennoldeb y meistr a phobl eraill ar y cwch a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiad yr ymddengys fod eu hangen at y dibenion a nodwyd ym mharagraff (1) o'r Erthygl hon ac, yn benodol—

(a)caiff archwilio unrhyw bysgodyn sydd ar y cwch a chyfarpar y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a mynnu bod pobl sydd ar y cwch yn gwneud unrhyw beth sydd, yn nhyb y swyddog, ei angen i hwyluso'r archwilio;

(b)caiff fynnu bod unrhyw unigolyn ar y cwch yn dangos unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r cwch, ei weithredoedd pysgota, neu weithredoedd sy'n ategol iddynt neu i'r bobl ar y cwch, sydd ym meddiant yr unigolyn hwnnw neu yn eiddo iddo a chaiff gymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath;

(c)at ddibenion canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni trosedd o dan adran 5 o'r Ddeddf fel y'i darllenir gyda'r Gorchymyn hwn, caiff archwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a mynnu bod unrhyw unigolyn ar y cwch yn gwneud unrhyw beth sydd, yn nhyb y swyddog, ei angen i hwyluso'r archwiliad, ac

(ch)os oes gan y swyddog reswm dros gredu bod trosedd o'r fath wedi ei gyflawni mewn cysylltiad â'r cwch, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen a gyflwynir neu a ddarganfyddir ar y cwch at ddibenion galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos sy'n ymwneud â'r trosedd;

ond nid yw dim byd yn is-baragraff (ch) uchod yn caniatáu i unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol o dan y gyfraith ei chludo ar gwch gael ei chipio a'i chadw ac eithrio pan fo'r cwch wedi ei ddal mewn porthladd.

(4Os ymddengys i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod adran 5 o'r Ddeddf fel y'i darllenir gyda'r Gorchymyn hwn wedi ei thorri ar unrhyw adeg o fewn ffiniau pysgodfeydd Prydain, caiff y swyddog hwnnw—

(a)mynnu bod meistr y cwch y bu'r trosedd yn gysylltiedig ag ef yn mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd sydd, yn nhyb y swyddog, y porthladd cyfleus agosaf, neu caiff y swyddog yntau wneud hynny; a

(b)dal y cwch yn y porthladd neu fynnu bod y meistr yn ei ddal yno;

ac os bydd swyddog o'r fath yn dal cwch neu'n mynnu bod cwch yn cael ei dal rhaid i'r swyddog hwnnw gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig y bydd, neu fod, angen dal y cwch hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Mawrth 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Adran 5 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 yn cynnwys pŵ er i wahardd pysgota am bysgod môr yn llwyr, neu wahardd pysgota am fath penodol o bysgod môr, neu ddull penodol o bysgota, naill ai am bysgod môr yn gyffredinol neu am fathau penodol o bysgod môr. Yn rhinwedd Adran 22 o'r Ddeddf honno mae pysgod môr yn cynnwys pysgod cregyn. Mae Adran 5A o'r Ddeddf yn caniatáu i'r pŵ er i wneud gorchymyn o dan adran 5 gael ei ddefnyddio at ddibenion amgylchedd y môr. Mae'r pŵ er yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn cysylltiad â'r môr tiriogaethol cyfagos at Gymru.

Mae'r rhan honno o'r môr oddi ar arfordir De Cymru a ddisgrifir yn erthygl 2 o'r Gorchymyn wedi ei nodi yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig ddichonol at ddibenion y Gyfarwyddeb Adar (Cyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC).

Mae'r ardal dan sylw yn safle pwysig i Fôr-hwyaid Duon pan nad ydynt yn magu, ac mae'r Gorchymyn hwn yn gwahardd carthu hydrolig am folysgiaid dwygragennog yn yr ardal honno. Ceir esemptiadau gwyddonol ac eraill yn adran 9 o Ddeddf 1967.

Mae'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau yn ymwneud â gorfodi. Ceir darpariaethau eraill, gan gynnwys rhai ynghylch tramgwyddau, yn Neddf 1967.

(2)

Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999 Rhif 672) trosglwyddwyd swyddogaethau “y Gweinidogion” o dan y Ddeddf i'r Cynulliad.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources