- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
4.—(1) At ddibenion gorfodi erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer mewn cysylltiad ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig sydd yn y môr tiriogaethol cyfagos i Gymru y pwerau a roddir gan baragraffau (2) i (4) o'r Erthygl hon.
(2) Caiff y swyddog fynd ar y cwch, boed gyda phobl wedi eu pennu i gynorthwyo gyda dyletswyddau'r swyddog neu hebddynt, ac i'r perwyl hwnnw, caiff fynnu bod y cwch yn aros a chaiff wneud unrhyw beth arall a fyddai yn hwyluso mynd ar y cwch.
(3) Caiff y swyddog fynnu presennoldeb y meistr a phobl eraill ar y cwch a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiad yr ymddengys fod eu hangen at y dibenion a nodwyd ym mharagraff (1) o'r Erthygl hon ac, yn benodol—
(a)caiff archwilio unrhyw bysgodyn sydd ar y cwch a chyfarpar y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a mynnu bod pobl sydd ar y cwch yn gwneud unrhyw beth sydd, yn nhyb y swyddog, ei angen i hwyluso'r archwilio;
(b)caiff fynnu bod unrhyw unigolyn ar y cwch yn dangos unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r cwch, ei weithredoedd pysgota, neu weithredoedd sy'n ategol iddynt neu i'r bobl ar y cwch, sydd ym meddiant yr unigolyn hwnnw neu yn eiddo iddo a chaiff gymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath;
(c)at ddibenion canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni trosedd o dan adran 5 o'r Ddeddf fel y'i darllenir gyda'r Gorchymyn hwn, caiff archwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a mynnu bod unrhyw unigolyn ar y cwch yn gwneud unrhyw beth sydd, yn nhyb y swyddog, ei angen i hwyluso'r archwiliad, ac
(ch)os oes gan y swyddog reswm dros gredu bod trosedd o'r fath wedi ei gyflawni mewn cysylltiad â'r cwch, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen a gyflwynir neu a ddarganfyddir ar y cwch at ddibenion galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos sy'n ymwneud â'r trosedd;
ond nid yw dim byd yn is-baragraff (ch) uchod yn caniatáu i unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol o dan y gyfraith ei chludo ar gwch gael ei chipio a'i chadw ac eithrio pan fo'r cwch wedi ei ddal mewn porthladd.
(4) Os ymddengys i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod adran 5 o'r Ddeddf fel y'i darllenir gyda'r Gorchymyn hwn wedi ei thorri ar unrhyw adeg o fewn ffiniau pysgodfeydd Prydain, caiff y swyddog hwnnw—
(a)mynnu bod meistr y cwch y bu'r trosedd yn gysylltiedig ag ef yn mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd sydd, yn nhyb y swyddog, y porthladd cyfleus agosaf, neu caiff y swyddog yntau wneud hynny; a
(b)dal y cwch yn y porthladd neu fynnu bod y meistr yn ei ddal yno;
ac os bydd swyddog o'r fath yn dal cwch neu'n mynnu bod cwch yn cael ei dal rhaid i'r swyddog hwnnw gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig y bydd, neu fod, angen dal y cwch hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: