- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
14.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu, os —
(a)ar ddiwedd y cyfnod ymsefydlu, cyflogir y person hwnnw mewn ysgol neu goleg chweched dosbarth yng Nghymru, neu
(b)ar ddiwedd cyfnod ymsefydlu a wasanaethir mewn dau sefydliad neu fwy ar yr un pryd, mae sefydliad y pennaeth arweiniol yng Nghymru.
(2) O fewn deg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan gwblhawyd y cyfnod ymsefydlu —
(a)rhaid i bennaeth yr ysgol neu goleg chweched dosbarth lle mae person yn cael ei gyflogi ar ddiwedd cwblhau y cyfnod ymsefydlu wneud argymhelliad ysgrifenedig i'r corff priodol a yw'r person wedi cyflawni'r safonau a grybwyllwyd yn rheoliad 13, a
(b)os argymhelliad ydyw nad yw'r safonau wedi eu cyflawni, gall y pennaeth argymell ymestyn y cyfnod ymsefydlu a hyd ymestyniad o'r fath, a
(c)rhaid i'r pennaeth anfon copi ar yr un pryd o'r argymhelliad at y person dan sylw ac,
(i)yn achos ysgol berthnasol neu goleg chweched dosbarth, at gorff llywodraethu'r ysgol neu'r coleg lle mae'r person yn cael ei gyflogi, neu
(ii)yn achos ysgol annibynnol, at y perchennog.
(3) Os yw person wedi gwasanaethu cyfnod ymsefydlu mewn mwy nag un sefydliad addysg, rhaid i'r pennaeth wrth wneud argymhelliad o dan baragraff (2) gymryd i ystyriaeth unrhyw ddogfennau neu adroddiadau a gyflwynwyd o dan reoliad 11(3).
(4) Cyn gwneud argymhelliad o dan baragraff (2), rhaid i'r pennaeth ei drafod gyda'r person o dan sylw.
(5) Rhaid i'r corff priodol o fewn ugain diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd argymhelliad y pennaeth o dan baragraff (2) benderfynu —
(a)a yw'r person sydd wedi cwblhau'r cyfnod ymsefydlu wedi cyflawni'r safonau a grybwyllwyd yn rheoliad 13 ac felly wedi cwblhau'n foddhaol ei gyfnod ymsefydlu; neu
(b)a ddylid ymestyn ei gyfnod ymsefydlu yn unol ag unrhyw gyfnod ag y bydd yn ei benderfynu ond
(i)yn achos athro neu athrawes sy'n gweithio'n llawn-amser yn unol â chyfnod nad yw'n hwy na'r cyfnod priodol a nodwyd yn rheoliad 7(1); neu
(ii)yn achos athro neu athrawes sy'n gweithio'n rhan amser yn unol â chyfnod nad yw'n hwy na'r cyfnod a nodwyd yn rheoliad 7(2) neu (3); neu
(c)a yw'r person wedi methu â chwblhau'n foddhaol ei gyfnod ymsefydlu.
(6) Cyn gwneud penderfyniad o dan baragraff (5) bydd y corff priodol yn cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau ysgrifenedig a dderbyniwyd oddi wrth y person dan sylw o fewn cyfnod o ddeg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y person hwnnw argymhelliad y pennaeth o dan baragraff (2) (c).
(7) Rhaid i'r corff priodol o fewn y cyfnod o dri diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan wnaeth y penderfyniad o dan baragraff (5) —
(a)roi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad —
(i)i'r person dan sylw,
(ii)yn achos ysgol berthnasol neu goleg chweched dosbarth, i gorff llywodraethu'r ysgol neu'r coleg lle mae'r person yn cael ei gyflogi,
(iii)yn achos ysgol annibynnol, i'r perchennog,
(iv)i bennaeth yr ysgol neu'r coleg chweched dosbarth yr oedd yn cael ei gyflogi ynddi neu ynddo ar ddiwedd y cyfnod ymsefydlu,
(v)os nad yw'r person hwnnw yn cael ei gyflogi gan y corff priodol, i'w gyflogwr (os nad oes hawl ganddo i gael hysbysiad o dan baragraff (ii) neu (iii) uchod), a
(vi)i'r Cyngor; a
(b)os gwnaeth y corff priodol benderfyniad sy'n dod o fewn paragraff (5)(b) neu (c), roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person dan sylw o —
(i)ei hawl i apelio i'r Cyngor yn erbyn y penderfyniad,
(ii)cyfeiriad y Cyngor, a
(iii)y cyfnod amser ar gyfer apelio.
(8) Gellir rhoi hysbysiad o dan baragraff (7) i berson drwy ffacsimili, post electronig neu ddulliau cyffelyb eraill sy'n gallu cynhyrchu dogfen sy'n cynnwys testun y cyfathrebiad, ac ystyrir bod hysbysiad a anfonir drwy ddull o'r fath wedi cael ei roi pan gaiff ei dderbyn mewn ffurf ddarllenadwy
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: