- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5.—(1) Rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol, o fewn 2 wythnos o'r dyddiad dechrau, roi hysbysiad apêl i unrhyw—
(a)berson y cyflwynwyd copi o'r hysbysiad gorfodi iddo;
(b)meddiannydd eiddo yn yr ardal lle lleolir y tir y mae'r hysbysiad gorfodi yn berthnasol iddo; ac
(c)personau eraill yr effeithir arnynt ym marn yr awdurdod cynllunio lleol gan dorri ar y rheolaeth gynllunio neu fynd yn groes i reolaeth adeiladau rhestredig neu ardaloedd cadwraeth ac a honnir yn yr hysbysiad gorfodi.
(2) Rhaid i'r hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) gynnwys—
(a)enw'r apelydd a chyfeiriad y tir y mae'r apêl yn berthnasol iddynt;
(b)y dyddiad dechrau;
(c)y cyfeirnod a ddyrannwyd i'r apêl;
(ch)disgrifiad o'r torri honedig ar y rheolaeth;
(d)yn achos apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi o dan adran 172 o'r Ddeddf Gynllunio, datganiad sy'n nodi'r materion ychwanegol a bennir yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau;
(dd)y sail, neu'r seiliau, o dan adran 174(2) o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 39(1) o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, yn ôl y digwydd, dros apelio;
(e)datganiad y gellir anfon sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol fel ei fod yn eu cael o fewn 6 wythnos o'r dyddiad dechrau a'r cyfeiriad y dylid anfon y sylwadau hynny iddo;
(f)datganiad yr anfonir unrhyw sylwadau a wneir gan berson a grybwyllir ym mharagraff (1) at yr apelydd ac i'r awdurdod cynllunio lleol; ac
(ff)datganiad y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried y sylwadau hynny pan fydd yn penderfynu'r apêl oni bai fod unrhyw berson a grybwyllir ym mharagraff (1) yn eu tynnu yn ôl o fewn 6 wythnos o'r dyddiad dechrau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: