- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
8.—(1) Os bydd arolygydd yn gwybod neu'n amau bod y clefyd yn bodoli ar unrhyw dir ac mewn unrhyw adeiladau, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad ar unwaith i'r meddiannydd neu i geidwad unrhyw anifeiliaid ar y tir ac yn yr adeiladau sy'n ei gwneud yn ofynnol—
(a)nad yw unrhyw anifail, carcas, ofwm, semen neu embryo yn mynd i'r tir ac i'r adeiladau nac yn ymadael â hwynt;
(b)llunio stocrestr o'r holl anifeiliaid ar y tir ac yn yr adeiladau a chofnodi, ar gyfer pob rhywogaeth —
(i)y nifer sydd wedi marw;
(ii)y nifer sydd yn fyw ac y mae'n ymddangos i'r meddiannydd neu'r ceidwad eu bod wedi'u heintio â'r clefyd; a
(iii)y nifer sy'n fyw y mae'n ymddangos i'r meddiannydd neu'r ceidwad nad ydynt wedi'u heintio â'r clefyd;
(c)bod y stocrestr hon yn cael ei chadw'n gyfoes i gymryd cyfrif o'r anifeiliaid sy'n cael eu geni ac yn marw ac yn cael ei dangos i'r arolygydd ar ei gais.
(2) Caiff arolygydd drwy unrhyw hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff (1), —
(a)yn ei gwneud yn ofynnol bod anifeiliaid ar y tir ac yn yr adeiladau yn cael eu cadw dan do neu ar unrhyw ran penodol o'r tir ac adeiladau;
(b)yn ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd neu'r ceidwad gydymffurfio â mesurau rheoli fectorau penodedig; ac
(c)yn ei gwneud yn ofynnol i ddifa, claddu, neu waredu carcasau.
(3) Caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol hefyd gyflwyno hysbysiad o'r fath i feddiannydd tir ac adeiladau sydd oherwydd ei leoliad, sefyllfa ddaearyddol neu gysylltiadau â thir ac adeiladau lle gwyddys neu yr amheuir bod y clefyd yno (yng Nghymru neu yn rhywle arall) sy'n rhoi sail dros amau fod y clefyd yno, bod y lle'n agored iddo neu fod presenoldeb fectorau yno.
(4) Gellir cyflwyno hysbysiadau o dan baragraffau (1) a (2) os cafodd hysbysiadau eu rhoi o dan erthygl 6 neu beidio.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: