Hysbysiadau gan arolygwyr8.

(1)

Os bydd arolygydd yn gwybod neu'n amau bod y clefyd yn bodoli ar unrhyw dir ac mewn unrhyw adeiladau, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad ar unwaith i'r meddiannydd neu i geidwad unrhyw anifeiliaid ar y tir ac yn yr adeiladau sy'n ei gwneud yn ofynnol—

(a)

nad yw unrhyw anifail, carcas, ofwm, semen neu embryo yn mynd i'r tir ac i'r adeiladau nac yn ymadael â hwynt;

(b)

llunio stocrestr o'r holl anifeiliaid ar y tir ac yn yr adeiladau a chofnodi, ar gyfer pob rhywogaeth —

(i)

y nifer sydd wedi marw;

(ii)

y nifer sydd yn fyw ac y mae'n ymddangos i'r meddiannydd neu'r ceidwad eu bod wedi'u heintio â'r clefyd; a

(iii)

y nifer sy'n fyw y mae'n ymddangos i'r meddiannydd neu'r ceidwad nad ydynt wedi'u heintio â'r clefyd;

(c)

bod y stocrestr hon yn cael ei chadw'n gyfoes i gymryd cyfrif o'r anifeiliaid sy'n cael eu geni ac yn marw ac yn cael ei dangos i'r arolygydd ar ei gais.

(2)

Caiff arolygydd drwy unrhyw hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff (1), —

(a)

yn ei gwneud yn ofynnol bod anifeiliaid ar y tir ac yn yr adeiladau yn cael eu cadw dan do neu ar unrhyw ran penodol o'r tir ac adeiladau;

(b)

yn ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd neu'r ceidwad gydymffurfio â mesurau rheoli fectorau penodedig; ac

(c)

yn ei gwneud yn ofynnol i ddifa, claddu, neu waredu carcasau.

(3)

Caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol hefyd gyflwyno hysbysiad o'r fath i feddiannydd tir ac adeiladau sydd oherwydd ei leoliad, sefyllfa ddaearyddol neu gysylltiadau â thir ac adeiladau lle gwyddys neu yr amheuir bod y clefyd yno (yng Nghymru neu yn rhywle arall) sy'n rhoi sail dros amau fod y clefyd yno, bod y lle'n agored iddo neu fod presenoldeb fectorau yno.

(4)

Gellir cyflwyno hysbysiadau o dan baragraffau (1) a (2) os cafodd hysbysiadau eu rhoi o dan erthygl 6 neu beidio.