Search Legislation

Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cymeriad Crefyddol Ysgolion) (Gweithdrefn Ddynodi) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 3233 (Cy.313)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cymeriad Crefyddol Ysgolion) (Gweithdrefn Ddynodi) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

9 Rhagfyr 2003

Yn dod i rym

1 Ionawr 2004

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 69(5) fel y'i cymhwysir i ysgolion annibynnol, a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1), ac a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cymeriad Crefyddol Ysgolion) (Gweithdrefn Ddynodi) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

(a)ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

(b)ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

(c)ystyr “y grefydd berthnasol neu'r enwad crefyddol perthnasol” (“the relevant religion or religious denomination”) yw'r grefydd neu'r enwad crefyddol (neu bob un o'r crefyddau neu'r enwadau crefyddol hyn) y darperir addysg neu y bydd yn rhaid ei ddarparu yn yr ysgol neu y rheolir yr ysgol yn unol â'u daliadau.

(ch)ystyr “adran 69(3)” (“section 69(3)”) yw adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel y mae'n gymwys i ysgolion annibynnol.

Cymhwyso'r Rheoliadau hyn

3.  Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r weithdrefn y mae'n rhaid ei dilyn mewn cysylltiad â —

(a)dynodi, mewn gorchymyn o dan adran 69(3), ysgol annibynnol yn ysgol grefyddol ei chymeriad; a

(b)datgan yn y gorchymyn hwnnw, mewn perthynas â'r ysgol honno, y grefydd berthnasol neu'r enwad crefyddol perthnasol.

Gweithdrefn gwneud cais

4.—(1Er mwyn i ysgol annibynnol gael ei dynodi yn ysgol grefyddol ei chymeriad, rhaid i berchennog yr ysgol wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am orchymyn o dan adran 69(3).

(2Rhaid i'r cais —

(a)datgan crefydd berthnasol neu enwad crefyddol perthnasol yr ysgol;

(b)cynnwys y sail dros wneud y cais ynghyd ag unrhyw dystiolaeth sy'n cefnogi'r sail honno; ac

(c)cynnwys unrhyw sylwadau a wneir gan gorff crefyddol ar ran yr ysgol.

(3Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cael cais am orchymyn, o dan y Rheoliadau hyn, caiff ymgynghori ag unrhyw gorff crefyddol y mae'n ei farnu'n briodol ynghylch cais yr ysgol.

Gweithdrefn ddynodi

5.—(1Os bydd perchennog ysgol yn gwneud cais am orchymyn o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddynodi'r ysgol yn ysgol grefyddol ei chymeriad os —

(a)yw'n fodlon y rheolir yr ysgol neu fod yr addysg a ddarperir yn yr ysgol yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol; a

(b)bod rhai neu'r cyfan o'r tiroedd a'r adeiladau a feddiennir gan yr ysgol ar hyn o bryd wedi'u darparu ar ymddiried mewn cysylltiad â —

(i)darparu addysg, neu

(ii)rheoli sefydliad addysgol

yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol; neu

(c)bod o leiaf un aelod o'r corff llywodraethu yn berson a benodwyd yn llywodraethwr i gynrychioli buddiannau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol; neu

(ch)bod offeryn llywodraethu'r ysgol yn darparu —

(i)y rheolir yr ysgol yn unol â daliadau un neu ragor o grefyddau neu enwadau crefyddol; neu

(ii)y darperir yr addysg yn yr ysgol yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol.

(2Os yw perchennog ysgol yn gwenud cais am orchymyn yn unol â'r Rheoliadau yma, ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys, mi all y Cynulliad Cenedlaethol serch hynny ddynodi ysgol sydd â chymeriad crefyddol os yw yn ei ystyried yn addas i wneud hynny, gan ystyried y canlynol—

(a)p'un a yw'r ysgol yn cael ei rheoli yn unol â daliadau un neu ragor o grefyddau neu enwadau crefyddol;

(b)p'un a yw'r addysg yn yr ysgol yn cael ei darparu yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol; ac

(c)unrhyw sylwadau a wneir gan gorff crefyddol ar ran yr ysgol.

(3At ddibenion y rheoliad hwn nid yw unrhyw gyfeiriad at addysg mewn ysgol yn cael ei darparu yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol yn ei gwneud yn ofynnol i'r holl addysg gael ei gwneud yn unol â'r daliadau crefyddol hynny.

Newidiadau mewn dynodiadau a datganiadau

6.—(1Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg o'r farn bod gorchymyn a wnaed yn flaenorol o dan adran 69(3) yn cynnwys camgymeriad perthnasol, neu y methyd yn anghywir i ddynodi unrhyw ysgol; mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud pa bynnag orchymyn o dan yr adran honno y mae'n ystyried yn briodol at ddibenion cywiro'r camgymeriad.

(2Cyn gwneud gorchymyn o dan baragraff (1) sydd yn effeithio dynodiad ysgol arbennig neu'r datganiad o grefydd priodol neu enwad crefyddol mewn perthynas â ysgol arbennig, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori gyda pherchennog yr ysgol honno, a gall ymgynghori gydag unrhyw gorff crefyddol y mae'n ystyried yn briodol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Rhagfyr 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod y weithdrefn y mae'n rhaid ei dilyn pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn gorchymyn o dan adran 69(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 fel y'i cymhwysir i ysgolion annibynnol erbyn adran 124B, a fewnosodwyd i fewn i Ddeddf Safonnau a Fframwaith Ysgolion 1998 gan Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Cyflogaeth Athrawon Mewn Ysgolion gyda Chymeriad Crefyddol) 2003 yn dynodi ysgol annibynnol yn ysgol grefyddol ei chymeriad. Mae adran 124B(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn darparu bod rhaid i orchymyn o dan adran 69(3) ddatgan y crefydd neu'r enwad crefyddol y darperir yr addysg neu y rheolir yr ysgol yn unol â'i daliadau.

Mae rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i berchennog ysgol annibynnol wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am orchymyn o dan adran 69(3) ac mae'n dangos beth y mae'n rhaid ei gynnwys yn y cais hwnnw. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori ag unrhyw gorff crefyddol y mae'n barnu ei fod yn briodol ynghylch cais yr ysgol.

Mae rheoliad 5(1) yn nodi'r amgylchiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud gorchymyn sy'n dynodi ysgol annibynnol yn ysgol grefyddol ei chymeriad. Mae rheoliad 5(2) yn nodi'r amgylchiadau sy'n caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud gorchymyn sy'n dynodi'r ysgol annibynnol yn ysgol o gymeriad crefyddol.

Mae rheoliad 6 yn darparu bod rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddiwygio gorchymyn dynodi mewn perthynas ag ysgol os yw'n fodlon ei fod yn sylweddol anghywir a phryd y mae'n rhaid iddo ymgynghori â pherchennog yr ysgol ynghylch y gwaith diwygio hwnnw.

Nid yw datganiad bod enwad crefyddol ysgol yn Gatholig Rhufeinig yn penderfynu a yw'r ysgol honno yn Ysgol Gatholig yn ôl cyfraith ganonig.

(1)

1998 p.31; mewnosodwyd adran 124B gan Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Cyflogaeth Athrawon Mewn Ysgolion gyda Chymeriad Crefyddol) 2003 (O.S. 2003/2037).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources