- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
34.—(1) Ac eithrio yn achos lleoliad brys neu ddi-oed o dan reoliad 38, dim ond o dan yr amodau canlynol y caiff awdurdod cyfrifol leoli plentyn gyda rhiant maeth—
(a)os yw'r rhiant maeth wedi'i gymeradwyo—
(i)gan yr awdurdod cyfrifol sy'n bwriadu lleoli'r plentyn; neu
(ii)gan ddarparydd gwasanaeth maethu arall, cyhyd â bod yr amodau a bennir ym mharagraff (2) yn cael eu bodloni;
(b)os yw telerau'r gymeradwyaeth yn gyson â'r lleoliad arfaethedig; ac
(c)os yw'r rhiant maeth wedi gwneud cytundeb gofal maeth.
(2) Mae'r amodau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(a)(ii) fel a ganlyn—
(a)bod y darparydd gwasanaeth maethu y cafodd y rhiant maeth ei gymeradwyo ganddo, yn cydsynio â'r lleoliad;
(b)bod unrhyw awdurdod cyfrifol arall a chanddo blentyn sydd eisoes wedi'i leoli gyda'r rhiant maeth, yn cydsynio â'r lleoliad;
(c)os yw'n gymwys, bod yna ymgynghori â'r awdurdod ardal, bod sylwadau'r awdurdod yn cael eu hystyried, a bod yr awdurdod yn cael ei hysbysu os yw'r lleoliad yn cael ei wneud; ac
(ch)os yw'r rhiant maeth wedi'i gymeradwyo gan asiantaeth faethu annibynnol, bod gofynion rheoliad 40 wedi'u bodloni.
(3) Cyn gwneud lleoliad, rhaid i'r awdurdod cyfrifol wneud cytundeb ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y rheoliadau hyn fel y “cytundeb lleoliad maeth” gyda'r rhiant maeth ynglŷn â'r plentyn, a hwnnw'n gytundeb sy'n ymdrin â'r materion a bennir yn Atodlen 6.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: