Search Legislation

Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2002

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n ymestyn i Gymru yn unig ac sy'n diddymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau Reoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2002 (O.S. 2001/1886)(Cy.195) yn —

(a)darparu ar gyfer gorfodi a gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n pennu'r lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn bwydydd (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1, fel y'i cywirwyd a'i diwygio (“Rheoliad y Comisiwn”); a

(b)rhoi'r canlynol ar waith —

(i)Cyfarwyddeb y Comisiwn 98/53/EC sy'n gosod y dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau halogion penodol mewn bwydydd (OJ Rhif L201, 17.7.1998, t.93) fel y'i diwygiwyd,

(ii)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/22/EC sy'n gosod y dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau plwm, cadmiwm, mercwri a 3-MCPD mewn bwydydd (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.14) fel y'i cywirwyd,

(iii)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/26/EC sy'n gosod y dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau Ochratocsin A mewn bwydydd (OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.38), a

(iv)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/69/EC sy'n gosod y dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli deuocsinau yn swyddogol a chanfod PCBs o fath deuocsin mewn bwydydd (OJ Rhif L209, 6.8.2002, t.5) fel y'i cywirwyd.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn —

(a)yn darparu mai tramgwydd yw —

(i)rhoi ar y farchnad rai mathau o fwydydd os ydynt yn cynnwys unrhyw fath o halogion a nodwyd yn Rheoliad y Comisiwn ar lefelau sy'n uwch na'r rhai a nodwyd (yn ddarostyngedig i ran-ddirymiad sy'n gymwys i rai mathau o letys a sbigoglys),

(ii)defnyddio bwydydd sy'n cynnwys halogion ar y cyfryw lefelau yn gynhwysion mewn rhai bwydydd,

(iii)cymysgu bwydydd sy'n cydymffurfio â'r uchafsymiau y cyfeirir atynt uchod gyda bwydydd nad ydynt yn cydymffurfio â hwy,

(iv)cymysgu bwydydd y mae Rheoliad y Comisiwn yn ymwneud â hwy ac y bwriedir iddynt gael eu bwyta'n uniongyrchol gyda bwydydd y mae Rheoliad y Comisiwn yn ymwneud â hwy ac y bwriedir eu didoli neu eu trin fel arall cyn iddynt gael eu bwyta, neu

(v)dadwenwyno bwyd nad yw'n cydymffurfio â'r terfynau a nodwyd yn Rheoliad y Comisiwn (rheoliad 3) gan ddefnyddio triniaethau cemegol;

(b)ynpennu'r awdurdodau gorfodi (rheoliad 4);

(c)yn rhagnodi gofynion mewn perthynas â dadansoddi samplau o fwydydd sy'n ddarostyngedig i Reoliad y Comisiwn, ac wrth wneud hynny'n addasu adran 29 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 wrth ei chymhwyso i'r weithred o gymryd samplau o'r bwydydd dan sylw (rheoliad 5);

(ch)yn darparu amddiffyniad mewn perthynas ag allforion wrth weithredu Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC ar reolaeth swyddogol bwydydd, fel y'u darllenir gyda'r nawfed croniclad i'r Gyfarwyddeb honno (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) (rheoliad 6);

(d)yn darparu ar gyfer cymhwyso darpariaethau penodedig Deddf Diogelwch Bwyd 1990 at y dibenion hynny (rheoliad 7);

(dd)yn darparu ar gyfer dychwelyd o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd fwyd a fewnforiwyd nad yw'n cydymffurfio â gofynion penodol rheoliad 3 ond nad yw'n achosi risg ddifrifol i iechyd pobl, ac ar gyfer difetha'r cyfryw fwyd pan yw'n achosi risg o'r fath (rheoliad 8);

(e)yn cynnwys darpariaethau trosiannol (rheoliadau 9 a 10);

(f)yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplo a Chymwysterau) 1990 (rheoliad 11); ac

(ff)yn dirymu Rheoliadau Halogion mewn Bwyd 2002 (rheoliad 12).

3.  Paratowyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Ty Southgate, Caerdydd, CF10 1EW.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources