(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n ymestyn i Gymru yn unig ac sy'n diddymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau Reoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2002 (O.S. 2001/1886)(Cy.195) yn —

(a)

darparu ar gyfer gorfodi a gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n pennu'r lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn bwydydd (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1, fel y'i cywirwyd a'i diwygio (“Rheoliad y Comisiwn”); a

(b)

rhoi'r canlynol ar waith —

(i)

Cyfarwyddeb y Comisiwn 98/53/EC sy'n gosod y dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau halogion penodol mewn bwydydd (OJ Rhif L201, 17.7.1998, t.93) fel y'i diwygiwyd,

(ii)

Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/22/EC sy'n gosod y dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau plwm, cadmiwm, mercwri a 3-MCPD mewn bwydydd (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.14) fel y'i cywirwyd,

(iii)

Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/26/EC sy'n gosod y dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau Ochratocsin A mewn bwydydd (OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.38), a

(iv)

Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/69/EC sy'n gosod y dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli deuocsinau yn swyddogol a chanfod PCBs o fath deuocsin mewn bwydydd (OJ Rhif L209, 6.8.2002, t.5) fel y'i cywirwyd.

2.

Mae'r Rheoliadau hyn —

(a)

yn darparu mai tramgwydd yw —

(i)

rhoi ar y farchnad rai mathau o fwydydd os ydynt yn cynnwys unrhyw fath o halogion a nodwyd yn Rheoliad y Comisiwn ar lefelau sy'n uwch na'r rhai a nodwyd (yn ddarostyngedig i ran-ddirymiad sy'n gymwys i rai mathau o letys a sbigoglys),

(ii)

defnyddio bwydydd sy'n cynnwys halogion ar y cyfryw lefelau yn gynhwysion mewn rhai bwydydd,

(iii)

cymysgu bwydydd sy'n cydymffurfio â'r uchafsymiau y cyfeirir atynt uchod gyda bwydydd nad ydynt yn cydymffurfio â hwy,

(iv)

cymysgu bwydydd y mae Rheoliad y Comisiwn yn ymwneud â hwy ac y bwriedir iddynt gael eu bwyta'n uniongyrchol gyda bwydydd y mae Rheoliad y Comisiwn yn ymwneud â hwy ac y bwriedir eu didoli neu eu trin fel arall cyn iddynt gael eu bwyta, neu

(v)

dadwenwyno bwyd nad yw'n cydymffurfio â'r terfynau a nodwyd yn Rheoliad y Comisiwn (rheoliad 3) gan ddefnyddio triniaethau cemegol;

(b)

ynpennu'r awdurdodau gorfodi (rheoliad 4);

(c)

yn rhagnodi gofynion mewn perthynas â dadansoddi samplau o fwydydd sy'n ddarostyngedig i Reoliad y Comisiwn, ac wrth wneud hynny'n addasu adran 29 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 wrth ei chymhwyso i'r weithred o gymryd samplau o'r bwydydd dan sylw (rheoliad 5);

(ch)

yn darparu amddiffyniad mewn perthynas ag allforion wrth weithredu Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC ar reolaeth swyddogol bwydydd, fel y'u darllenir gyda'r nawfed croniclad i'r Gyfarwyddeb honno (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) (rheoliad 6);

(d)

yn darparu ar gyfer cymhwyso darpariaethau penodedig Deddf Diogelwch Bwyd 1990 at y dibenion hynny (rheoliad 7);

(dd)

yn darparu ar gyfer dychwelyd o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd fwyd a fewnforiwyd nad yw'n cydymffurfio â gofynion penodol rheoliad 3 ond nad yw'n achosi risg ddifrifol i iechyd pobl, ac ar gyfer difetha'r cyfryw fwyd pan yw'n achosi risg o'r fath (rheoliad 8);

(e)

yn cynnwys darpariaethau trosiannol (rheoliadau 9 a 10);

(f)

yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplo a Chymwysterau) 1990 (rheoliad 11); ac

(ff)

yn dirymu Rheoliadau Halogion mewn Bwyd 2002 (rheoliad 12).

3.

Paratowyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Ty Southgate, Caerdydd, CF10 1EW.