- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Roedd y ddogfen strategaeth Gwella Iechyd yng Nghymru, Cynllun i'r GIG ynghyd â'i Bartneriaid, a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fis Chwefror 2001, yn dynodi'r bwriad i hybu gweithio effeithiol ar ffurf partneriaeth rhwng y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a llywodraeth leol.
Mae Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (2002 p.17) yn darparu, yn adran 24 o'r Ddeddf honno, ar gyfer gosod dyletswydd ar bob Bwrdd Iechyd Lleol ac awdurdod lleol yng Nghymru i lunio a gweithredu strategaeth ar gyfer iechyd a llesiant y boblogaeth yn yr ardal, ac i ystyried y strategaeth wrth arfer eu swyddogaethau. Yn y Rheoliadau hyn, cyfeirir at strategaethau o'r fath fel “strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant”.
Sefydlwyd Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148) a nodir eu swyddogaethau yn Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003 /150).
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer —
(a)dylestswydd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol i gydweithredu gydag Ymddiriedolaethau GIG, Cynghorau Iechyd Cymuned, a sefydliadau yn y sector gwrifoddol a phreifat wrth baratoi strategaethau (rheoliad 3);
(b)y camau rhagbaratoi y mae'n rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau iechyd eu cymryd mewn perthynas â strategaethau, gan gynnwys asesu anghenion ac ymgynghori (rheoliad 4);
(c)y materion y mae'n rhaid mynd i'r afael â hwy mewn strategaethau (rheoliad 5);
(ch)trefniadau comisiynu mewn perthynas â gwasanaethau gofal eilaidd, y mae Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol i fod i ymgymryd â hwy ar y cyd ag Ymddiredolaethau GIG (rheoliad 6);
(d)osgoi dyblygu cynlluniau a strategaethau statudol eraill sydd eisoes yn bodoli a rhoi sylw iddynt (rheoliadau 7 ac 8);
(dd)ymgynghori ar strategaethau drafft (rheoliad 9);
(e)yr amseroedd ar gyfer mabwysiadu, adolygu a hyd strategaethau (rheoliad 10);
(f)cyhoeddi'r strategaethau ar ôl iddynt gael eu mabwysiadu (rheoliad 11); a
(ff)galluogi'r cyhoedd i archwilio a chael gweld y strategaethau drafft a'r strategaethau mabwysiedig (rheoliad 12).
Cynhaliwyd arfarniad rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn a gosodwyd copi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Gofal Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: