(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Roedd y ddogfen strategaeth Gwella Iechyd yng Nghymru, Cynllun i'r GIG ynghyd â'i Bartneriaid, a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fis Chwefror 2001, yn dynodi'r bwriad i hybu gweithio effeithiol ar ffurf partneriaeth rhwng y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a llywodraeth leol.

Mae Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (2002 p.17) yn darparu, yn adran 24 o'r Ddeddf honno, ar gyfer gosod dyletswydd ar bob Bwrdd Iechyd Lleol ac awdurdod lleol yng Nghymru i lunio a gweithredu strategaeth ar gyfer iechyd a llesiant y boblogaeth yn yr ardal, ac i ystyried y strategaeth wrth arfer eu swyddogaethau. Yn y Rheoliadau hyn, cyfeirir at strategaethau o'r fath fel “strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant”.

Sefydlwyd Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148) a nodir eu swyddogaethau yn Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003 /150).

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer —

(a)

dylestswydd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol i gydweithredu gydag Ymddiriedolaethau GIG, Cynghorau Iechyd Cymuned, a sefydliadau yn y sector gwrifoddol a phreifat wrth baratoi strategaethau (rheoliad 3);

(b)

y camau rhagbaratoi y mae'n rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau iechyd eu cymryd mewn perthynas â strategaethau, gan gynnwys asesu anghenion ac ymgynghori (rheoliad 4);

(c)

y materion y mae'n rhaid mynd i'r afael â hwy mewn strategaethau (rheoliad 5);

(ch)

trefniadau comisiynu mewn perthynas â gwasanaethau gofal eilaidd, y mae Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol i fod i ymgymryd â hwy ar y cyd ag Ymddiredolaethau GIG (rheoliad 6);

(d)

osgoi dyblygu cynlluniau a strategaethau statudol eraill sydd eisoes yn bodoli a rhoi sylw iddynt (rheoliadau 7 ac 8);

(dd)

ymgynghori ar strategaethau drafft (rheoliad 9);

(e)

yr amseroedd ar gyfer mabwysiadu, adolygu a hyd strategaethau (rheoliad 10);

(f)

cyhoeddi'r strategaethau ar ôl iddynt gael eu mabwysiadu (rheoliad 11); a

(ff)

galluogi'r cyhoedd i archwilio a chael gweld y strategaethau drafft a'r strategaethau mabwysiedig (rheoliad 12).

Cynhaliwyd arfarniad rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn a gosodwyd copi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Gofal Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, CF10 3NQ.