- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn (o'i ddarllen gyda Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1)) yn gweithredu ymhellach Gyfarwyddeb y Cyngor 92/40/EEC sy'n cyflwyno mesurau Cymunedol ar gyfer rheoli ffliw adar(2) a Chyfarwyddeb y Cyngor 92/66/EEC sy'n cyflwyno mesurau Cymunedol ar gyfer rheoli clefyd Newcastle(3) (“y Cyfarwyddebau”). Gweithredwyd y Cyfarwyddebau o'r blaen gan Orchymyn Clefydau Dofednod 1994(4)) (“Gorchymyn 1994”) a Gorchymyn Clefydau Dofednod (Diwygio) 1997(5), y mae'r ddau ohonynt yn cael eu dirymu gan y Gorchymyn hwn.
Mae Cymhwysiad y Gorchymyn yn cael ei estyn i adar di-gêl yn unol â'r Cyfarwyddebau. Mae'r Gorchymyn hwn yn estyn hefyd y darpariaethau yn erthygl 5A o Orchymyn 1994 (sy'n ymwneud â phwerau goruchwylio a chyfyngiadau ar symud) i glefydau adar ac i rywogaethau adar nad yw'r Cyfarwyddebau yn eu cwmpasu. Mae'r darpariaethau hyn wedi'u hail-lunio a'u cynnwys yn erthyglau 5 a 6 o'r Gorchymyn hwn.
Mae erthyglau 1 i 3 o'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol a darpariaethau ynglŷn â dehongli. Mae erthygl 4 yn darparu ar gyfer hysbysu clefydau penodol ac ar gyfer cymryd mesurau rhagofalu lle mae clefyd wedi'i amau. Mae erthygl 5 yn nodi'r cyfyngiadau a all fod yn gymwys os oes unrhyw glefyd wedi'i amau neu os yw'n hysbys ei fod yn bodoli, neu os amheuir fod adar wedi bod yn agored i risg clefyd. Mae erthygl 6 yn darparu ar gyfer ymchwiliad milfeddygol i fodolaeth clefyd. Mae erthygl 7 yn nodi'r cyfyngiadau sy'n gymwys os yw clefyd wedi'i gadarnhau. Mae'r cyfyngiadau y cyfeirir atynt yn erthyglau 4, 5 a 7 wedi'u nodi yn Atodlen 1.
Mae erthygl 8 yn nodi dyletswyddau meddianwyr a phersonau y mae safleoedd o dan eu gofal ac y mae hysbysiad o dan y Gorchymyn wedi'i gyflwyno iddynt.
Mae erthygl 9 yn darparu ar gyfer datgan ardal heintiedig gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol os yw clefyd wedi'i gadarnhau. Mae'r cyfyngiadau sy'n gymwys mewn ardal heintiedig wedi'u nodi yn Atodlen 2.
Mae erthygl 10 yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol ei gwneud yn ofynnol bod dofednod yn cael eu brechu. Mae erthygl 11 yn nodi'r cyfyngiadau sy'n gymwys i golomennod rasio. Mae erthygl 12 yn cynnwys darpariaethau ar lanhau a diheintio. Mae erthygl 13 yn ymwneud â chadw cofnodion ac erthygl 14 â thrwyddedau. Mae erthygl 15 yn nodi pwerau cyffredinol arolygwyr milfeddygol o dan y Gorchymyn. Mae erthygl 16 yn darparu bod y Gorchymyn yn cael ei orfodi'n gyffredinol gan awdurdodau lleol. Mae erthygl 17 yn dirymu Gorchymyn Dofednod 1994(6) a Gorchymyn Clefydau Dofednod (Diwygio) 1997(7) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
Mae methu â chydymffurfio â'r Gorchymyn hwn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.
Ni pharatowyd Arfarniad Rheoliadaol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn.
O J L167, 22.6.1992, t.1.
O J L260, 05.9.1992, t.1.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: