Mae Cymhwysiad y Gorchymyn yn cael ei estyn i adar di-gêl yn unol â'r Cyfarwyddebau. Mae'r Gorchymyn hwn yn estyn hefyd y darpariaethau yn erthygl 5A o Orchymyn 1994 (sy'n ymwneud â phwerau goruchwylio a chyfyngiadau ar symud) i glefydau adar ac i rywogaethau adar nad yw'r Cyfarwyddebau yn eu cwmpasu. Mae'r darpariaethau hyn wedi'u hail-lunio a'u cynnwys yn erthyglau 5 a 6 o'r Gorchymyn hwn.
Mae erthyglau 1 i 3 o'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol a darpariaethau ynglŷn â dehongli. Mae erthygl 4 yn darparu ar gyfer hysbysu clefydau penodol ac ar gyfer cymryd mesurau rhagofalu lle mae clefyd wedi'i amau. Mae erthygl 5 yn nodi'r cyfyngiadau a all fod yn gymwys os oes unrhyw glefyd wedi'i amau neu os yw'n hysbys ei fod yn bodoli, neu os amheuir fod adar wedi bod yn agored i risg clefyd. Mae erthygl 6 yn darparu ar gyfer ymchwiliad milfeddygol i fodolaeth clefyd. Mae erthygl 7 yn nodi'r cyfyngiadau sy'n gymwys os yw clefyd wedi'i gadarnhau. Mae'r cyfyngiadau y cyfeirir atynt yn erthyglau 4, 5 a 7 wedi'u nodi yn Atodlen 1.
Mae erthygl 8 yn nodi dyletswyddau meddianwyr a phersonau y mae safleoedd o dan eu gofal ac y mae hysbysiad o dan y Gorchymyn wedi'i gyflwyno iddynt.
Mae erthygl 9 yn darparu ar gyfer datgan ardal heintiedig gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol os yw clefyd wedi'i gadarnhau. Mae'r cyfyngiadau sy'n gymwys mewn ardal heintiedig wedi'u nodi yn Atodlen 2.
Mae methu â chydymffurfio â'r Gorchymyn hwn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.
Ni pharatowyd Arfarniad Rheoliadaol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn.