Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Arfer swyddogaethau ar y cyd

11.—(1Rhaid i drefniadau a wneir o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 gan berson y mae rheoliad 3, 4 neu 5 uchod yn rhoi'r pŵer iddo wneud hynny, gael eu gwneud yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Rhaid i'r trefniadau gael eu gwneud—

(a)os yw'r swyddogaethau y mae'r trefniadau'n ymwneud â hwy yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod lleol arall o dan sylw, gyda'r person sydd, yn rhinwedd rheoliad 3, 4 neu 5 uchod, â phwer i wneud trefniadau o'r fath ar ran yr awdurdod hwnnw;

(b)mewn unrhyw achos arall, gyda'r awdurdod lleol arall.

(3Os yw'r trefniadau yn darparu i swyddogaethau gael eu cyflawni gan gyd-bwyllgor, rhaid i benodiadau'r personau sydd i gynrychioli pob awdurdod lleol ar y pwyllgor hwnnw gael eu gwneud, a rhaid i nifer y personau hynny sydd i'w penodi gael ei benderfynu, gan y person sy'n gwneud y trefniadau ar ran yr awdurdod hwnnw.

(4Yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau ac oni bai bod y person perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod lleol y mae ei swyddogaethau'n destun y trefniadau yn cyfarwyddo fel arall, caiff cyd-bwyllgor a benodir yn unol â'r rheoliad hwn drefnu i unrhyw un o'i swyddogaethau gael ei chyflawni gan is-bwyllgor neu swyddog i un o'r awdurdodau o dan sylw, ac yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau ac oni bai bod y cyd-bwyllgor neu'r person perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod lleol y mae ei swyddogaethau'n destun y trefniadau yn cyfarwyddo fel arall, caiff unrhyw is-bwyllgor o'r fath drefnu i unrhyw un o'i swyddogaethau gael ei chyflawni gan swyddog o'r fath.

(5Nid yw unrhyw drefniadau a wneir yn unol â'r rheoliad hwn gan berson a bennir yn rheoliadau 3, 4 neu 5 uchod i unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan gyd-bwyllgor i atal y person hwnnw rhag arfer y swyddogaethau hynny.

(6Os yw trefniadau a wneir ar ran awdurdod lleol yn unol â'r rheoliad hwn gan berson a bennir yn rheoliad 3, 4 neu 5 uchod yn darparu ar gyfer penodi personau nad ydynt yn aelodau o weithrediaeth yr awdurdod hwnnw i gyd-bwyllgor, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y trefniadau, rhaid i'r person hwnnw sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod i gael eu harchwilio gan aelodau'r cyhoedd ar bob adeg resymol.

(7Rhaid i berson sy'n paratoi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (6) uchod roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 38 o Ddeddf 2000.

(8Bydd Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001(1) yn gymwys i gyfarfod o gyd-bwyllgor—

(a)a sefydlir gan drefniadau a wneir yn unol â'r rheoliad hwn yn unig gan weithrediaethau, aelodau gweithrediaethau neu bwyllgorau gweithrediaethau os yw'r holl weithrediaethau o dan sylw yn cynnal eu cyfarfodydd yn breifat; a

(b)lle nad oes yr un o'i aelodau yn aelod o un o'r awdurdodau lleol o dan sylw ond nad yw'n aelod o weithrediaeth yr awdurdod hwnnw,

fel pe bai cyfarfodydd y cyd-bwyllgor hwnnw yn gyfarfodydd preifat o bwyllgor gweithrediaeth awdurdod lleol, oni bai bod yr holl weithrediaethau hynny yn cytuno fel arall.

(9Ac eithrio fel y disgrifir ym mharagraff (8) uchod, bydd Rhan VA o Ddeddf 1972 (cael mynediad i gyfarfodydd a chael gweld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol) yn gymwys i gyd-bwyllgorau a sefydlir yn unol â'r rheoliad hwn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources