- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
13.—(1) Ac eithrio o dan awdurdod un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol, ni chaiff neb dynnu nac amnewid tag clust na dileu nac amnewid tatŵ sydd wedi'i ddodi ar anifail yn unol â'r Gorchymyn hwn, Rheoliadau 2000, neu Reoliadau Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002, oni bai ei fod wedi mynd yn annarllenadwy neu yn achos tag clust, wedi'i dynnu at ddibenion lles neu wedi'i golli.
(2) Pan fydd Marc Tarddiad, Marc F neu Farc R wedi mynd yn annarllenadwy, wedi'i dynnu at ddibenion lles neu wedi'i golli, rhaid i'r ceidwad—
(a)dodi Marc unfath;
(b)dodi—
(i)os Marc Tarddiad oedd y marc gwreiddiol, tag â'r llythrennau “UK” wedi'u dilyn â marc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw neu datŵ â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw;
(ii)os Marc F oedd y marc gwreiddiol, tag â'r llythrennau “UK” wedi'u dilyn â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw a'r marc hwnnw wedi'i ddilyn â'r llythyren F neu datŵ â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw a'r marc hwnnw wedi'i ddilyn gan y llythyren F; neu
(iii)os Marc R oedd y marc gwreiddiol, Marc R newydd, a chroesgyfeirio'r marc newydd â'r marc gwreiddiol yn y cofnod sy'n cael ei gadw o dan erthygl 4 neu 5; neu
(c)pan na ellir cyflawni'r camau yn is-baragraff (a) nac is-baragraff (b), dodi Marc R.
(3) Pan fydd Marc S wedi mynd yn annarllenadwy neu wedi'i golli, rhaid i'r ceidwad, os yw'n gwybod y manylion (a bennir yn erthygl 6(7)) a oedd ar y marc hwnnw, roi marc unfath yn ei le.
(4) Ni fydd paragraff (2) a (3) yn gymwys yn achos anifail mewn marchnad neu ladd-dy.
(5) Ni chaiff neb anfon unrhyw ddafad neu afr y tu allan i Brydain Fawr os yw wedi'i farcio â thag clust neu datŵ yn diweddu gyda'r llythyren “R” sy'n dangos mai tag clust neu datw yn lle un arall ydyw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: