Tynnu tagiau clust a dileu tatŵ s ac amnewid y naill a'r llall13.

(1)

Ac eithrio o dan awdurdod un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol, ni chaiff neb dynnu nac amnewid tag clust na dileu nac amnewid tatŵ sydd wedi'i ddodi ar anifail yn unol â'r Gorchymyn hwn, Rheoliadau 2000, neu Reoliadau Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002, oni bai ei fod wedi mynd yn annarllenadwy neu yn achos tag clust, wedi'i dynnu at ddibenion lles neu wedi'i golli.

(2)

Pan fydd Marc Tarddiad, Marc F neu Farc R wedi mynd yn annarllenadwy, wedi'i dynnu at ddibenion lles neu wedi'i golli, rhaid i'r ceidwad—

(a)

dodi Marc unfath;

(b)

dodi—

(i)

os Marc Tarddiad oedd y marc gwreiddiol, tag â'r llythrennau “UK” wedi'u dilyn â marc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw neu datŵ â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw;

(ii)

os Marc F oedd y marc gwreiddiol, tag â'r llythrennau “UK” wedi'u dilyn â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw a'r marc hwnnw wedi'i ddilyn â'r llythyren F neu datŵ â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw a'r marc hwnnw wedi'i ddilyn gan y llythyren F; neu

(iii)

os Marc R oedd y marc gwreiddiol, Marc R newydd, a chroesgyfeirio'r marc newydd â'r marc gwreiddiol yn y cofnod sy'n cael ei gadw o dan erthygl 4 neu 5; neu

(c)

pan na ellir cyflawni'r camau yn is-baragraff (a) nac is-baragraff (b), dodi Marc R.

(3)

Pan fydd Marc S wedi mynd yn annarllenadwy neu wedi'i golli, rhaid i'r ceidwad, os yw'n gwybod y manylion (a bennir yn erthygl 6(7)) a oedd ar y marc hwnnw, roi marc unfath yn ei le.

(4)

Ni fydd paragraff (2) a (3) yn gymwys yn achos anifail mewn marchnad neu ladd-dy.

(5)

Ni chaiff neb anfon unrhyw ddafad neu afr y tu allan i Brydain Fawr os yw wedi'i farcio â thag clust neu datŵ yn diweddu gyda'r llythyren “R” sy'n dangos mai tag clust neu datw yn lle un arall ydyw.