Search Legislation

Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) 2002

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu, mewn perthynas â phrosiectau i ddefnyddio tir heb ei drin ac ardaloedd lled-naturiol yng Nghymru at ddibenion amaethyddol dwys, Gyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC (fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EEC) ar asesu effeithiau rhai prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd a Chyfarwyddeb y Cyngor 1992/43/EEC (fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/62/EC) ar gadwraeth cynefinoedd naturiol ac o ffawna a fflora gwyllt (“y Gyfarwyddeb Cynefinoedd”) i'r graddau y mae'n gymwys i brosiectau o'r fath.

Mae'r diffiniad o “prosiect” yn nodi'r gweithgareddau hynny sy'n ddarostyngedig i ofynion y Rheoliadau. Mae Rheoliad 4 yn atal unrhyw brosiectau rhag cael eu cynnal heb sicrhau penderfyniad sgrinio yn gyntaf. Mae'r penderfyniad sgrinio yn pennu a yw'r prosiect yn un sy'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd ( a fydd yn cynnwys prosiect sy'n debyg o effeithio'n sylweddol ar safle Ewropeaidd o fewn ystyr Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, ac yn y blaen) 1994 (fel y'u diwygiwyd) (“y Rheoliadau Cynefinoedd”). Mae prosiect sydd wedi'i bennu felly yn cael ei ddiffinio fel“prosiect perthnasol” yn y Rheoliadau. Rhaid cyrraedd y penderfyniad sgrinio yn unol â'r meini prawf dethol a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau. Nodir y gofynion gweithdrefnol mewn perthynas â phenderfyniadau sgrinio yn rheoliad 5.

Mae Rheoliad 6 yn gwahardd cyflawni prosiect perthnasol heb fod caniatâd y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i sicrhau yn gyntaf.

Mae Rheoliad 7 yn rhoi hawl i un sy'n bwriadu gwneud cais am ganiatâd dderbyn barn gan y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch yr wybodaeth y bydd ei hangen fel rhan o'r datganiad amgylcheddol i gyd-fynd â'r cais am ganiatâd.

Mae Rheoliad 8 yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r cyrff amgylcheddol y cyfeirir atynt ddarparu unrhyw wybodaeth berthnasol sydd yn eu meddiant i'r sawl sy'n gwneud cais am ganiatâd.

Mae Rheoliadau 9 a 10 yn cynnwys y gofynion gweithdrefnol ar gyfer y cais am ganiatâd. Mae angen i'r cais gynnwys y datganiad amgylcheddol a ddiffinir fel datganiad sy'n cynnwys yr wybodaeth yn Rhan II o Atodlen 2 i'r Rheoliadau ac unrhyw ran o o'r wybodaeth yn Rhan I o Atodlen 2 y mae angen rhesymol amdani er mwyn asesu effeithiau amgylcheddol y prosiect.

Mae Rheoliad 11 yn cynnwys darpariaethau ar gyfer hysbysu Gwladwriaethau eraill sy'n bartïon i'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) am brosiectau sy'n debygol o gael effeithiau amgylcheddol ar y Gwladwriaethau hynny ac ar gyfer rhoi cyfle iddynt gyflwyno sylwadau mewn perthynas â phrosiectau o'r fath. Mae'n cynnwys darpariaethau hefyd ar gyfer ystyried effeithiau prosiectau mewn Gwladwriaethau eraill yr AEE y rhoddir gwybod amdanynt i'r Cynulliad Cenedlaethol fel rhai sy'n debyg o gael effeithiau amgylcheddol ar Gymru.

Mae Rheoliad 12 yn nodi sut y caiff penderfyniadau o dan y Rheoliadau eu gwneud mewn perthynas â phrosiectau a leolir yn rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr.

Mae Rheoliad 13 yn pennu sut y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu a ddylid rhoi caniatâd ar gyfer prosiect. Mae'n ofynnol bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cymryd i ystyriaeth yr holl wybodaeth a'r sylwadau sy'n cael eu darparu yn unol â'r Rheoliadau.

O dan reoliad 13(3) ni chaiff y Cynulliad Cenedlaethol roi caniatâd ar gyfer prosiect a fyddai'n cynnwys gweithgareddau sy'n cael eu gwahardd o dan y darpariaethau hynny yn y Rheoliadau Cynefinoedd sy'n gweithredu Erthyglau 12, 13, 15 ac 16 (gofynion ar gyfer amddiffyn rhywogaethau) o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd.

Mae paragraffau (4) i (9) o'r rheoliad hwn yn gweithredu'r gofynion sydd i'w bodloni cyn y gellir rhoi caniatâd ar gyfer prosiect sy'n debygol o gael effaith sylweddol ar safle Ewropeaidd. Er bod angen cymryd yr un wybodaeth a sylwadau i ystyriaeth, i'r graddau y maent yn berthnasol, fel gydag unrhyw brosiect arall, mae yna brofion penodol i'w sefyll. Mae'r profion penodol hyn yn gweithredu Erthygl 6(3) o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Mae'r darpariaethau yn y Rheoliadau hyn yn debyg i'r rhai yn y Rheoliadau Cynefinoedd sy'n gymwys i weithdrefnau eraill ar gyfer rhoi caniatâd.

Mae Rheoliad 13(11) yn pennu amodau gorfodol y mae'n ofynnol i'r caniatadau fod yn ddarostyngedig iddynt i sicrhau bod caniatadau yn cael eu gweithredu a bod angen caniatâd pellach ar gyfer gwaith sy'n sylweddol wahanol i'r hyn sydd wedi cael ei ganiatáu.

Mae Rheoliad 13(12) yn cynnwys gofynion gweithdrefnol y dylid cydymffurfio â hwy wrth roi neu wrthod caniatâd.

Mae Rheoliad 13(13) yn atgynhyrchu'r darpariaethau yn Neddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 sy'n gymwys os yw awdurdod cymwys yn bwriadu rhoi caniatâd am unrhyw brosiect sy'n cynnwys gweithrediad sy'n debyg o niweidio safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn erbyn cyngor gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

Mae Rheoliad 14 ac Atodlen 3 yn gweithredu erthygl 6(2) o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd drwy sicrhau bod unrhyw benderfyniadau a gymerir yn unol â'r Rheoliadau cyn i safle Ewropeaidd gael ei ddynodi a fyddai'n caniatáu cyflawni iproject a fyddai'n effeithio'n andwyol ar integriti'r safle yn cael eu hadolygu a'u diddymu neu eu haddasu yn ôl yr angen.

Gall y sawl sy'n gwneud cais am benderfyniad sgrinio neu am ganiatâd ar gyfer prosiect perthnasol (neu berson sydd â diddordeb mewn prosiect yn ddarostyngedig i ddiddymiad neu addasiad o dan y darpariaethau adolygu a gynhwysir yn Atodlen 3) apelio yn erbyn penderfyniad croes i'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae hawl gan yr apelydd gael ei glywed gan berson a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol a gall y gwrandawiad at y diben hwnnw fod ar ffurf ymchwiliad lleol os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu hynny. Mae'r darpariaethau apelio cyffredinol wedi'u cynnwys yn rheoliad 15 ac Atodlen 4 ac mae'r gweithdrefnau ar gyfer penderfynu ar sylwadau ysgrifenedig a thrwy wrandawiad neu ymchwiliad lleol wedi'u cynnwys yn rheoliadau 16 ac 17 yn y drefn honNo.

Gall personau a dramgwyddir gan benderfyniadau sy'n caniatáu i brosiectau fynd rhagddynt apelio i'r Uchel Lys i gael y penderfyniadau hynny wedi'u hadolygu (rheoliad 18).

Bydd personau sy'n cynnal prosiectau cyn derbyn yn gyntaf naill ai benderfyniad sgrinio negyddol neu ganiatâd ar gyfer y prosiect, neu sy'n gweithredu yn groes i'r amodau a roddwyd ar gyfer y caniatâd, yn cyflawni tramgwydd o dan y Rheoliadau. Mae hefyd yn dramgwydd o dan y Rheoliadau i wneud datganiadau anwir neu gamarweiniol er mwyn cael penderfyniad penodol.

Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol am sicrhau bod gweithgareddau anawdurdodedig yn dod i ben ar unwaith, gall gyflwyno hysbysiad stop ar y person sy'n gweud y gweithgareddau neu unrhyw berson sydd â buddiant yn y tir lle mae'r gweithgareddau yn cael eu gwneud. Bydd methiant i gydymffurfio â'r hysbysiad stop yn dramgwydd (rheoliad 23).

Mae Rheoliad 24 yn cynnwys pŵer sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i gyflwyno hysbysiad sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i berson y mae'n credu iddo fod yn gyfrifol am gyflanwi tramgwydd, i adfer y tir i'w gyflwr blaenorol. Gellir apelio yn erbyn hysbysiad adfer i'r Llys Ynadon. Bydd methiant i gydymffurfio â gofynion hysbysiad adfer yn dramgwydd.

Mae Rheoliad 25 yn cynnwys pwerau i gael mynediad mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau ac mae'n cynnwys y pwerau i archwilio ac i gymryd copïau o gofnodion. Darperir pwerau hefyd i gael mynediad i dir er mwyn cynnal gwaith adfer yn dilyn methiant i gydymffurfio â hysbysiad adfer.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ynghylch y Rheoliadau hyn, ac mae ar gael oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Adran Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources