Search Legislation

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 1898 (Cy.199)

ANIFEILIAID, CYMRU

ATAL CREULONDEB

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2002

Wedi'u gwneud

18 Gorffennaf 2002

Yn dod i rym

6 Awst 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(1), ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 2 o Ddeddf 1968 yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2002 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) o'r rheoliad hwn, daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Awst 2002.

(3Daw rheoliad 2(3) o'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2003.

Diwygio Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001

2.—(1Diwygir Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001(2) yn unol â darpariaethau'r rheoliadau hyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn lle'r diffiniad o “iâr ddodwy” rhoddir y diffiniad canlynol—

  • ystyr “iâr ddodwy” (“laying hen”) yw iâr o'r rhywogaeth Gallus gallus sydd wedi cyrraedd aeddfedrwydd dodwy ac sy'n cael ei chadw i gynhyrchu wyau na fwriedir iddynt ddeor;.

(b)ar ôl y diffiniad o ystyr “iâr ddodwy” (“laying hen”) rhoddir y diffiniad canlynol—

  • ystyr “llaesodr” (“litter”) yw unrhyw ddefnydd hyfriw sy'n galluogi'r ieir i ddiwallu i'w hanghenion etholegol;

  • ac ar ôl y diffiniad o ystyr “mochyn” (“pig”) rhoddir y diffiniad canlynol—

  • ystyr “nyth” (“nest”) yw lle ar wahân i iâr unigol neu grŵp o ieir ddodwy wyau, sef lle na chaiff cydrannau ei lawr gynnwys rhwyllau gwifrog a all ddod i gysylltiad â'r aderyn neu'r adar;”; ac

    (c)

    ar ôl mewnosod y diffiniad uchod o ystyr “llaesodr” (“litter”), mewnosoder y diffiniad canlynol—

    • ystyr “lle y gellir ei ddefnyddio” (“usable area”) yw lle a ddefnyddir gan ieir dodwy, heb gynnwys man nythu, sy'n 30cm o led o leiaf, a gogwyddiad y llawr heb fod yn fwy na 14%, ac yn 45 cm o uchder o leiaf;.

(3Diddymir rheoliad 4 ac Atodlen 2.

(4Yn lle Rheoliad 5 rhoddir y rheoliad canlynol:

Dyletswyddau ychwanegol perchenogion a cheidwaid dofednod (heblaw'r rhai sy'n cael eu cadw yn y systemau y cyfeirir atynt yn Atodlenni 3A, 3B a 3C)

5.  Rhaid i berchenogion a cheidwaid dofednod (heblaw'r rhai sy'n cael eu cadw yn y systemau y cyfeirir atynt yn Atodlenni 3A, 3B a 3C) sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r adar yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 3..

(5Ar ôl rheoliad 5 ychwanegir y rheoliad canlynol:

Dyletswyddau ychwanegol perchenogion a cheidwaid ieir dodwy

5A.  Rhaid i berchenogion a cheidwaid sefydliadau a chanddynt fwy na 350 o ieir dodwy sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r adar yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlenni 3A, 3B, 3C a 3CH..

(6Yn Atodlen 1—

(a)yn lle paragraff 2(3)(a) rhoddir y paragraff canlynol—

(a)yn achos ieir dodwy a gedwir ym mhob system, paragraff 1 o Atodlen 3Ch;; a

(b)yn lle paragraff 7(b)(i) rhoddir y paragraff canlynol—

(i)yn achos ieir dodwy a gedwir ym mhob system, paragraff 1 o Atodlen 3Ch;.

(7Yn lle Atodlen 3 rhoddir y darpariaethau canlynol:

rheoliad 5

ATODLEN 3AMODAU YCHWANEGOL Y MAE'N RHAID CADW DOFEDNOD (HEBLAW'R RHAI SY'N CAEL EU CADW YN Y SYSTEMAU Y CYFEIRIR ATYNT YN ATODLENNI 3A, 3B A 3C) ODANYNT

Pan gedwir unrhyw ddofednod (heblaw'r rhai sy'n cael eu cadw yn y systemau y cyfeirir atynt yn Atodlenni 3A, 3B a 3C) mewn adeilad, rhaid iddynt gael eu cadw ar laesodr, neu rhaid iddynt bob amser allu mynd at laesodr, sydd wedi'i gynnal yn dda, neu at fan wedi'i draenio'n dda ar gyfer gorffwys.

(8Ar ôl Atodiad 3 mewnosodir Atodlenni 3A, 3B, 3C a 3Ch a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

(9Yn lle paragraff (a) o reoliad 12 rhoddir y paragraff canlynol—

(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 99/74/EC(3) sy'n gosod safonau gofynnol ar gyfer diogelu ieir dodwy..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Gorffennaf 2002

Rheoliad 2(8)

ATODLEN

rheoliad 5A

ATODLEN 3ASYSTEMAU DI-GAWELL

1.  Rhaid i bob system ddi-gawell sy'n cael ei hadeiladu o'r newydd neu ei hail-adeiladu ar gyfer cadw ieir dodwy a phob system gynhyrchu o'r fath y dechreuir ei defnyddio am y tro cyntaf gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon.

2.  O 1 Ionawr 2007 ymlaen, rhaid i bob system ddi-gawell ar gyfer cadw ieir dodwy gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon.

3.  Rhaid i bob system gael ei chyfarparu mewn ffordd sy'n golygu bod gan bob iâr ddodwy:

(a)naill ai bwydwr llinol sy'n rhoi o leiaf 10 cm i bob iâr neu fwydwr crwn sy'n rhoi o leiaf 4 cm i bob iâr;

(b)naill ai cafn yfed parhaol sy'n rhoi 2.5 cm i bob iâr neu gafn yfed crwn sy'n rhoi 1 cm i bob iâr, a hefyd, os defnyddir pigynnau dŵr neu gwpanau, rhaid cael o leiaf un pigyn dŵ r neu gwpan i bob 10 iâr. Os yw'r mannau yfed wedi'u plymio, rhaid cael o leiaf ddau gwpan neu ddau bigyn dŵ r o fewn cyrraedd i bob iâr;

(c)o leiaf un nyth i bob saith iâr. Os defnyddir nythod grŵp, rhaid cael o leiaf 1 m2 o le nythu ar gyfer uchafswm o 120 o ieir;

(ch)clwydi, heb ymylon miniog ac sy'n rhoi o leiaf 15 cm i bob iâr. Rhaid peidio â gosod clwydi uwchben y llaesodr a rhaid i'r pellter llorweddol rhwng y clwydi fod yn 30 cm o leiaf a rhaid i'r pellter llorweddol rhwng y glwyd a'r wal fod yn 20 cm o leiaf; a

(d)o leiaf 250 cm2 o fan o dan laesodr i bob iâr, a'r llaesodr dros o leiaf un traean o arwynebedd y llawr.

4.  Rhaid adeiladu lloriau gosodiadau fel y gallant gynnal pob un o grafangau'r iâr sy'n wynebu ymlaen ar bob troed.

5.  Yn ychwanegol at ofynion paragraffau 2 a 3—

(a)os defnyddir systemau magu lle gall yr ieir dodwy symud yn rhydd rhwng gwahanol lefelau—

(i)rhaid peidio â chael mwy na phedair lefel;

(ii)rhaid i'r uchder rhwng y lefelau fod yn 45 cm o leiaf;

(iii)rhaid i'r cyfleusterau yfed a bwydo gael eu dosbarthu mewn ffordd sy'n golygu bod cyfle cyfartal i bob iâr fynd atynt; a

(iv)rhaid i'r lefelau gael eu trefnu i atal dom rhag cwympo ar y lefelau islaw.

(b)os gall ieir dodwy fynd i libart agored:

(i)rhaid cael sawl twll yn arwain yn uniongyrchol i'r fan allanol, o leiaf 35 cm o uchder a 40 cm o led ac yn ymestyn am hyd cyfan yr adeilad; a beth bynnag rhaid sicrhau bod agoriad sy'n gyfanswm o 2 m ar gael am bob grŵp o 1,000 o ieir; a

(ii)rhaid i libartau agored fod o arwynebedd sy'n briodol ar gyfer y dwysedd stocio a natur y tir, er mwyn atal unrhyw halogi, a bod wedi'u cyfarparu â chysgod rhag tywydd drwg ac ysglyfaethwyr ac, os oes eu hangen, â chafnau yfed priodol.

6.  Yn ddarostyngedig i baragraff 7, rhaid i'r dwysedd stocio beidio â bod yn uwch na naw iâr ddodwy i bob metr sgwâr o le y gellir ei ddefnyddio.

7.  Os oedd y sefydliad ar 3 Awst 1999 yn defnyddio system yr oedd y lle y gellid ei ddefnyddio yn cyfateb i'r arwynebedd tir a oedd ar gael, a bod y sefydliad yn dal i ddefnyddio'r system hon cyn 6 Awst 2002, awdurdodir dwysedd stocio o 12 iâr i bob metr sgwâr tan 31 Rhagfyr 2011.

ATODLEN 3BSYSTEMAU CEWYLL CONFENSIYNOL

1.  O 1 Ionawr 2003 rhaid i bob system gewyll ar gyfer magu ieir dodwy nad ydynt wedi'u gwella gydymffurfio â'r gofynion canlynol:

(a)rhaid darparu o leiaf 550 cm2 i bob iâr o arwynebedd cawell, wedi'i fesur mewn plân llorweddol, a all gael ei ddefnyddio heb gyfyngiad, yn benodol heb gynnwys platiau ar gyfer dargyfeirio deunydd nad yw'n wastraff sy'n tueddu i gyfyngu ar yr arwynebedd sydd ar gael, ar gyfer pob iâr ddodwy, ond os yw'r plât ar gyfer dargyfeirio deunydd nad yw'n wastraff wedi'i osod er mwyn peidio â chyfyngu ar yr arwynebedd sydd ar gael i'r ieir ei ddefnyddio, yna gall yr arwynebedd hwnnw gael ei gynnwys yn y mesuriad;

(b)rhaid darparu cafn bwydo a all gael ei ddefnyddio heb gyfyngiad. O ran hyd, rhaid iddo fod yn 10 cm wedi'i luosi â nifer yr ieir yn y cawell o leiaf;

(c)oni bai bod pigynnau dŵ r neu gwpanau dŵ r wedi'u darparu, rhaid i bob cawell gael sianel yfed barhaol yr un mor hir â'r cafn bwydo y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) uchod. Os yw'r mannau yfed wedi'u plymio, rhaid cael o leiaf ddau bigyn dŵr neu ddau gwpan o fewn cyrraedd i bob cawell;

(ch)rhaid i'r cewyll fod yn 40 cm o leiaf o uchder dros o leiaf 65% o arwynebedd y cawell ac nid llai na 35 cm ar unrhyw bwynt (ceir yr uchder drwy gyfrwng llinell fertigol o'r llawr i'r pwynt agosaf yn y to a cheir yr arwynebedd drwy luosi 550cm2 â nifer yr adar a gedwir yn y cawell);

(d)rhaid adeiladu lloriau'r cewyll fel y gallant gynnal pob un o'r crafangau sy'n wynebu ymlaen ar bob troed i bob iâr. Rhaid i ogwyddiad y llawr beidio â bod yn fwy na 14% neu 8 gradd os yw wedi'i wneud o rwyllau gwifrog petryal ac 21.3% neu 12 gradd ar gyfer mathau eraill o lawr;

(dd)rhaid gosod dyfeisiau addas ar gyfer cwtogi crafangau yn y cewyll.

2.  Gwaherddir magu ieir dodwy yn y cewyll y cyfeirir atynt yn yr Atodlen hon o 1 Ionawr 2012 ymlaen.

3.  Ni ellir adeiladu cewyll o'r math y cyfeirir atynt yn yr Atodlen hon, na dechrau eu defnyddio am y tro cyntaf, o 1 Ionawr 2003 ymlaen.

ATODLEN 3CSYSTEMAU CEWYLL GWELL

1.  Rhaid i bob system gewyll ar gyfer magu ieir dodwy gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon o 1 Ionawr 2012 ymlaen.

2.  Rhaid i bob system gewyll sy'n cael ei hadeiladu neu y dechreuir ei defnyddio er mwyn magu ieir dodwy ar 1 Ionawr 2003 neu ar ôl hynny gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon.

3.  Rhaid i ieir dodwy gael—

(a)o leiaf 750 cm2 o arwynebedd cawell i bob iâr, y mae'n rhaid i 600 cm2 ohono allu cael ei ddefnyddio; rhaid i uchder y cawell heblaw'r uchder uwchben y lle y gellir ei ddefnyddio fod yn 20 cm o leiaf ym mhob pwynt ac ni all unrhyw gawell fod yn llai na 2000 cm2 o gyfanswm arwynebedd;

(b)nyth;

(c)llaesodr sy'n golygu ei bod yn bosibl pigo a chrafu;

(ch)clwydi priodol sy'n caniatáu o leiaf 15 cm i bob iâr.

4.  Rhaid darparu cafn bwydo a all gael ei ddefnyddio heb gyfyngiad. O ran hyd, rhaid iddo fod yn 12 cm wedi'i luosi â nifer yr ieir yn y cawell o leiaf.

5.  Rhaid i bob cawell gael system yfed sy'n briodol ar gyfer maint y grŵp; os darperir pigynnau dŵr, rhaid cael o leiaf ddau bigyn dŵ r neu ddau gwpan o dŵ r fewn cyrraedd i bob iâr.

6.  Er mwyn hwyluso archwilio, gosod a diboblogi'r ieir rhaid cael ale o 90 cm o led o leiaf rhwng haenau o gewyll a rhaid caniatáu 35 cm o leiaf rhwng llawr yr adeilad a haen isaf y cewyll.

7.  Rhaid gosod dyfeisiau addas ar gyfer cwtogi crafangau yn y cewyll.

ATODLEN 3ChAMODAU SY'N GYMWYS I BOB SYSTEM

1.  Rhaid i bob iâr gael ei harchwilio gan y perchennog neu'r person sy'n gyfrifol amdanynt o leiaf unwaith y dydd.

2.  Rhaid cadw lefel y sŵ n i'r lleiaf posibl. Rhaid osgoi sŵ n cyson neu sydyn. Rhaid i wyntyllau awyru, peiriannau bwydo neu offer eraill gael eu hadeiladu, eu lleoli, eu gweithredu a'u cynnal mewn ffordd sy'n golygu eu bod yn cadw cyn lleied â phosibl o sŵ n.

3.  Rhaid cael lefelau digonol o olau ym mhob adeilad i ganiatáu i bob iâr weld ei gilydd a chael ei gweld yn glir, ymchwilio i'w hamgylchoedd yn weledol a dangos lefelau gweithgarwch arferol. Os oes goleuni naturiol, rhaid trefnu'r agoriadau goleuni mewn ffordd sy'n golygu bod y goleuni'n cael ei wasgaru'n gyfartal yn y llety.

Ar ôl y dyddiau cyntaf o ymgyfarwyddo, rhaid i'r gyfundrefn oleuo fod yn gyfryw ag i atal problemau iechyd ac ymddygiad. Gan hynny, rhaid iddi ddilyn rhythm 24-awr a chynnwys cyfnod di-dor digonol o dywyllwch sy'n para tua un rhan o dair o'r diwrnod, er mwyn i'r ieir gael gorffwys ac i osgoi problemau megis gostwng imwnedd ac anhwylderau ar y llygaid. Dylid darparu gwyll digon hir, pan gaiff y golau ei bylu, er mwyn i'r ieir setlo heb gael eu haflonyddu na'u hanafu.

4.  Rhaid i'r rhannau hynny o adeiladau, offer neu lestri sydd mewn cysylltiad â'r ieir gael eu glanhau a'u diheintio'n rheolaidd a phob tro y ceir diboblogi beth bynnag a chyn dod â llwyth newydd o ieir i mewn. Tra bydd ieir yn y cewyll, rhaid i'r arwynebau a'r holl offer gael eu cadw'n foddhaol o lân. Rhaid i dom gael ei symud ymaith mor aml ag y bydd angen a rhaid symud ieir marw oddi yno bob dydd.

5.  Rhaid cyfarparu'r cewyll yn addas i atal yr ieir rhag dianc.

6.  Rhaid i lety sy'n cynnwys dwy neu fwy o haenau o gewyll gael dyfeisiau neu rhaid cymryd mesurau priodol i ganiatáu i bob haen gael ei harchwilio heb anhawster ac i hwyluso symud ieir oddi yNo.

7.  Rhaid i ddyluniad a dimensiynau drws y cawell fod yn gyfryw ag i iâr lawndwf gael ei thynnu oddi yno heb ddioddef yn ddiangen a heb ei niweidio.

8.  Yn ddarostyngedig i baragraff 9, ni chaiff unrhyw berson lurgunio unrhyw iâr ddodwy.

9.  Er mwyn osgoi plubigo a chanibaliaeth, hyd at 31 Rhagfyr 2010 caniateir tocio pigau adar yn yr holl systemau y cyfeirir atynt yn Atodlenni 3A, 3B a 3C ar yr amod ei fod yn cael ei wneud—

(a)gan bersonau dros 18 oed;

(b)i ieir sy'n llai na 10 diwrnod oed y bwriedir hwy ar gyfer dodwy; ac

(c)yn unol â Gorchymyn Llawfeddygaeth Filfeddygol (Esemptiadau) 1962(4)..

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC dyddiedig 19 Gorffennaf 1999 sy'n nodi safonau gofynnol ar gyfer diogelu ieir dodwy (O.J. L203, 03/08/1999 t.35—57).

Mae'r Rheoliadau'n gwneud y diwygiadau canlynol i Reoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2682 (Cy.223)) (“y Prif Reoliadau”)—

  • Mae'r diffiniad o “iâr ddodwy” yn y Prif Reoliadau yn cael ei ddiwygio ac mae diffiniadau newydd ar gyfer “llaesodr”, “nyth” a “lle y gellir ei ddefnyddio” yn cael eu mewnosod (rheoliad (2).

  • Mewnosodir rholiad 5 ac Atodlen 3 newydd i gymhwyso gofynion mewn perthynas â chadw ieir dodwy mewn systemau heblaw y rhai y cyfeirir atynt yn yr Atodlenni 3A, 3B, 3C a 3Ch newydd i'r Prif Reoliadau (rheoliadau 2(4) a (7)).

  • O 6 Awst 2002 ymlaen, rhaid i bob system ddi-gawell sy'n cael ei hadeiladu o'r newydd neu ei hail-adeiladu (ysguboriau, clwydfeydd a systemau buarth) gydymffurfio â'r darpariaethau a nodir mewn Atodlen 3A newydd sy'n cael ei mewnosod yn y Prif Reoliadau. Rhaid i bob system o'r fath gydymffurfio â'r Atodlen 3A newydd o 1 Ionawr 2007 ymlaen. Mae Atodlen 3A yn nodi'r gofynion mewn perthynas â lle i ieir fwydo, maint cafnau yfed, lle i'r nyth, clwydi, man o dan laesodr, adeiladwaith y gosodiadau a dwysedd stocio.

  • O 1 Ionawr 2003 ymlaen, bydd darpariaethau newydd yn gymwys ar gyfer lles ieir sy'n cael eu cadw mewn cewyll confensiynol (“batri”). Mae Atodlen 3B newydd yn nodi safonau gofynnol mewn perthynas ag arwynebedd cawell i bob iâr, cafnau bwydo, darparu dŵ r, uchder y cewyll, adeiladwaith y lloriau a darparu dyfeisiau ar gyfer cwtogi crafangau. Gwaherddir defnyddio cewyll confensiynol o 1 Ionawr 2012 ymlaen ac ni all unrhyw gewyll o'r fath gael eu hadeiladu, na dechrau cael eu defnyddio, o 1 Ionawr 2003 ymlaen.

  • Mae Atodlen 3C newydd yn cael ei mewnosod, sy'n nodi safonau gofynnol uwch ar gyfer systemau cewyll ar gyfer magu ieir dodwy a fydd yn gymwys i bob system gewyll o 1 Ionawr 2012 ymlaen. Rhaid i bob system gewyll sy'n cael ei hadeiladu neu y dechreuir ei defnyddio o 1 Ionawr 2003 ymlaen gydymffurfio â'r safonau uwch hyn.

  • Nodir safonau cyffredinol a fydd yn gymwys i bob system newydd ar gyfer magu ieir dodwy mewn Atodlen 3Ch newydd i'r Prif Reoliadau. Mae'n cynnwys gofynion mewn perthynas ag archwilio ieir, lefelau sŵn, darparu golau, glanhau a diheintio, dylunio cewyll a gwahardd llurgunio, ond mae'n caniatáu tocio pigau tan 31 Rhagfyr 2010, o dan amodau penodol, gan gynnwys cydymffurfio â Gorchymyn Llawfeddygaeth Filfeddygol (Esemptiadau) 1962.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ac wedi'i gyhoeddi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau hefyd oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1968 p.34. Gweler adran 50 i gael diffiniad o “the Ministers”. Mewn perthynas â Chymru, cafodd pwerau “the Ministers” eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

OJ Rhif L 203, 3.8.99, t.53

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources