- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995, mewn perthynas â hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer rhai ffurfiau ar ddatblygu telathrebu. Lle bo'r hawliau hynny yn gymwys nid oes angen cais penodol am ganiatâd cynllunio.
Mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn a'r Atodlen yn amnewid Rhan 24 o Atodlen 2 i Orchymyn 1995 â fersiwn sydd wedi'i ddiwygio a'i gydgrynhoi, sy'n gymwys i Gymru, ac yn rhoi'r hawliau datblygu hynny a ganiateir.
Y prif newidiadau yw:
(a)cyflwyno (Amod A.3(4)(b)) gofyniad bod gyda phob cais i awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygu sy'n cynnwys adeiladu neu osod un neu fwy o antenâu er mwyn gweithredu system telathrebu ddatganiad ysgrifenedig bod pob cyfarpar a gosodiad y mae'r cais yn perthyn iddynt wedi'u cynllunio fel y byddant, ar ôl cael eu hadeiladu neu'u gosod yn gweithio yn y fath fodd ag i gydymffurfio'n llawn â gofynion canllawiau'r Comisiwn Cydwladol ar Amddiffyn rhag Ymbelydredd Anïoneiddio ar ddatguddio'r cyhoedd i amlderau radio; a
(b)cyflwyno gweithdrefn ddiwygiedig ar gyfer cymeradwyo o flaen llaw.
Mae'r weithdrefn ddiwygiedig ar gyfer cymeradwyo o flaen llaw yn gymwys i ddatblygu ar dir erthygl 1(5) neu ar dir sy'n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, neu sydd o fewn safle o'r fath, neu lle bo'r datblygu yn cynnwys adeiladu, gosod, newid neu amnewid: mast; neu antena ar adeilad neu strwythur lle byddai'r teimlydd yn 4 metr neu fwy yn uwch na'r adeilad neu strwythur; neu blwch ffôn cyhoeddus; neu amgaead cyfarpar radio y mae ei gyfaint yn fwy na 2.5 metr ciwbig; neu ddatblygu sy'n atodol i amgaead cyfarpar radio.
Mae'n ofynnol i'r datblygwr hysbysu perchennog y tir y mae'r datblygiad arfaethedig yn ymwneud ag ef ac unrhyw denant amaethyddol, cyn gwneud cais am gymeradwyaeth o flaen llaw.
Mae'n ofynnol, hefyd, i'r awdurdod cynllunio lleol, ar ôl i gais o'r fath ddod i law, ymgynghori â phersonau ac awdurdodau penodol, i ddyroddi hysbysiadau penodol ac i ystyried, pan fyddant yn dyfarnu ar y cais, y sylwadau a gafwyd ganddynt.
Estynnir y cyfnod pryd y mae'n rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol ddyfarnu ar y cais o 28 diwrnod i 56 diwrnod. Os methant wneud hynny cyn diwedd y cyfnod hwnnw (neu os dyfarnant nad oes angen cymeradwyaeth neu y dylid rhoi cymeradwyaeth) gall y datblygu fynd yn ei flaen.
Mae mân newidiadau eraill yn cael eu gwneud i Ran 24, a hynny'n bennaf at bwrpas eglurdeb.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: