Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995, mewn perthynas â hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer rhai ffurfiau ar ddatblygu telathrebu. Lle bo'r hawliau hynny yn gymwys nid oes angen cais penodol am ganiatâd cynllunio.
Mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn a'r Atodlen yn amnewid Rhan 24 o Atodlen 2 i Orchymyn 1995 â fersiwn sydd wedi'i ddiwygio a'i gydgrynhoi, sy'n gymwys i Gymru, ac yn rhoi'r hawliau datblygu hynny a ganiateir.
Y prif newidiadau yw:
cyflwyno (Amod A.3(4)(b)) gofyniad bod gyda phob cais i awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygu sy'n cynnwys adeiladu neu osod un neu fwy o antenâu er mwyn gweithredu system telathrebu ddatganiad ysgrifenedig bod pob cyfarpar a gosodiad y mae'r cais yn perthyn iddynt wedi'u cynllunio fel y byddant, ar ôl cael eu hadeiladu neu'u gosod yn gweithio yn y fath fodd ag i gydymffurfio'n llawn â gofynion canllawiau'r Comisiwn Cydwladol ar Amddiffyn rhag Ymbelydredd Anïoneiddio ar ddatguddio'r cyhoedd i amlderau radio; a
cyflwyno gweithdrefn ddiwygiedig ar gyfer cymeradwyo o flaen llaw.
Mae'r weithdrefn ddiwygiedig ar gyfer cymeradwyo o flaen llaw yn gymwys i ddatblygu ar dir erthygl 1(5) neu ar dir sy'n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, neu sydd o fewn safle o'r fath, neu lle bo'r datblygu yn cynnwys adeiladu, gosod, newid neu amnewid: mast; neu antena ar adeilad neu strwythur lle byddai'r teimlydd yn 4 metr neu fwy yn uwch na'r adeilad neu strwythur; neu blwch ffôn cyhoeddus; neu amgaead cyfarpar radio y mae ei gyfaint yn fwy na 2.5 metr ciwbig; neu ddatblygu sy'n atodol i amgaead cyfarpar radio.
Mae'n ofynnol i'r datblygwr hysbysu perchennog y tir y mae'r datblygiad arfaethedig yn ymwneud ag ef ac unrhyw denant amaethyddol, cyn gwneud cais am gymeradwyaeth o flaen llaw.
Mae'n ofynnol, hefyd, i'r awdurdod cynllunio lleol, ar ôl i gais o'r fath ddod i law, ymgynghori â phersonau ac awdurdodau penodol, i ddyroddi hysbysiadau penodol ac i ystyried, pan fyddant yn dyfarnu ar y cais, y sylwadau a gafwyd ganddynt.
Estynnir y cyfnod pryd y mae'n rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol ddyfarnu ar y cais o 28 diwrnod i 56 diwrnod. Os methant wneud hynny cyn diwedd y cyfnod hwnnw (neu os dyfarnant nad oes angen cymeradwyaeth neu y dylid rhoi cymeradwyaeth) gall y datblygu fynd yn ei flaen.
Mae mân newidiadau eraill yn cael eu gwneud i Ran 24, a hynny'n bennaf at bwrpas eglurdeb.