Search Legislation

Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 157 (Cy.23)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

29 Ionawr 2002

Yn dod i rym

1 Ebrill 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 29(5), a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1), ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “awdurdod gwasanaethau cymdeithasol” (“social services authority”) yw awdurdod lleol at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970(3) yn gweithredu i gyflawni unrhyw swyddogaethau y cyfeirir atynt yn adran 1A o'r Ddeddf honno;

  • mae i “awdurdod iechyd” yr un ystyr â “health authority” yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(4)); ac

  • ystyr “datganiad” (“statement”) yw datganiad o anghenion addysgol arbennig a wneir o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

(4Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas—

(a)ag ysgolion meithrin, neu

(b)â phlant o dan oedran ysgol gorfodol.

Cyhoeddi gwybodaeth

2.  Rhaid i awdurdod addysg lleol—

(a)cyhoeddi gwybodaeth am y materion a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn unol â rheoliad 3(1), (2) a (3);

(b)cadw golwg ar yr wybodaeth honno; ac

(c)os ceir newid arwyddocaol mewn unrhyw ran o'r wybodaeth honno, diwygio'r wybodaeth yn unol â hynny a chyhoeddi'r wybodaeth ddiwygiedig yn unol â rheoliad 3(4).

Dull cyhoeddi'r wybodaeth

3.—(1Rhaid i'r awdurdod addysg lleol gyhoeddi'r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 2(a) —

(a)drwy roi copi ysgrifenedig o'r wybodaeth i unrhyw awdurdod iechyd neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol y mae ganddynt fuddiant yn yr wybodaeth honno ym marn yr awdurdod addysg lleol drwy'r post, drwy gyfathrebu'n electronig neu drwy unrhyw fodd arall sydd wedi'i gytuno â'r awdurdod;

(b)drwy drefnu bod yr wybodaeth ar gael ar unrhyw wefan y gall fod yr awdurdod yn ei chynnal ar y Rhyngrwyd;

(c)drwy roi copi ysgrifenedig o'r wybodaeth i'r ysgolion a gynhelir yn ardal yr awdurdod drwy'r post, drwy gyfathrebu'n electronig neu drwy unrhyw fodd arall sydd wedi'i gytuno â'r awdurdod; ac

(ch)drwy roi copi ysgrifenedig o'r wybodaeth i unrhyw berson sy'n gwneud cais amdano drwy'r post, drwy gyfathrebu'n electronig neu drwy unrhyw fodd arall sydd wedi'i gytuno â'r awdurdod.

(2Rhaid i'r wybodaeth am y materion a nodir ym mharagraff 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn gael ei chyhoeddi ar 30 Ebrill 2002 neu cyn hynny.

(3Rhaid i'r wybodaeth am y materion a nodir ym mharagraffau 2 a 3 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn gael ei chyhoeddi ar 31 Gorffennaf 2002 neu cyn hynny.

(4Rhaid i unrhyw wybodaeth sydd i'w chyhoeddi yn unol â rheoliad 2(c) gael ei chyhoeddi gan yr awdurdod addysg lleol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i ddiwygiad gael ei wneud—

(a)drwy roi'r wybodaeth ddiwygiedig i awdurdod iechyd neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol a gafodd wybodaeth o'r blaen oddi wrth yr awdurdod addysg lleol yn unol â rheoliad 3(1)(a) drwy'r post, drwy gyfathrebu'n electronig neu drwy unrhyw fodd arall sydd wedi'i gytuno â'r awdurdod;

(b)drwy ddiweddaru unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod ar y Rhyngrwyd i ddangos yr wybodaeth ddiwygiedig;

(c)drwy hysbysu'r ysgolion a gynhelir yn ardal yr awdurdod am y diwygiadau drwy'r post, drwy gyfathrebu'n electronig neu drwy unrhyw fodd arall sydd wedi'i gytuno â'r awdurdod; ac

(ch)drwy roi'r wybodaeth ddiwygiedig i unrhyw berson sy'n gwneud cais amdano drwy'r post, drwy gyfathrebu'n electronig neu drwy unrhyw fodd arall sydd wedi'i gytuno â'r awdurdod.

(5Rhaid i'r wybodaeth a gyhoeddir yn unol â'r rheoliad hwn gael ei chyhoeddi yn ddi-dâl.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Ionawr 2002

Rheoliad 2

YR ATODLENYR WYBODAETH SYDD I'W DARPARU GAN YR AWDURDODAU ADDYSG LLEOL

1.  Esboniad ar yr elfen honno o'r ddarpariaeth addysgol arbennig ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig (ond sydd heb ddatganiadau) y mae'r awdurdod addysg lleol yn disgwyl fel rheol iddi gael ei thalu o gyfran yr ysgolion a gynhelir o'r gyllideb ac ar yr elfen honno o'r ddarpariaeth honno y mae'r awdurdod yn disgwyl fel rheol iddi gael ei thalu gan yr awdurdod o'r arian sydd ganddo yn ganolog.

2.  Nodau bras polisi'r awdurdod addysg lleol mewn perthynas â phlant ag anghenion addysgol arbennig ynghyd â gwybodaeth am y camau y mae'r awdurdod yn eu cymryd—

(a)i hybu safonau addysgol uchel i blant ag anghenion addysgol arbennig;

(b)i annog plant ag anghenion addysgol arbennig i chwarae rhan gyflawn yn eu hysgol a'u cymuned ac i gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu haddysg ac i wneud dewisiadau amdani;

(c)i annog yr ysgolion yn eu hardal i rannu eu harferion wrth wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig; ac

(ch)i weithio gyda chyrff statudol a gwirfoddol eraill i ddarparu cymorth i blant ag anghenion addysgol arbennig.

3.  Y trefniadau cyffredinol a wneir gan yr awdurdod addysg lleol, gan gynnwys unrhyw gynlluniau, amcanion a graddfeydd amser ar gyfer—

(a)adnabod plant yn eu hardal sydd ag anghenion addysgol arbennig;

(b)monitro derbyniadau plant ag anghenion addysgol arbennig (p'un a oes gan y plant hyn ddatganiad neu beidio) i'r ysgolion a gynhelir yn eu hardal;

(c)trefnu asesiadau anghenion addysgol plant yn unol ag adran 323 o Ddeddf Addysg 1996 yn ardal yr awdurdod addysg lleol, gan gynnwys unrhyw brotocolau lleol ar gyfer gwneud hyn;

(ch)trefnu gwneud a chynnal datganiadau yn eu hardal gan gynnwys unrhyw brotocolau lleol ar gyfer gwneud hyn;

(d)rhoi cymorth i'r ysgolion yn eu hardal mewn perthynas â gwneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig;

(dd)archwilio, cynllunio, monitro ac adolygu'r ddarpariaeth ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig yn eu hardal, yn gyffredinol ac mewn perthynas â phlant unigol;

(e)sicrhau hyfforddiant, cyngor a chymorth i'r staff sy'n gweithio yn eu hardal gyda phlant ag anghenion addysgol arbennig; ac

(f)adolygu a diweddaru'r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) i (e).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod dyletswydd ar yr awdurdodau addysg lleol i gyhoeddi gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud â darparu addysg ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig.

Yn benodol, mae'n ofynnol iddynt gyhoeddi esboniad ar y rhan honno o'r ddarpariaeth addysgol arbennig y maent yn disgwyl i'r ysgolion a gynhelir ei hariannu o'u cyfran hwy o'r gyllideb, ac ar yr elfen honno y maent yn disgwyl ei hariannu eu hunain.

Hefyd rhaid iddynt gyhoeddi gwybodaeth am nodau bras eu polisi ar anghenion addysgol arbennig, yn ogystal â'r camau penodol y maent yn eu cymryd ar faterion anghenion addysgol arbennig.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

1970 p.42; mewnosodwyd adran 1A gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), adran 102(3).

(4)

1977 p.49; diwygiwyd gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) a Deddf Iechyd 1999 (p.32).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources