2002 Rhif 157 (Cy.23)
Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.
2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod gwasanaethau cymdeithasol” (“social services authority”) yw awdurdod lleol at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 19703 yn gweithredu i gyflawni unrhyw swyddogaethau y cyfeirir atynt yn adran 1A o'r Ddeddf honno;
mae i “awdurdod iechyd” yr un ystyr â “health authority” yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19774); ac
ystyr “datganiad” (“statement”) yw datganiad o anghenion addysgol arbennig a wneir o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996.
3
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
4
Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas—
a
ag ysgolion meithrin, neu
b
â phlant o dan oedran ysgol gorfodol.
Cyhoeddi gwybodaeth2
Rhaid i awdurdod addysg lleol—
a
cyhoeddi gwybodaeth am y materion a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn unol â rheoliad 3(1), (2) a (3);
b
cadw golwg ar yr wybodaeth honno; ac
c
os ceir newid arwyddocaol mewn unrhyw ran o'r wybodaeth honno, diwygio'r wybodaeth yn unol â hynny a chyhoeddi'r wybodaeth ddiwygiedig yn unol â rheoliad 3(4).
Dull cyhoeddi'r wybodaeth3
1
Rhaid i'r awdurdod addysg lleol gyhoeddi'r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 2(a) —
a
drwy roi copi ysgrifenedig o'r wybodaeth i unrhyw awdurdod iechyd neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol y mae ganddynt fuddiant yn yr wybodaeth honno ym marn yr awdurdod addysg lleol drwy'r post, drwy gyfathrebu'n electronig neu drwy unrhyw fodd arall sydd wedi'i gytuno â'r awdurdod;
b
drwy drefnu bod yr wybodaeth ar gael ar unrhyw wefan y gall fod yr awdurdod yn ei chynnal ar y Rhyngrwyd;
c
drwy roi copi ysgrifenedig o'r wybodaeth i'r ysgolion a gynhelir yn ardal yr awdurdod drwy'r post, drwy gyfathrebu'n electronig neu drwy unrhyw fodd arall sydd wedi'i gytuno â'r awdurdod; ac
ch
drwy roi copi ysgrifenedig o'r wybodaeth i unrhyw berson sy'n gwneud cais amdano drwy'r post, drwy gyfathrebu'n electronig neu drwy unrhyw fodd arall sydd wedi'i gytuno â'r awdurdod.
2
Rhaid i'r wybodaeth am y materion a nodir ym mharagraff 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn gael ei chyhoeddi ar 30 Ebrill 2002 neu cyn hynny.
3
Rhaid i'r wybodaeth am y materion a nodir ym mharagraffau 2 a 3 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn gael ei chyhoeddi ar 31 Gorffennaf 2002 neu cyn hynny.
4
Rhaid i unrhyw wybodaeth sydd i'w chyhoeddi yn unol â rheoliad 2(c) gael ei chyhoeddi gan yr awdurdod addysg lleol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i ddiwygiad gael ei wneud—
a
drwy roi'r wybodaeth ddiwygiedig i awdurdod iechyd neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol a gafodd wybodaeth o'r blaen oddi wrth yr awdurdod addysg lleol yn unol â rheoliad 3(1)(a) drwy'r post, drwy gyfathrebu'n electronig neu drwy unrhyw fodd arall sydd wedi'i gytuno â'r awdurdod;
b
drwy ddiweddaru unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod ar y Rhyngrwyd i ddangos yr wybodaeth ddiwygiedig;
c
drwy hysbysu'r ysgolion a gynhelir yn ardal yr awdurdod am y diwygiadau drwy'r post, drwy gyfathrebu'n electronig neu drwy unrhyw fodd arall sydd wedi'i gytuno â'r awdurdod; ac
ch
drwy roi'r wybodaeth ddiwygiedig i unrhyw berson sy'n gwneud cais amdano drwy'r post, drwy gyfathrebu'n electronig neu drwy unrhyw fodd arall sydd wedi'i gytuno â'r awdurdod.
5
Rhaid i'r wybodaeth a gyhoeddir yn unol â'r rheoliad hwn gael ei chyhoeddi yn ddi-dâl.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985
YR ATODLENYR WYBODAETH SYDD I'W DARPARU GAN YR AWDURDODAU ADDYSG LLEOL
1
Esboniad ar yr elfen honno o'r ddarpariaeth addysgol arbennig ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig (ond sydd heb ddatganiadau) y mae'r awdurdod addysg lleol yn disgwyl fel rheol iddi gael ei thalu o gyfran yr ysgolion a gynhelir o'r gyllideb ac ar yr elfen honno o'r ddarpariaeth honno y mae'r awdurdod yn disgwyl fel rheol iddi gael ei thalu gan yr awdurdod o'r arian sydd ganddo yn ganolog.
2
Nodau bras polisi'r awdurdod addysg lleol mewn perthynas â phlant ag anghenion addysgol arbennig ynghyd â gwybodaeth am y camau y mae'r awdurdod yn eu cymryd—
a
i hybu safonau addysgol uchel i blant ag anghenion addysgol arbennig;
b
i annog plant ag anghenion addysgol arbennig i chwarae rhan gyflawn yn eu hysgol a'u cymuned ac i gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu haddysg ac i wneud dewisiadau amdani;
c
i annog yr ysgolion yn eu hardal i rannu eu harferion wrth wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig; ac
ch
i weithio gyda chyrff statudol a gwirfoddol eraill i ddarparu cymorth i blant ag anghenion addysgol arbennig.
3
Y trefniadau cyffredinol a wneir gan yr awdurdod addysg lleol, gan gynnwys unrhyw gynlluniau, amcanion a graddfeydd amser ar gyfer—
a
adnabod plant yn eu hardal sydd ag anghenion addysgol arbennig;
b
monitro derbyniadau plant ag anghenion addysgol arbennig (p'un a oes gan y plant hyn ddatganiad neu beidio) i'r ysgolion a gynhelir yn eu hardal;
c
trefnu asesiadau anghenion addysgol plant yn unol ag adran 323 o Ddeddf Addysg 1996 yn ardal yr awdurdod addysg lleol, gan gynnwys unrhyw brotocolau lleol ar gyfer gwneud hyn;
ch
trefnu gwneud a chynnal datganiadau yn eu hardal gan gynnwys unrhyw brotocolau lleol ar gyfer gwneud hyn;
d
rhoi cymorth i'r ysgolion yn eu hardal mewn perthynas â gwneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig;
dd
archwilio, cynllunio, monitro ac adolygu'r ddarpariaeth ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig yn eu hardal, yn gyffredinol ac mewn perthynas â phlant unigol;
e
sicrhau hyfforddiant, cyngor a chymorth i'r staff sy'n gweithio yn eu hardal gyda phlant ag anghenion addysgol arbennig; ac
f
adolygu a diweddaru'r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) i (e).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)