- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
18.—(1) Pan fydd paragraff 3, 4, 5 neu 14 yn gymwys i ysgol a bod unrhyw dir a ddelir gan berson neu gorff heblaw awdurdod lleol yn cael ei ddefnyddio, yn union cyn y dyddiad gweithredu, at ddibenion yr ysgol, bydd unrhyw hawliau neu rwymedigaethau—
(a)a oedd yn cael eu mwynhau neu yn cael eu tynnu gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â defnyddio'r tir, a
(b)a oedd yn bodoli yn union cyn y dyddiad gweithredu,
yn cael eu trosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i ymddiriedolwyr yr ysgol, neu, os nad oes unrhyw ymddiriedolwyr, i'r corff llywodraethu, ac yn rhinwedd y Rheoliadau hyn yn cael eu breinio ynddynt neu ynddo.
(2) Pan fydd paragraff 6, 9, 12 neu 15 yn gymwys i ysgol a bod unrhyw dir a ddelid gan berson neu gorff heblaw corff llywodraethu'r ysgol yn cael ei ddefnyddio, yn union cyn y dyddiad gweithredu, at ddibenion yr ysgol, bydd unrhyw hawliau a rhwymedigaethau—
(a)a oedd yn cael eu mwynhau neu yn cael eu tynnu gan y corff llywodraethu mewn cysylltiad â defnyddio'r tir, a
(b)a oedd yn bodoli yn union cyn y dyddiad gweithredu,
yn cael eu trosglwyddo i'r awdurdod addysg lleol, ac yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, yn cael eu breinio ynddo.
(3) Pan fydd paragraff 6, 9, 12 neu 15 yn gymwys i ysgol a bod unrhyw dir a ddelid gan berson neu gorff, heblaw unrhyw ymddiriedolwyr neu gorff sefydledig sy'n dal unrhyw dir at ddibenion yr ysgol, yn cael ei ddefnyddio yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgol, bydd unrhyw hawliau neu rwymedigaethau—
(a)a oedd yn cael eu mwynhau neu'n cael eu tynnu gan unrhyw ymddiriedolwyr neu gorff sefydledig o'r fath mewn cysylltiad â defnyddio'r tir, a
(b)a oedd yn bodoli yn union cyn y dyddiad gweithredu,
yn cael eu trosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r awdurdod addysg lleol, ac yn cael eu breinio ynddo, yn unol â chytundeb trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau.
(4) Nid oes dim yn y paragraff hwn yn gymwys i dir y mae unrhyw un o baragraffau 3 i 12 yn gymwys iddo.
(5) Yn y paragraff hwn—
ystyr “cytundeb trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau” yw cytundeb—
sy'n cael ei wneud at ddibenion is-baragraff (3) rhwng yr awdurdod addysg lleol a'r ymddiriedolwyr neu'r corff sefydledig (yn ôl fel y digwydd) a grybwyllir yn yr is-baragraff hwnnw, a
sy'n darparu bod yr hawliau neu'r rhwymedigaethau o dan sylw yn cael eu trosglwyddo i'r awdurdod ar y dyddiad gweithredu, ac yn cael eu breinio ynddo, p'un ai yn gydnabyddiaeth am swm a delir gan yr awdurdod ac y cytunir arno rhwng y partïon neu beidio.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: