- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fydd —
(a)unrhyw asedau wedi eu trosglwyddo i'r Awdurdod Iechyd yn unol ag erthygl 2; a
(b)yn unol ag erthyglau 3, 5 neu 6, gellir gorfodi unrhyw rwymedigaeth yn erbyn yr Awdurdod Iechyd, neu mae unrhyw gost i'w thalu gan yr Awdurdod Iechyd,
bydd yr Awdurdod Iechyd yn sicrhau bod y rhwymedigaeth neu'r gost yn y lle cyntaf yn cael ei thalu o'r asedau a drosglwyddwyd.
(2) Pan fydd rhwymedigaethau a chostau yn uwch na chyfanswm gwerth yr asedau a drosglwyddwyd, rhaid talu amdanynt o'r asedau a drosglwyddwyd yn y drefn ganlynol—
(a)costau a dynnwyd wrth baratoi cyfrifon fel y'u nodir yn erthygl 5;
(b)y gost o fod yn atebol am hawliau a rhwymedigaethau a gadwyd gan gyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa fel y'u nodir yn erthygl 6;
(c)y gost o fod yn atebol am hawliau a rhwymedigaethau a drosglwyddwyd i'r Awdurdod Iechyd yn unol ag erthygl 3.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i erthygl 9, bydd yr Awdurdod Iechyd yn talu costau rhesymol a dynnwyd gan gyn-aelodau o bractis deiliad-cronfa a oedd yn bractis deiliad-cronfa gweddilliol wrth baratoi cyfrifon blynyddol y practis hwnnw ar gyfer y flwyddyn ariannol 1999-2000, a gall gynnwys—
(a)taliadau i weithwyr neu gyn-weithwyr y practis deiliad-cronfa gweddilliol;
(b)taliadau naill ai —
(i)i gyn-aelod o'r practis deiliad-cronfa gweddilliol, neu
(ii)i ymarferydd meddygol cofrestredig ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol i gleifion y practis deiliad-cronfa gweddilliol blaenorol sydd wrthi'n paratoi'r cyfrifon;
(c)ffioedd archwilwyr;
(ch)taliadau sy'n ymwneud â chyfrifiaduron a gwybodaeth technoleg.
(2) Caiff yr Awdurdod Iechyd secondio unrhyw un o'i swyddogion neu ei weithwyr hefyd i gynorthwyo cyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa gweddilliol wrth baratoi cyfrifon blynyddol y practis deiliad-cronfa ar gyfer y flwyddyn ariannol 1999-2000, ac yn yr achos hwnnw bydd yn talu cost y secondiad.
(3) Caiff yr Awdurdod Iechyd ryddhad o unrhyw rwymedigaeth i dalu costau a dynnwyd yn unol â pharagraff 1, yn gyfan neu'n rhannol, wrth ryddhau rhwymedigaeth cyn-aelodau practis deiliad-cronfa gweddilliol i unrhyw berson arall.
6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), caiff unrhyw rwymedigaeth na ellid ei gorfodi yn erbyn yr Awdurdod Iechyd yn unol ag erthygl 3, ei thalu er hynny gan yr Awdurdod Iechyd os yw'r rhwymedigaeth —
(a)yn un sy'n digwydd o fewn erthygl 3(2); neu
(b)yn cael ei thynnu cyn 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny yn unol â chydsyniad ysgrifenedig a roddwyd cyn y dyddiad hwnnw.
(2) Bydd yr Awdurdod Iechyd yn rhwym i dalu am rwymedigaeth cyn-aelodau o'r practis deliaid-cronfa o dan baragraff (1) hyd at yr isafswm o unrhyw derfyn sydd ar y swm i'w ddefnyddio a nodir yn y cydsyniad ysgrifenedig neu ym mharagraffau 3(B) a 3(C) o reoliad 25(1) o Reoliadau 1996 fel y cafodd y paragraffau hynny effaith ar y dyddiad y rhoddwyd cydsyniad yr Awdurdod Iechyd.
(3) Pan fydd cyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa yn dod yn ymwybodol o unrhyw hawliad yn ymwneud â rhwymedigaeth sy'n dod o fewn paragraff (1), rhaid iddynt –
(a)rhoi gwybod i'r Awdurdod Iechyd am yr hawliad; a
(b) gweithredu yn ôl gofyniad rhesymol yr Awdurdod Iechyd er mwyn osgoi, dadlau, gwrthwynebu, cyfaddawdu, amddiffyn neu apelio yn erbyn yr hawliad.
Mewnosodwyd paragraffau 3B a 3C o reoliad 25 gan O.S. 1998/693, Rheoliad 11(4). Diwygiwyd paragraff 3(B) gan O.S. 1999/261, rheoliad 22(7) ac amnewidiwyd paragraff 3(C) gan O.S. 1999/261, rheoliad 22(8).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: