Search Legislation

Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau ar gyfer Adfer y Stoc Penfreision) (Môr Iwerddon) (Cymru) 2000

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 976 (Cy. 46 )

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau ar gyfer Adfer y Stoc Penfreision) (Môr Iwerddon) (Cymru) 2000

Wedi'i wneud

17th Mawrth 2000

Yn dod i rym

18th Mawrth 2000

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981(1) ac a freinir ynddo bellach, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru(2) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau ar gyfer Adfer y Stoc Penfreision) (Môr Iwerddon) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 18th Mawrth 2000.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn:–

  • ystyr “ardal benodedig” (“specified area”) yw y rhan honno o'r ardal a ddiffinnir yn Erthygl 1.1 o Reoliad y Comisiwn sydd o fewn y môr tiriogaethol sy'n agos at Gymru (3);

  • mae “cwch pysgota” (“fishing boat”) yn cynnwys cwch derbyn a chwch trydedd wlad, y naill a'r llall o fewn ystyr Rheoliad 2847/93;

  • ystyr “cwch pysgota Albanaidd” (“Scottish fishing boat”) yw llong bysgota a gofrestrwyd yn y gofrestr a gedwir o dan adran 8 o Ddeddf Llongau Masnachol 1995 (4) ac y mae ei manylion yn y gofrestr yn pennu porthladd yn yr Alban fel y porthladd y dylid ei drin fel y porthladd y mae'r llong yn perthyn iddo;

  • ystyr “cwch pysgota Prydeinig” (“British fishing boat”) yw cwch pysgota a gofrestrwyd yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 1995 neu a berchenogir yn gyfan gwbl gan bersonau sy'n gymwysedig i berchenogi llongau Prydeinig at ddibenion y rhan honno o'r Ddeddf honno;

  • ystyr “cwch pysgota Prydeinig perthnasol” (“relevant British fishing boat”) yw cwch pysgota Prydeinig nad yw yn gwch pysgota Albanaidd;

  • mae “Cymru” (“Wales”) i'w ddehongli yn unol ag adran 155(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (5);

  • ystyr “y darpariaethau Cymunedol” (“the Community provisions”) yw:

    (a)

    y gwaharddiad sydd wedi'i gynnwys yn Erthygl 1.1 o Reoliad y Comisiwn, fel y'i darllenir gydag Erthyglau 1.2 ac 1.3 o'r Rheoliad hwnnw, a

    (b)

    y gofyniad sydd wedi'i gynnwys yn Erthygl 4(4)(b) o Reoliad 850/98, fel y'i darllenir gydag erthyglau 4(5)(a) a 5 o'r Rheoliad hwnnw ac Atodiad I iddo, i'r graddau (yn unig) y mae effaith y gofyniad hwnnw wedi'i hymestyn yn rhinwedd Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn;

  • ystyr “pwyllgor pysgodfeydd lleol” (“local fisheries committee”) yw pwyllgor pysgodfeydd lleol a gyfansoddwyd gan orchymyn wedi'i wneud, neu sydd ag effaith fel petai wedi'i wneud, o dan adran 1 o Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 1966 (6);

  • ystyr “Rheoliad 2847/93” (“Regulation 2847/93”) yw Rheoliad y Cyngor (CEE) Rhif 2847/93 a sefydlodd gyfundrefn reoli sy'n gymwys i'r polisi pysgodfeydd cyffredin(7);

  • ystyr “Rheoliad 850/98” (“Regulation 850/98”) yw Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 850/98 ar gyfer cadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy fesurau technegol i warchod ieuenctid organeddau morol (8);

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif –304/2000 a sefydlodd fesurau i adfer y stoc penfreision ym Môr Iwerddon (Rhaniad VIIa ICES)(9);

  • ystyr “tramgwydd perthnasol” (“relevant offence”) yw tramgwydd o dan:

    (a)

    erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, neu

    (b)

    unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig a wnaed er mwyn gweithredu darpariaethau y Gymuned, sydd yn ddarpariaeth, yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, y gellir cychwyn achos ynglyn â hi mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.

(2Yn y Gorchymyn hwn mae unrhyw gyfeiriad at ddogfen, coflyfr neu ddatganiad yn cynnwys, yn ogystal â dogfen, coflyfr neu ddatganiad ysgrifenedig –

(i)unrhyw fap, plan, graff neu ddarlun;

(ii)unrhyw ffotograff;

(iii)unrhyw ddata, sut bynnag y'i hatgynhyrchir, a gyfathrebir trwy system monitro lloeren-cwch a sefydlwyd o dan erthygl 3.1 o Reoliad 2847/93;

(iv)unrhyw ddisg, tâp, trac sain neu ddyfais arall sy'n recordio seiniau neu ddata arall (heb fod yn ddelweddau gweledol) fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (gyda chymorth unrhyw gyfarpar arall, neu hebddo), a

(v)unrhyw ffilm (gan gynnwys microffilm), negatif, tâp, disg neu ddyfais arall y mae un neu fwy o ddelweddau gweledol yn cael eu recordio arnynt fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (fel y dywedwyd uchod).

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at un o offerynnau'r Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r offeryn hwnnw sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.

Tramgwyddo

3.  – Pan fydd unrhywun o ddarpariaethau y Gymuned, mewn perthynas ag

(a)unrhyw gwch pysgota o fewn yr ardal benodedig; neu

(b)unrhyw gwch pysgota sy'n mynd i mewn i unrhyw ran o'r ardal benodedig,

yn cael ei dorri, neu pan fethir â chydymffurfio â hi, bydd y meistr, y perchennog, a'r siartrwr (os oes un) bob un yn euog o dramgwyddo.

Cosbi

4.—(1Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, y dygwyd achos mewn perthynas ag ef yng Nghymru yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, yn agored:

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na'r uchafswm statudol;

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

(2Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn yr erthygl hon, caiff y llys y ceir person yn euog o dramgwydd perthnasol ganddo neu ger ei fron orchymyn fforffedu unrhyw bysgod y cyflawnwyd y tramgwydd mewn perthynas â hwy a fforffedu unrhyw rwyd neu offer pysgota arall a ddefnyddiwyd wrth gyflawni'r tramgwydd.

(3Bydd unrhyw berson a geir yn euog o dramgwydd perthnasol, yn ddarostyngedig i baragraff (5), yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na gwerth y pysgod y cyflawnwyd y tramgwydd mewn perthynas â hwy.

(4Ni fydd person yn agored i ddirwy o dan baragraff (3) mewn perthynas â thramgwydd perthnasol os bydd y llys, o dan baragraff (2) yn gorchymyn fforffedu'r pysgod y cyflawnwyd y tramgwydd mewn perthynas â hwy; a phan orfodir dirwy o dan baragraff (3) mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd perthnasol, ni fydd gan y llys ber o dan baragraff (2) i orchymyn fforffedu'r pysgod y cyflawnwyd y tramgwydd mewn perthynas â hwy.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd unrhyw ddirwy y mae person yn agored iddi o dan baragraff (3) mewn perthynas â thramgwydd perthnasol yn ychwanegol at unrhyw gosb arall (boed gosb ariannol neu gosb arall) y mae person yn agored iddi mewn perthynas â'r tramgwydd hwnnw o dan yr erthygl hon neu o dan unrhyw ddeddfiad arall.

Casglu Dirwyon

5.—(1Pan orfodir dirwy gan lys ynadon ar feistr, perchennog neu siartrwr, neu ar aelod o griw cwch pysgota a gollfernir gan y llys o dramgwydd perthnasol neu dramgwydd o dan erthygl 10 o'r Gorchymyn hwn, caiff y llys –

(a)rhoi gwarant atafaelu yn erbyn y cwch a oedd yn gysylltiedig â chyflawni'r tramgwydd a'i offer a'i haldiad ac unrhyw eiddo sydd gan y person a gollfarnwyd er mwyn casglu swm y ddirwy; a

(b)gwneud gorchymyn i gadw y cwch a'i offer a'i haldiad am gyfnod o ddim mwy na thri mis o ddyddiad y gollfarn neu hyd nes y telir y ddirwy neu y cesglir swm y ddirwy yn unol ag unrhyw warant o'r fath, p'un bynnag fydd yn digwydd gyntaf.

(2Bydd adrannau 77(1) a 78 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(10) (gohirio rhoi gwarantau atafaelu, a diffygion ynddynt) yn gymwys i warant atafaelu a roddir o dan yr erthygl hon fel y maent yn gymwys i warant atafaelu a roddir o dan Ran III o'r Ddeddf honno.

(3Pan fydd gorchymyn trosglwyddo dirwy mewn perthynas â dirwy ynglyn â thramgwydd perthnasol yn cael ei wneud o dan adran 90 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980, erthygl 95 o Orchymyn Llysoedd Ynadon (Gogledd Iwerddon) 1981 (11) neu adran 222 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995 (12) ac yn pennu rhanbarth llys ynadon yng Nghymru, bydd yr erthygl hon yn gymwys fel petai'r ddirwy wedi ei gorfodi gan lys o fewn y rhanbarth llys ynadon hwnnw.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota

6.—(1Er mwyn gorfodi erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, wedi'i gwneud er mwyn gweithredu'r darpariaethau Cymunedol, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas ag:

(a)unrhyw gwch pysgota Prydeinig perthnasol sydd o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru; neu

(b)unrhyw gwch pysgota arall sydd o fewn yr ardal benodedig,

arfer y pwerau a roddir gan baragraffau (2) i (4) o'r erthygl hon.

(2Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda personau a neilltuwyd i'w gynorthwyo gyda'i ddyletswyddau neu hebddynt, a chaiff ei gwneud yn ofynnol bod y cwch yn stopio ac yn gwneud unrhyw beth arall a fydd yn ei gwneud yn hwylus naill ai mynd ar fwrdd y cwch neu fynd oddi arno.

(3Caiff y swyddog ei gwneud yn ofynnol bod y meistr ac unrhyw bersonau eraill sydd ar fwrdd y cwch yn bresennol a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiadau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol at y diben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) o'r erthygl hon ac, yn benodol –

(a)caiff chwilio am bysgod neu offer pysgota ar y cwch a chaiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch a chyfarpar y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a chaiff ei gwneud yn ofynnol bod personau sydd ar y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwiliad;

(b)caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd ar y cwch yn cyflwyno unrhyw ddogfen yngln â'r cwch, yngln ag unrhyw weithrediadau pysgota neu unrhyw weithrediadau ategol iddynt neu yngln â'r personau sydd ar fwrdd y cwch sydd yng nghadwraeth neu feddiant y person hwnnw;

(c)er mwyn canfod a oes tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a gall ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r chwilio;

(ch)caiff archwilio a chopïo unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir i'r swyddog neu y deuir o hyd iddi ar y cwch;

(d)heb ragfarn i is-baragraffau (c) ac (ch), gall ei gwneud yn ofynnol bod y meistr ac unrhyw berson sydd am y tro yn gyfrifol am y cwch yn cyflwyno pob dogfen o'r fath sydd ar system gyfrifiadurol mewn ffurf weladwy a darllenadwy, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw ddogfen o'r fath yn cael ei chyflwyno mewn ffurf y gellir mynd â hi oddi yno; ac

(dd)os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni mewn perthynas â'r cwch, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir neu y deuir o hyd iddi ar fwrdd y cwch er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos yngln â'r tramgwydd;

ond nid fydd dim yn is-baragraff (dd) uchod yn caniatáu cipio a chadw unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, ac eithrio pan fydd y cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.

(4Pan fydd yn ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni ar unrhyw adeg, fe gaiff y swyddog–

(a)ei gwneud yn ofynnol bod meistr y cwch y cyflawnwyd y tramgwydd mewn perthynas ag ef yn mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd sy'n ymddangos i'r swyddog fel y porthladd cyfleus agosaf, neu caiff y swyddog wneud hynny ei hun; a

(b)cadw , neu ei gwneud yn ofynnol bod y meistr yn cadw, y cwch yn y porthladd;

a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw cwch, neu'n ei gwneud yn ofynnol bod cwch yn cael ei gadw, rhaid iddo gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig y bydd, neu fod, angen cadw y cwch hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig ar y tir

7.—(1Er mwyn gorfodi darpariaethau erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, wedi'i wneud er mwyn gweithredu'r darpariaethau Cymunedol, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig, yng Nghymru –

(a)mynd i mewn ac archwilio ar unrhyw adeg resymol unrhyw adeiladau a ddefnyddir ar gyfer rhedeg busnes mewn cysylltiad â gweithio cychod pysgota neu unrhyw weithgarwch sy'n gysylltiedig â hynny neu'n ategol i hynny neu mewn cysylltiad â thrin, storio neu werthu pysgod;

(b)cymryd gydag ef neu hi unrhyw bersonau eraill sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ac unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau;

(c)archwilio unrhyw bysgod yn yr adeiladau a'i gwneud yn ofynnol bod unrhyw bersonau yn yr adeiladau yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwilio;

(ch)cyflawni mewn adeiladau o'r fath unrhyw archwiliadau ac arbrofion eraill a fydd yn rhesymol angenrheidiol;

(d)ei gwneud yn ofynnol na fydd neb yn gwaredu nac yn peri gwaredu unrhyw bysgod o adeiladau o'r fath yn ystod y cyfnod a fydd yn rhesymol angenrheidiol er mwyn sefydlu a gyflawnwyd tramgwydd perthnasol ar unrhyw adeg;

(dd)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn yr adeiladau yn cyflwyno unrhyw ddogfennau sydd yn eu cadwraeth neu feddiant mewn perthynas â dal, glanio, cludo, trawslwytho, gwerthu neu waredu unrhyw bysgod;

(e)er mwyn canfod a oes unrhyw berson yn yr adeiladau wedi cyflawni tramgwydd perthnasol, chwilio'r adeiladau am unrhyw ddogfen o'r fath a'i gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn yr adeiladau yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r chwilio;

(f)archwilio a chopïo unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir i'r swyddog neu y deuir o hyd iddi yn yr adeiladau;

(ff)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson priodol neu gyfrifol yn cyflwyno unrhyw ddogfen o'r fath sydd ar system gyfrifiadurol mewn ffurf weladwy a darllenadwy, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol ei chyflwyno mewn ffurf y gellir mynd â hi oddi yno; ac

(g)os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir neu y deuir o hyd iddi yn yr adeiladau er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn unrhyw achos yngln â'r tramgwydd.

(2Bydd darpariaethau paragraff (1) uchod yn gymwys, gyda'r newidiadau angenrheidiol, mewn perthynas ag unrhyw dir a ddefnyddir mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r gweithgareddau a ddisgrifir ym mharagraff (1) uchod, neu mewn perthynas ag unrhyw gerbyd y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig achos rhesymol dros gredu ei fod yn cael ei ddefnyddio i gludo pysgod neu gynhyrchion pysgodfeydd, yn yr un modd ag y maent yn gymwys i adeiladau, ac yn achos cerbyd maent yn cynnwys per i'w gwneud yn ofynnol ar unrhyw adeg bod y cerbyd yn stopio, ac, os oes angen, i gyfarwyddo'r cerbyd i ryw fan arall i hwyluso'r archwilio.

(3Os yw ynad heddwch, ar ôl derbyn datganiad ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni –

(a)bod yna sail resymol dros gredu bod unrhyw ddogfennau neu eitemau eraill y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig ber o dan yr Erthygl hon i'w harchwilio yn yr adeiladau a bod eu harchwilio yn debyg o ddatgelu tystiolaeth bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni; a

(b)naill ai–

(i)bod mynediad i'r adeiladau wedi'i wrthod neu'n debyg o gael ei wrthod a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roddi i'r meddiannydd; neu

(ii)y byddai gwneud cais am fynediad neu roi hysbysiad o'r fath yn rhwystro bwriad y mynediad, neu fod yr adeiladau yn wag, neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro, ac y gallai aros i'r meddiannydd ddychwelyd rwystro bwriad y mynediad ;

fe gaiff yr ynad lofnodi gwarant a fydd yn ddilys am fis i awdurdodi swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig i fynd i'r adeiladau, gan ddefnyddio grym rhesymol os oes ei angen, ac i fynd â'r personau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig i gipio pysgod ac offer pysgota

8.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys –

(a)yng Nghymru, a

(b)unrhyw gwch pysgota Prydeinig perth sydd perthnasol o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru; neu

(c)unrhyw gwch pysgota arall sydd o fewn yr ardal benodedig,

(2Pan fydd yr erthygl hon yn gymwys, gall unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig gipio–

(a)unrhyw bysgod (gan gynnwys unrhyw gynhwysydd sy'n dal y pysgod) y mae gan y swyddog sail resymol dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni mewn perthynas â hwy; a

(b)unrhyw rwyd neu offer pysgota arall y mae gan y swyddog sail resymol dros amau eu bod wedi'u defnyddio wrth gyflawni tramgwydd o'r fath.

Pwerau swyddogion eraill

9.  – Er mwyn gorfodi erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig a wnaed er mwyn gweithredu'r darpariaethau Cymunedol, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd i bwyllgor pysgodfeydd lleol, o fewn ardal y pwyllgor, fynd ar fwrdd unrhyw gwch pysgota Prydeinig neu fynd i unrhyw adeiladau (heblaw annedd) a ddefnyddir i redeg unrhyw fusnes mewn cysylltiad â thrin, storio neu werthu pysgod, caiff chwilio am unrhyw bysgod ac unrhyw rwyd neu offer pysgota arall mewn unrhyw le boed ar fwrdd cwch pysgota neu mewn man arall, a boed mewn cynhwysydd neu beidio a'u harchwilio, a chaiff gipio unrhyw bysgod, rhwyd neu offer pysgota arall y mae gan y swyddog sail resymol dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi ei gyflawni mewn perthynas â hwy.

Amddiffyn swyddogion

10.  Ni fydd swyddog na pherson sy'n ei gynorthwyo yn rhinwedd erthygl 6(2) neu 7(1)(b) o'r Gorchymyn hwn yn agored i unrhyw achosion sifil neu droseddol am unrhyw beth a wneir drwy arfer honedig o'r pwerau a roddir iddo neu iddi yn rhinwedd erthyglau 6 i 9 o'r Gorchymyn hwn os yw'r llys wedi'i fodloni fod y weithred wedi'i gwneud yn ddidwyll, bod sail resymol dros ei gwneud a'i bod wedi'i gwneud gyda medr a gofal rhesymol.

Rhwystro swyddogion

11.  Bydd unrhyw berson sydd–

(a)heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig o dan y pwerau a roddir i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig gan erthyglau 6, 7 neu 8 o'r Gorchymyn hwn;

(b)heb esgus rhesymol yn rhwystro, neu yn ceisio rhwystro, unrhyw berson arall rhag cydymffurfio â gofyniad o'r fath; neu

(c)yn ymosod ar swyddog sydd wrthi'n arfer unrhyw un o'r pwerau a roddir iddo neu iddi gan erthyglau 6 i 9 o'r Gorchymyn hwn neu sydd yn fwriadol yn rhwystro swyddog o'r fath wrth iddo arfer unrhyw un o'r pwerau hynny,

yn euog o dramgwydd ac yn agored–

(i)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na'r uchafswm statudol; neu

(ii)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

Darpariaethau ynglyn â thramgwyddau

12.—(1Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan gorff corfforedig wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad cyfarwyddydd, rheolydd, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall o'r corff corfforedig, neu berson sy'n honni gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforedig, yn euog o'r tramgwydd ac felly yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

(2Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan bartneriaeth wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd ac felly yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

(3Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig (ac eithrio partneriaeth) wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o swyddogion y gymdeithas neu unrhyw aelod o'i chorff llywodraethu neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran person o'r fath, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r gymdeithas, yn euog o'r tramgwydd ac felly yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

Achosion

13.—(1Caiff pwyllgor pysgodfeydd lleol yng Nghymru ddwyn achos mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd sy'n digwydd o fewn ardal y pwyllgor o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn.

(2At ddibenion paragraff (1) o'r erthygl hon, bernir bod ardal pwyllgor pysgodfeydd lleol yn ymestyn drwy'r cyfan o ardal unrhyw gyngor yng Nghymru sy'n atebol am dalu costau'r pwyllgor neu am gyfrannu at eu talu, ac eithrio na fydd y pwerau a roddir gan y paragraff hwnnw i unrhyw un o swyddogion pysgodfeydd pwyllgor pysgodfeydd lleol yn arferadwy mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n codi o fewn ffiniau unrhyw farchnad sydd o dan reolaeth cyngor unrhyw ardal.

Derbynioldeb coflyfrau a dogfennau eraill fel tystiolaeth

14.—(1Bydd unrhyw

(a)coflyfr a gedwir o dan Erthyglau 6, 17.2 neu 28c;

(b)datganiad a gyflwynir o dan Erthyglau 8.1, 11, 12, 17.2 neu 28f;

(c)adroddiad ymdrech a gwblheir o dan Erthyglau 19b a 19c;

(ch)dogfen a lunnir o dan Erthyglau 9 neu 13;

(d)dogfen sy'n cynnwys gwybodaeth a fynnwyd ac a dderbynnir gan ganolfan monitro pysgodfeydd a sefydlir o dan Erthygl 3.7, o Reoliad 2847/93, yn dystiolaeth o'r materion a ddatgenir ynddynt mewn unrhyw achos ynglyn â thramgwydd perthnasol.

(2At ddibenion paragraff (1) bydd “gwybodaeth a fynnwyd” (“required information”) yn golygu–

(a)manylion adnabod cwch pysgota;

(b)lleoliad daearyddol diweddaraf y cwch pysgota, wedi'i fynegi mewn graddau a munudau lledred a hydred; ac

(c)y dyddiad a'r amser pan sefydlwyd y safle hwnnw,

fel y'u cyflëir trwy system monitro cychod sy'n seiliedig ar loeren a sefydlwyd o dan erthygl 3.1 o Reoliad 2847/93.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Mawrth 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer gorfodi cyfyngiadau ynglyn â chadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy fesurau i adfer y stoc penfreision yn y rhan honno o Fôr Iwerddon (Rhaniad VIIa ICES) sydd o fewn y môr tiriogaethol sy'n gyfagos at Gymru. Cynhwysir y cyfyngiadau yn Erthygl 1, fel y'i darllenir gydag Erthyglau 1.2 ac 1.3 o Reoliad y Comisiwn (CE) Rhif 304/2000 (OJ Rhif L35, 10.2.2000, t.10 (“Rheoliad y Comisiwn”).

Yn ystod y cyfnod o 14 Chwefror 2000 i 30 Ebrill 2000, mae erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn yn gwahardd defnyddio mathau penodedig o rwydi ac offer pysgota o fewn ardal ddaearyddol benodedig o Fôr Iwerddon.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi gofyniad mewn perthynas â chyfansoddiad canrannol haldiadau o'r rhywogaeth darged a gymerir gan wahanol amrediadau o feintiau masgl, a gynhwysir yn Erthygl 4(4)(b) o Reoliad y Cyngor (CE) Rhif 850/98, ar gyfer cadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy gyfrwng mesurau technegol i warchod ieuenctid organeddau morol, fel y'i darllenir gydag Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn. Mae erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn yn anghymhwyso mesurau trosiannol ar gyfer 2000 a nodir yn nhroednodyn 6 i Atodiad I i Reoliad y Cyngor 850/98, a allai fel arall ganiatáu i nifer uchel o'r rhywogaeth darged gael eu cymryd fel sgil-haldiad ym Môr Iwerddon.

Mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn yn creu tramgwyddau mewn perthynas â thorri Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn neu Erthygl 4(4)(b) o Reoliad y Cyngor 850/98. Pennir cosbau, a all gynnwys fforffedu pysgod, rhwydi ac offer pysgota arall, ar gyfer tramgwyddau o'r fath (erthygl 4).

Mae'r Gorchymyn yn rhoddi pwerau gorfodi i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota ac ar y tir ac mewn perthynas â chipio pysgod ac offer pysgota (erthyglau 6, 7 ac 8), a hefyd i swyddogion eraill mewn perthynas â rhwydi ac offer pysgota (erthygl 9). Gwneir darpariaeth ar gyfer cosbi unrhyw un a geir yn euog o rwystro neu ymosod ar swyddog (erthygl 11).

Gwneir darpariaeth hefyd ar gyfer erlyn tramgwyddwyr ac ar gyfer achosion gan bwyllgorau pysgodfeydd lleol (erthygl 13). Yr uchafswm cosb statudol a bennir yn y Gorchymyn yw £5,000 ar hyn o bryd.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu pwerau ar gyfer casglu dirwyon a orfodir gan lys ynadon (erthygl 5).

Mae erthyglau 10, 12 a 14 yn cynnwys darpariaethau ategol.

(1)

1981 p.29. Gweler adran 30(3) i gael diffiniadau “cyfyngiad Cymunedol gorfodadwy” (“enforceable Community restriction”), “rhwymedigaeth Gymunedol orfodadwy” (“enforceable community obligation”) ac “y Gweinidogion” (“the Ministers”), fel y'u diwygiwyd gan Atodlen 2, paragraff 68(5) i Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820). Mae Erthygl 3(1) o Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Swyddogaethau Cyfamserol) 1999 (O.S. 1999/1592) ac Atodlen 1 iddo yn darparu i'r swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adran 30(2) o Ddeddf 1981 gael eu harfer gan y Gweinidogion, yn gyfamserol â Gweinidogion yr Alban, mewn perthynas â chychod pysgota Albanaidd o fewn ffiniau pysgodfeydd Prydain ond y tu allan i'r parth Albanaidd (am “y parth Albanaidd” gweler adran 126 o Ddeddf yr Alban 1998 (p.46) a Gorchymyn Ffiniau Dyfroedd Cyfagos at yr Alban 1999 (O.S. 1999/1126)).

(2)

Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwladol ynglŷn â physgota môr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon o dan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)

Pennir y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru yn unol â darpariaethau adran 1 o Ddeddf Môr Tiriogaethol 1987 (p.47) ac ag unrhyw ddarpariaethau a wneir, neu sydd ag effaith fel petaent wedi eu gwneud, o dan yr adran honno. Bydd y ffin rhwng y darnau hynny o'r môr yn Aberoedd Hafren a Dyfrdwy sydd i'w trin fel môr tiriogaethol cyfagos at Gymru, a'r darnau nad ydynt i'w trin felly, i'w phennu yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau)1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 3 iddo.

(6)

1996, p.38, diddymwyd adran 1 yn rhannol gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70), adran 272(1) ac Atodlen 30; a'i hamnewid yn rhannol gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p.51), adran 16 ac Atodlen 8. paragraff19.

(7)

OJ Rhif. L261, 20.10.93, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (CE) Rhif 2846/98 (OJ Rhif. L358, 31.12.98, t.5).

(8)

OJ Rhif L125, 27.4.98, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (CE) Rhif L328, 22.12.99, t.9).

(9)

OJ Rhif L.35, 10.02.2000, t.10

(10)

1980, p43. Troswyd yr uchafsymiau dirwyon yn adran 78 yn lefelau ar y raddfa safonol gan adrannau 37 a 46 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources