- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU
Wedi'u gwneud
30 Mawrth 2000
Yn dod i rym
3 Ebrill 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 3(3) a (4), 30, 31(5) a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996(1) ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru bellach i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 3 Ebrill 2000.
2. Mae'r diwygiadau a wnaed i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996(3) gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Lloegr) 2000(4) (ac eithrio Rheoliadau 7, 9, 10 a 22(5)) a chan Reoliad 2 o Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio Rhif 2) (Lloegr) 2000(5) i gael effaith yng Nghymru mewn perthynas â cheisiadau am grant a wneir ar 3 Ebrill 2000 neu wedi hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2000
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1966 (“y prif Reoliadau”) yn gosod y prawf moddion ar gyfer penderfynu swm y grant adnewyddu a'r grant cyfleusterau anabl y caiff awdurdodau tai lleol eu talu i geiswyr sy'n berchennog-feddianwyr a cheiswyr sy'n denantiaid o dan Bennod I o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Lloegr) 2000 a Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio Rhif 2) (Lleogr) 2000 yn gymwysadwy i Gymru. Mae'r Rheoliadau hynny yn gwneud diwygiadau i'r prif Reoliadau sy'n ganlyniad i'r newidiadau i Reoliadau Budd-dâl Tai (Cyffredinol) 1987 y seiliwyd y prawf moddion arnynt.
Mae'r Rhealiadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio Rhif 2) (Lloegr) 2000 hefyd yn diddymu rhai darpariaethau'r Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Lloegr) 2000.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1996/2890, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3119, 1997/977, 1998/808, 1999/1523 a 1999/3468.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: