- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
11.—(1) Bydd gan athro ysgol hawl i gwyno am ddatganiad gwerthuso o fewn ugain niwrnod gwaith ar ôl cael ei weld gyntaf.
(2) Os ceir cŵyn gan athro ysgol nad yw'n bennaeth, rhaid i'r pennaeth, neu os y pennaeth yw'r gwerthuswr, rhaid i'r corff gwerthuso benodi person sydd â gwybodaeth berthnasol neu brofiad perthnasol mewn addysg sydd heb gymryd rhan yn y gwerthusiad y cwynwyd amdano fel swyddog adolygu i gynnal adolygiad o'r gwerthusiad hwnnw.
(3) Os ceir cŵyn gan bennaeth ysgol a gynhelid gynt â grant, ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol arbennig gymunedol, bydd y corff gwerthuso'n penodi dau swyddog adolygu sydd heb gymryd rhan yn y gwerthusiad y cwynwyd amdano i gynnal adolygiad o'r gwerthusiad hwnnw.
(4) Os ceir cŵyn gan bennaeth ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig, bydd yr awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu yn ceisio cytuno ar benodi dau swyddog adolygu sydd heb gymryd rhan yn y gwerthusiad y cwynwyd amdano i gynnal adolygiad o'r gwerthusiad hwnnw. Yn niffyg cytundeb o'r fath, bydd yr awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu'n penodi un swyddog adolygu yr un.
(5) Bydd y swyddog adolygu'n cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a wneir gan yr athro ysgol.
(6) Caiff y swyddog adolygu —
(a)gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn sefyll gyda'i sylwadau ei hun neu hebddynt; neu
(b)diwygio'r datganiad gwerthuso gyda chytundeb y gwerthuswr; neu
(c)gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn cael ei ddileu a gorchymyn gwerthusiad newydd.
(7) Lle gorchmynir gwerthusiad newydd o dan baragraff 11(6)(c), penodir gwerthuswr newydd o dan Reoliad 8 a rhaid dilyn y weithdrefn werthuso o dan Reoliadau 9, 10 a 12.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: