- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5.—(1) Lle bo —
(a)y trefniadau derbyn cychwynnol wedi'u penderfynu gan awdurdod derbyn o dan reoliad 4(6), ond
(b)bod corff yr ymgynghorwyd ag ef gan yr awdurdod derbyn o dan reoliad 4(2) yn dymuno codi gwrthwynebiad ynglŷn â'r trefniadau hynny, ac
(c)nad yw'r gwrthwynebiad yn dod o dan unrhyw ddisgrifiad o wrthwynebiadau a ragnodir gan reoliad 2(2) o O.S. 1999/125,
caiff y corff hwnnw gyfeirio'r gwrthwynebiad at y Cynulliad.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) ni cheir cyfeirio gwrthwynebiad o dan baragraff (1) oni bai ei fod yn cael ei dderbyn gan y Cynulliad o fewn 6 wythnos ar ôl i'r awdurdod derbyn sy'n gwrthwynebu dderbyn yr hysbysiad angenrheidiol yn rhinwedd rheoliad 4(6)(b).
(3) Bernir bod gwrthwynebiad a dderbynnir ar ôl diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (2) wedi ei gyfeirio'n briodol os yw'r Cynulliad yn fodlon nad oedd yn rhesymol ymarferol i'r gwrthwynebiad gael ei dderbyn ynghynt na'r adeg y cafodd ei dderbyn.
(4) Ar ôl cael cyfeiriad o dan baragraff (1) bydd y Cynulliad yn penderfynu a ddylid cadarnhau'r gwrthwynebiad ac (os felly) i ba raddau, ond ni fydd dim yn y paragraff hwn yn ei gnweud yn ofynnol i'r Cynulliad gymryd camau o'r fath cyn bod y cynigion y mae'n ofynnol eu cyhoeddi o dan adran 28 (1) a (2) o Ddeddf 1998 wedi'u cymeradwyo yn unol â darpariaethau Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.
(5) Os bydd y Cynulliad yn penderfynu y dylid cadarnhau i unrhyw raddau wrthwynebiad y cyfeiriwyd ato o dan y rheoliad hwn, gall ei benderfyniad ar y gwrthwynebiad bennu'r addasiadau y dylid eu gwneud i'r trefniadau derbyn o dan sylw.
(6) Cyhoeddir penderfyniadau'r Cynulliad a'r rhesymau drostynt drwy roi gwybod yn ysgrifenedig i'r cyd-wrthwynebwyr ac i bob corff arall yr oedd yn ofynnol i'r awdurdod derbyn ymgynghori â hwy ynglŷn â'r trefniadau derbyn cychywnnol o dan reoliad 4(2).
(7) Bydd penderfyniad y Cynulliad ynglŷn â'r trefniadau derbyn cychwynnol o dan sylw yn rhwymo'r awdurdod derbyn a phob person y gall gwrthwynebiad ynglŷn â'r trefniadau hynny gael ei godi ganddynt o dan baragraff (1); ac os yw'r penderfyniad hwnnw yn benderfyniad i gadarnhau'r gwrthwynebiad i unrhyw raddau, diwygir y trefniadau hynny ar unwaith gan yr awdurdod derbyn yn y fath fodd ag i roi effaith i'r penderfyniad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: