Search Legislation

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 21/01/2021.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, RHAN 8. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 8LL+CF1...TALIADAU A PHENSIYNAU

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd ag addasiadau) (25.1.2016) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 25(3)(4), 46(1)

C2Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd gydag addasiadau) (21.1.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau.142(5), 143, 175(1)(f)(2)

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth AriannolLL+C

141Y PanelLL+C

(1)Bydd panel o bersonau o'r enw Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn parhau.

(2)Mae Atodlen 2 yn cael effaith mewn perthynas â'r Panel.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 141 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Prif swyddogaethau'r PanelLL+C

142Swyddogaethau sy'n ymwneud â thaliadau i aelodauLL+C

(1)Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 ac ar gyfer pob blwyddyn ariannol ddilynol, caiff y Panel benderfynu ar y materion perthnasol—

(a)y bydd yn ofynnol i awdurdod perthnasol wneud taliad i aelodau o'r awdurdod amdanynt;

(b)yr awdurdodir awdurdod perthnasol i wneud taliad i aelodau o'r awdurdod amdanynt.

(2)Dyma yw materion perthnasol—

(a)materion sy'n ymwneud â busnes swyddogol aelodau o awdurdodau perthnasol;

(b)cyfnodau o absenoldeb teuluol o dan Ran 2.

(3)Wedi iddo arfer y pŵer hwnnw, rhaid i'r Panel osod un o'r canlynol ar gyfer pob mater perthnasol—

(a)y swm y mae'n rhaid i awdurdod perthnasol ei dalu i aelod o'r awdurdod;

(b)yr uchafswm y caiff awdurdod perthnasol ei dalu i aelod o'r awdurdod.

(4)Ar ôl penderfynu'r materion perthnasol y ceir awdurdodi neu ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol wneud taliadau amdanynt o dan is-adran (1) a phennu'r swm neu'r uchafswm ar gyfer pob mater o dan is-adran (3), caiff y Panel benderfynu na chaniateir talu taliadau mewn cysylltiad â mater neu faterion penodol i fwy na chyfran benodedig [F2neu nifer penodedig] o'r aelodau o awdurdod.

(5)Ni chaiff y gyfran a bennir gan y Panel yn unol ag is-adran (4) fod yn fwy na hanner cant y cant oni fydd cydsyniad Gweinidogion Cymru wedi ei sicrhau.

[F3(5A)Ni chaiff y nifer a bennir gan y Panel yn unol ag is-adran (4), a fynegir fel cyfran o gyfanswm aelodau awdurdod, fod yn uwch na phum deg y cant oni chafwyd cydsyniad Gweinidogion Cymru.]

(6)Caiff y Panel osod—

(a)y ganran uchaf neu'r gyfradd uchaf arall y bydd gan awdurdod perthnasol hawl i'w defnyddio i addasu, ar gyfer blwyddyn ariannol, y symiau a oedd ag iddynt effaith ar gyfer y materion perthnasol yn y flwyddyn ariannol flaenorol;

(b)mynegrif y bydd gan awdurdod perthnasol hawl i'w ddefnyddio i addasu, ar gyfer blwyddyn ariannol, y symiau a oedd ag iddynt effaith ar gyfer y materion perthnasol hynny yn y flwyddyn ariannol flaenorol ag y bydd y Panel yn penderfynu.

(7)Caniateir arfer y pwerau o dan is-adran (6) er mwyn—

(a)gosod cyfradd a mynegrif mewn perthynas â'r un mater;

(b)gosod cyfraddau neu fynegrifau gwahanol mewn perthynas â materion gwahanol.

(8)Wrth osod swm o dan is-adran (3), gwneud penderfyniad o dan is-adran (4) neu osod cyfradd neu fynegrif o dan is-adran (6), rhaid i'r Panel ystyried beth yn ei farn ef fydd effaith ariannol debygol gwneud hynny ar awdurdodau perthnasol.

(9)Caiff y Panel wneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (1), gosod symiau gwahanol o dan is-adran (3), gwneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (4) neu osod cyfraddau neu fynegrifau gwahanol o dan is-adran (6) mewn perthynas ag awdurdodau o ddisgrifiadau gwahanol neu awdurdodau gwahanol o'r un disgrifiad.

(10)At ddibenion is-adran (2) mae mater yn ymwneud â busnes swyddogol aelod o awdurdod perthnasol os yw'n fater y mae aelod yn ymgymryd ag ef—

(a)fel aelod o awdurdod perthnasol, neu

(b)fel aelod o gorff y penodir yr aelod yn aelod ohono gan yr awdurdod perthnasol neu gan grŵp o gyrff sy'n cynnwys yr awdurdod perthnasol, neu yn sgil cael ei enwebu gan yr awdurdod perthnasol neu gan grŵp o gyrff sy'n cynnwys yr awdurdod perthnasol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 142 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I3A. 142 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(c)

I4A. 142 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(a)

143Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau aelodauLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag aelodau o awdurdodau perthnasol—

(a)nad ydynt yn aelodau cyfetholedig, a

(b)a chanddynt am y tro hawl i fod yn aelodau o gynllun pensiwn yn unol â rheoliadau o dan adran 7 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (cynlluniau pensiwn llywodraeth leol).

(2)Caiff y Panel benderfynu ar y disgrifiadau o aelodau y bydd yn ofynnol i awdurdod perthnasol dalu pensiwn (“pensiwn perthnasol”) iddynt neu mewn cysylltiad â hwy.

(3)Caiff y Panel benderfynu ar y materion perthnasol y bydd yn ofynnol i awdurdod perthnasol dalu pensiwn perthnasol mewn cysylltiad â hwy.

(4)Caiff y Panel wneud penderfyniadau gwahanol mewn perthynas ag awdurdodau o ddisgrifiadau gwahanol neu awdurdodau gwahanol o'r un disgrifiad.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C3A. 143(1)(b)(3) wedi ei eithrio (21.1.2021 at ddibenion penodedig, 1.4.2021 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(1)(f)(2)(7), Atod. 12 para. 1(7); O.S. 2021/297, ergl. 2(j)

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 143 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I6A. 143 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(d)

I7A. 143 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(a)

[F4143ASwyddogaethau sy’n ymwneud â chyflogau penaethiaid gwasanaethau cyflogedigLL+C

(1)Caiff y Panel wneud argymhellion i awdurdod perthnasol cymwys am—

(a)unrhyw bolisi yn natganiad yr awdurdod ar bolisïau tâl sy’n ymwneud â chyflog pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod;

(b)unrhyw newid arfaethedig i gyflog pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod.

(2)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys roi sylw i unrhyw argymhelliad a gaiff oddi wrth y Panel wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 38 neu 39 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20).

(3)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys, cyn iddo newid cyflog pennaeth ei wasanaeth cyflogedig mewn modd nad yw’n gymesur â newid i gyflogau staff arall yr awdurdod—

(a)ymgynghori â’r Panel am y newid arfaethedig, a

(b)rhoi sylw i unrhyw argymhelliad a gaiff oddi wrth y Panel wrth iddo benderfynu p’un ai i fynd rhagddo i wneud y newid ai peidio.

[F5(3A)Ond caiff awdurdod perthnasol cymwys sydd wedi ymgynghori â’r Panel ynghylch gostyngiad arfaethedig mewn cyflog wneud y gostyngiad cyn derbyn argymhelliad gan y Panel os nad yw’r contract y mae’r cyflog yn daladwy oddi tano yn atal yr awdurdod rhag newid y cyflog ar ôl derbyn argymhelliad.

(3B)Pan fo awdurdod perthnasol cymwys yn newid cyflog ei bennaeth gwasanaeth cyflogedig yn unol ag is-adran (3A) ac yn derbyn argymhelliad gan y Panel ynghylch y newid wedi hynny—

(a)rhaid iddo ailystyried y cyflog, a

(b)wrth wneud hynny, rhaid iddo roi sylw i’r argymhelliad.]

(4)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys roi unrhyw wybodaeth i’r Panel y mae’n rhesymol i’r Panel ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei rhoi iddo mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.

[F6(4A)Rhaid i’r Panel hysbysu Gweinidogion Cymru am bob argymhelliad y mae’n ei wneud o dan yr adran hon.]

(5)Caiff y Panel gyhoeddi unrhyw argymhellion y mae yn eu gwneud o dan yr adran hon.

[F7(5A)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys—

(a)hysbysu’r Panel a Gweinidogion Cymru am ei ymateb i argymhelliad a wnaed gan y Panel ynghylch newid i gyflog ei bennaeth gwasanaeth cyflogedig cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r awdurdod yn penderfynu ar yr ymateb, a

(b)peidio â newid y cyflog cyn—

(i)diwedd y cyfnod o wyth wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r awdurdod yn hysbysu Gweinidogion Cymru o dan baragraff (a), neu

(ii)os yw Gweinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, yn hysbysu’r awdurdod na fyddant yn rhoi cyfarwyddyd i’r awdurdod o dan is-adran (5B), y diwrnod y derbynnir yr hysbysiad hwnnw.

(5B)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod ymateb awdurdod perthnasol cymwys i argymhelliad a wnaed gan y Panel ynghylch newid i gyflog yn golygu y bydd yr awdurdod yn talu (neu, o dan is-adran (3A), ei fod yn talu) cyflog sy’n anghyson â’r argymhelliad, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cyfarwyddo’r awdurdod i ailystyried y cyflog, a

(b)pennu yn y cyfarwyddyd erbyn pryd y mae’n rhaid i’r awdurdod wneud hynny.]

(6)Rhaid i’r Panel roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.

(7)Yn yr adran hon—

  • ystyr “awdurdod perthnasol cymwys” (“qualifying relevant authority”) yw awdurdod perthnasol (yn ystyr y Rhan hon) y mae’n ofynnol iddo lunio datganiad ar bolisïau tâl;

  • mae “cyflog” (“salary”) yn cynnwys, yn achos pennaeth gwasanaeth cyflogedig y mae awdurdod perthnasol cymwys yn ei gymryd ymlaen o dan gontract am wasanaethau, daliadau gan yr awdurdod i bennaeth y gwasanaeth cyflogedig am y gwasanaethau hynny;

  • ystyr “datganiad ar bolisïau tâl” (“pay policy statement”) yw datganiad ar bolisïau tâl a lunnir gan awdurdod perthnasol (yn ystyr adran 43(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011) o dan adran 38 o’r Ddeddf honno;

  • ystyr “pennaeth gwasanaeth cyflogedig”(“head of paid service”) yw pennaeth gwasanaeth cyflogedig a ddynodir o dan adran 4(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.]

144Awdurdodau perthnasol, aelodau etc.LL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

(2)Mae awdurdod yn “awdurdod perthnasol” os daw o fewn un o'r disgrifiadau a ganlyn—

(a)awdurdod lleol;

(b)cyngor cymuned;

(c)awdurdod Parc Cenedlaethol (a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995) ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(d)awdurdod tân ac achub Cymreig, sef awdurdod yng Nghymru a sefydlwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo.

F8(da). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F9(e)corff a bennir yn awdurdod perthnasol mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.]

(3)Mae cyfeiriad at ddisgrifiad o awdurdod perthnasol i'w ddarllen gydag is-adran (2).

(4)Mae “aelod”, mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yn cynnwys—

(a)maer etholedig i'r awdurdod (o fewn ystyr 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000),

(b)aelod gweithrediaeth etholedig o'r awdurdod (o fewn ystyr adran 39(4) o'r Ddeddf honno), ac

(c)aelod cyfetholedig o'r awdurdod.

(5)Ystyr “aelod cyfetholedig”, mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw person nad yw'n aelod o'r awdurdod (ac eithrio yn rhinwedd is-adran (4)) ond—

(a)sy'n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod neu sy'n aelod o gyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor i'r awdurdod ac sy'n cynrychioli'r awdurdod ar y cyd-bwyllgor neu'r cyd-is-bwyllgor hwnnw, a

(b)a chanddo hawl i bleidleisio ar gwestiynau sydd i'w penderfynu yng nghyfarfodydd y pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw.

[F10(6)Ni chaniateir i gorff gael ei bennu yn awdurdod perthnasol oni bai—

(a)bod Gweinidogion Cymru yn arfer swyddogaethau mewn cysylltiad ag ef,

(b)ei fod yn arfer swyddogaethau perthnasol, ac

(c)bod ei aelodaeth yn cynnwys o leiaf un aelod o awdurdod a ddisgrifir yn is-adran (2)(a) i (d).

(7)“Swyddogaeth berthnasol” yw—

(a)swyddogaeth a roddir gan un o Ddeddfau neu Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu

(b)swyddogaeth y gellid ei rhoi gan un o Ddeddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(8)Nid yw adrannau 142(4), 143, 147(3)(b) a 155 yn gymwys mewn perthynas â’r awdurdod perthnasol a ddisgrifir yn is-adran (2)(e).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 144 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Adroddiadau gan y PanelLL+C

145Adroddiadau blynyddolLL+C

(1)Rhaid i'r Panel gyhoeddi adroddiad (“adroddiad blynyddol”) am arfer ei swyddogaethau mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol.

(2)Caiff adroddiad blynyddol osod gofynion (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, ofynion i wneud taliadau) ar awdurdodau perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 145 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I10A. 145 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(f)

I11A. 145 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(b)

146Yr adroddiad blynyddol cyntafLL+C

(1)Y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 yw'r flwyddyn ariannol gyntaf y mae'n rhaid i'r Panel gyhoeddi adroddiad blynyddol arni o dan adran 145.

(2)Rhaid cyhoeddi'r adroddiad ar y flwyddyn ariannol honno (“yr adroddiad blynyddol cyntaf”) heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2011.

(3)Rhaid i'r adroddiad blynyddol cyntaf nodi—

(a)y materion perthnasol,

(b)y symiau a osodwyd o dan adran 142(3),

(c)y gyfran a benderfynwyd o dan adran 142(4),

(d)yr aelodau o awdurdodau perthnasol y bydd yn ofynnol i awdurdodau perthnasol dalu pensiwn perthnasol iddynt neu mewn cysylltiad â hwy, a

(e)y materion perthnasol y mae pensiwn perthnasol yn daladwy mewn cysylltiad â hwy.

(4)Ar ôl cyhoeddi'r adroddiad blynyddol cyntaf ond cyn cyhoeddi'r ail adroddiad blynyddol, caiff y Panel gyhoeddi un neu ragor o adroddiadau atodol.

(5)Caiff adroddiad atodol o dan yr adran hon amrywio'r ddarpariaeth a wnaed yn yr adroddiad blynyddol cyntaf at ddibenion is-adran (3)(a), (b), (c), (d) neu (e).

(6)Wrth lunio adroddiad atodol o dan yr adran hon, rhaid i'r Panel ystyried—

(a)yr adroddiad ariannol cyntaf ac unrhyw adroddiadau atodol sy'n ymwneud ag ef, a

(b)y sylwadau a gafodd y Panel am yr adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a).

(7)Cyn cyhoeddi'r adroddiad blynyddol cyntaf neu adroddiad atodol o dan yr adran hon, rhaid i'r Panel—

(a)anfon drafft at

(i)Weinidogion Cymru,

(ii)yr awdurdodau perthnasol hynny y mae'r Panel wedi ei gwneud yn ofynnol iddynt neu wedi eu hawdurdodi i wneud taliadau i'w haelodau mewn cysylltiad â materion perthnasol, ac

(iii)unrhyw bersonau eraill y mae'r Panel o'r farn eu bod yn briodol,

a,

(b)ystyried y sylwadau y mae'n eu cael ar y drafft.

(8)Daw darpariaethau'r adroddiad blynyddol cyntaf neu adroddiad atodol o dan yr adran hon i rym ar y dyddiad a bennir at y diben hwnnw yn yr adroddiad; ond ni chaiff yr adroddiad bennu dyddiad cynharach na diwrnod olaf y cyfnod o dri mis yn dechrau drannoeth y dyddiad cyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 146 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

147Adroddiadau blynyddol dilynolLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag adroddiadau blynyddol ar ôl yr adroddiad blynyddol cyntaf.

(2)Rhaid cyhoeddi adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach nag—

(a)[F1128 Chwefror] yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn y mae'r adroddiad yn ymwneud â hi, neu

(b)unrhyw ddyddiad diweddarach y mae'r Panel a Gweinidogion Cymru yn cytuno arno.

(3)Rhaid i adroddiad blynyddol nodi—

(a)drwy gyfeirio at y swm sydd ag iddo effaith ar gyfer pob mater perthnasol, unrhyw gyfradd neu fynegrif fel y'i gosodir o dan adran 142(6), a

(b)y disgrifiadau o aelodau o awdurdodau perthnasol y bydd yn ofynnol i awdurdodau perthnasol dalu pensiwn perthnasol iddynt neu mewn cysylltiad â hwy.

(4)Caiff adroddiad blynyddol amrywio'r ddarpariaeth a wneir yn yr adroddiad blynyddol cyntaf at ddibenion adran 146(3)(a), (b), (c), (d) neu (e) [F12(gan gynnwys drwy bennu nifer o dan adran 142(4))] .

(5)Ar ôl cyhoeddi adroddiad blynyddol ond cyn cyhoeddi'r adroddiad blynyddol nesaf, caiff y Panel gyhoeddi un neu ragor o adroddiadau atodol.

(6)Caiff adroddiad atodol o dan yr adran hon—

(a)amrywio'r ddarpariaeth a wnaed yn yr adroddiad blynyddol y mae'r adroddiad atodol yn ymwneud ag ef at ddibenion is-adran (3)(a) neu (b) (a chaiff wneud darpariaeth at y dibenion hynny i'r graddau nad yw'r adroddiad blynyddol yn ei gwneud);

(b)amrywio'r ddarpariaeth a wnaed yn yr adroddiad blynyddol cyntaf at ddibenion adran 146(3)(a), (b), (c), (d) neu (e) (neu'r ddarpariaeth honno fel y'i hamrywiwyd yn rhinwedd is-adran (4)).

(7)Wrth lunio adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol o dan yr adran hon, rhaid i'r Panel ystyried—

(a)yr adroddiad blynyddol blaenorol ac unrhyw adroddiadau atodol sy'n ymwneud ag ef;

(b)y sylwadau a gafodd y Panel am yr adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a).

(8)Cyn cyhoeddi adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol o dan yr adran hon, rhaid i'r Panel—

(a)anfon drafft at

(i)Weinidogion Cymru,

(ii)yr awdurdodau perthnasol hynny y mae'r Panel wedi ei gwneud yn ofynnol iddynt neu wedi eu hawdurdodi i wneud taliadau i'w haeoldau mewn cysylltiad â materion perthnasol, ac

(iii)unrhyw bersonau eraill y mae'r Panel o'r farn ei bod yn briodol anfon drafft atynt,

a,

(b)ystyried y sylwadau y mae'r Panel yn eu cael ar y drafft.

[F13(9)Mae darpariaethau adroddiad blynyddol neu atodol o dan yr adran hon yn dod i rym ar y dyddiad a bennir at y diben hwnnw yn yr adroddiad.

(10)Pan fo is-adran (11) yn gymwys, caiff yr adroddiad bennu bod darpariaeth gymwys i gael ei thrin fel petai wedi dod i rym hyd at 3 mis yn gynharach na dyddiad cyhoeddi’r adroddiad.

(11)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo adroddiad atodol yn cynnwys darpariaeth gymwys.

(12)“Darpariaeth gymwys” yw darpariaeth sy’n gwneud amrywiad at ddibenion is-adran (3)(a), (b) neu (c) yn adran 146.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 147 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

148Ymgynghori ar adroddiadau drafftLL+C

(1)Rhaid i'r Panel beidio â chyhoeddi adroddiad blynyddol F14... cyn pen y cyfnod o wyth wythnos sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'n anfon drafft o'r adroddiad yn unol ag adran 146 neu 147.

[F15(1A)Rhaid i’r Panel beidio â chyhoeddi adroddiad atodol—

(a)cyn diwedd y cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’n anfon drafft o’r adroddiad yn unol ag adran 147, neu

(b)yn hwyrach na diwedd y cyfnod o wyth wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’n anfon drafft o’r adroddiad yn unol ag adran 147.]

(2)Rhaid i'r Panel, pan fydd yn anfon drafft o adroddiad yn unol â'r naill neu'r llall o'r adrannau hynny, osod copi electronig o'r drafft ar ei wefan.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 148 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I15A. 148 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(h)

I16A. 148 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(c)

149Cyfarwyddiadau i amrywio adroddiadau drafftLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r Panel i ailystyried darpariaeth yn yr adroddiad drafft.

(2)Rhaid i gyfarwyddyd o dan yr adran hon bennu—

(a)y ddarpariaeth,

(b)y rheswm dros roi'r cyfarwyddyd, ac

(c)y dyddiad erbyn pryd y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r Panel ymateb.

(3)O ran y Panel—

(a)rhaid iddo ymateb i'r cyfarwyddyd heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir at ddibenion is-adran (2)(c);

(b)ni chaiff gyhoeddi'r adroddiad cyn iddo fod wedi ymateb i'r cyfarwyddyd.

(4)Os yw'r Panel yn penderfynu peidio ag amrywio'r drafft yn unol â'r cyfarwyddyd, rhaid iddo bennu yn ei ymateb y rheswm dros ei benderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 149 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I18A. 149 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(i)

I19A. 149 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(d)

150Gofynion gweinyddol mewn adroddiadauLL+C

(1)Caiff adroddiad blynyddol osod gofynion ar awdurdodau perthnasol er mwyn osgoi—

(a)dyblygu taliadau a wneir mewn cysylltiad â materion perthnasol;

(b)dyblygu'n faterion perthnasol faterion sy'n ymwneud â busnes swyddogol aelodau.

(2)At ddibenion achos pan fo aelod o awdurdod perthnasol yn gwneud rhywbeth sy'n ymwneud ag awdurdod perthnasol arall (yn ogystal â'r awdurdod y mae'r aelod yn perthyn iddo), ac y mae'n rhaid gwneud taliad i'r aelod mewn cysylltiad â mater perthnasol, rhaid i adroddiad blynyddol ddangos sut i benderfynu p'un o'r awdurdodau fydd yn gorfod gwneud y taliad.

(3)Caiff adroddiad blynyddol osod gofynion ar awdurdodau perthnasol er mwyn cadw—

(a)cofnodion o geisiadau am daliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol;

(b)cofnodion o daliadau a wneir mewn cysylltiad â materion perthnasol;

(c)cofnodion o daliadau a wneir mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 150 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I21A. 150 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(j)

I22A. 150 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(e)

151Gofynion cyhoeddusrwydd mewn adroddiadauLL+C

(1)Caiff adroddiad blynyddol osod gofynion ar awdurdodau perthnasol ar gyfer gwneud trefniadau i gyhoeddi gwybodaeth o ddisgrifiad penodedig—

(a)ynghylch taliadau a wneir mewn cysylltiad â materion perthnasol;

(b)ynghylch taliadau a wneir mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol.

[F16(c)ynghylch taliadau eraill a wneir i aelodau awdurdodau perthnasol gan gyrff cyhoeddus eraill.]

(2)Caiff yr adroddiad ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau o ddisgrifiadau gwahanol neu i awdurdodau gwahanol o'r un disgrifiad wneud trefniadau gwahanol.

[F17(3)At ddibenion is-adran (1)(c), “corff cyhoeddus” yw—

(a)bwrdd iechyd lleol,

(b)panel heddlu a throsedd,

(c)awdurdod perthnasol,

(d)corff wedi ei ddynodi yn gorff cyhoeddus mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 151 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I24A. 151 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(k)

I25A. 151 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(f)

152Rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadauLL+C

(1)Os yw'r Panel yn cyhoeddi adroddiad, rhaid iddo hysbysu—

(a)unrhyw bersonau y mae o'r farn ei bod yn debygol y bydd yr adroddiad yn effeithio arnynt, a

(b)unrhyw ddarlledwyr ac unrhyw aelodau o'r wasg y mae o'r farn ei bod yn briodol eu hysbysu.

(2)Rhaid i'r Panel sicrhau bod ei adroddiadau ar gael mewn modd rhesymol i bersonau yn gyffredinol.

(3)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (1) a (2), caiff y Panel benderfynu sut i roi cyhoeddusrwydd i'w adroddiadau.

(4)Yn yr adran hon, mae “adroddiad” (ac eithrio mewn perthynas ag is-adran (1)(b)) yn cynnwys drafft o adroddiad; ac ystyr “cyhoeddi”, mewn perthynas â drafft, yw ei anfon at y personau y mae'n ofynnol anfon drafft atynt o dan 146 neu 147.

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 152 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I27A. 152 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(l)

I28A. 152 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(g)

Taliadau gan awdurdodau perthnasolLL+C

153Cydymffurfio â gofynion y PanelLL+C

(1)Rhaid i awdurdod perthnasol gydymffurfio â'r gofynion a osodir arno gan adroddiad blynyddol.

(2)Caiff y Panel fonitro gwneud taliadau gan awdurdodau perthnasol mewn cysylltiad â materion perthnasol; ac wrth wneud hynny, caiff y Panel ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol roi iddo unrhyw wybodaeth y mae'n ei phennu am—

(a)y materion sy'n faterion perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod;

(b)ceisiadau i'r awdurdod am daliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol;

(c)taliadau a wneir gan yr awdurdod mewn cysylltiad â materion perthnasol.

(3)Caiff y Panel fonitro gwneud taliadau gan awdurdodau perthnasol mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol; ac wrth wneud hynny, caiff y Panel ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol roi iddo unrhyw wybodaeth y mae'n ei phennu am—

(a)yr aelodau o'r awdurdod y mae'n ofynnol i'r awdurdod dalu pensiynau perthnasol iddynt neu mewn cysylltiad â hwy;

(b)taliadau a wneir gan yr awdurdod mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol.

(4)Rhaid i awdurdod perthnasol gydymffurfio â gofyniad a osodir arno o dan is-adran (2) neu (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 153 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

154Aelodau sy'n dymuno ymwrthod â'u hawl i gael taliadauLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw aelod o awdurdod perthnasol, drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r swyddog priodol i'r awdurdod, yn dewis ymwrthod (naill ai'n llwyr neu i'r graddau a bennir yn yr hysbysiad) â'r hawl i gael taliadau mewn cysylltiad ag unrhyw faterion perthnasol a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Nid yw'r gofyniad a osodir ar yr awdurdod gan adroddiad blynyddol i wneud taliadau mewn cysylltiad â'r materion perthnasol hynny a bennir yn yr hysbysiad yn gymwys yn achos yr aelod hwnnw (neu nid yw'n gymwys yn yr achos hwnnw i'r graddau a bennir yn yr hysbysiad); ac mae adran 153(1) i'w darllen yn unol â hynny.

(3)Mae i “swyddog priodol” yr ystyr a roddir i “proper officer” yn adran 270(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 154 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I31A. 154 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(m)

I32A. 154 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(h)

155Peidio â gwneud taliadauLL+C

(1)Ni chaniateir i awdurdod perthnasol wneud taliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol neu bensiwn perthnasol i berson sydd wedi ei atal neu wedi ei atal yn rhannol rhag bod yn aelod o'r awdurdod yn rhinwedd Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (ymddygiad aelodau llywodraeth leol etc.).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, mewn unrhyw achosion eraill y maent o'r farn eu bod yn briodol, gyfarwyddo awdurdod perthnasol i beidio â gwneud taliadau (gan gynnwys mewn cysylltiad â phensiynau) mewn cysylltiad ag unrhyw faterion perthnasol a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Panel.

(4)Gellir gorfodi cyfarwyddyd o dan is-adran (2) drwy orchymyn mynnu ar gais Gweinidogion Cymru.

(5)Caiff awdurdod perthnasol ei gwneud yn ofynnol i ad-dalu taliadau a wnaed mewn cysylltiad â materion perthnasol neu bensiwn perthnasol i berson mewn cysylltiad â chyfnod pryd nad oedd gan y person hwnnw hawl i gael y taliad am unrhyw reswm, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) unrhyw un o'r rhesymau canynol—

(a)gwnaed y taliadau yn groes i'r gwaharddiad yn is-adran (1);

(b)gwnaed y taliadau yn groes i'r gyfarwyddyd o dan is-adran (2);

(c)yr oedd y person wedi peidio â bod yn aelod o'r awdurdod.

Gwybodaeth Cychwyn

I33A. 155 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I34A. 155(1) mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(n)

I35A. 155(2)(3)(4) mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(n)

I36A. 155(2)(3)(4) mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(i)

I37A. 155(5) mewn grym ar 28.2.2014 gan O.S. 2014/453, ergl. 2(b)

GorfodiLL+C

156Cyfarwyddiadau i gydymffurfio â gofynionLL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod awdurdod perthnasol wedi methu â chydymffurfio â gofyniad sy'n ymwneud â materion perthnasol a osodir arno gan y Mesur hwn neu yn rhinwedd y Mesur hwn, cânt gyfarwyddo'r awdurdod i gydymffurfio â'r gofyniad.

(2)Rhaid i gyfarwyddyd o dan yr adran hon bennu—

(a)y gofyniad;

(b)y rheswm dros roi'r cyfarwyddyd;

(c)y camau y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod eu cymryd;

(d)y dyddiad erbyn pryd y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gymryd y camau.

(3)Gellir gorfodi cyfarwyddyd o dan yr adran hon drwy orchymyn mynnu ar gais Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I38A. 156 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I39A. 156 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(o)

I40A. 156 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(j)

AtodolLL+C

157CanllawiauLL+C

(1)Caiff y Panel roi cyfarwyddyd am sut i gydymffurfio â gofynion a osodir gan adroddiadau blynyddol.

(2)Mae pŵer y Panel i roi canllawiau o dan is-adran (1) yn cynnwys y pŵer i amrywio neu ddirymu'r canllawiau a roddwyd.

(3)Rhaid i awdurdod perthnasol roi sylw i ganllawiau a roddir o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I41A. 157 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I42A. 157 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(p)

I43A. 157 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(k)

158Y pŵer i wneud addasiadau i ddarpariaeth ynghylch y PanelLL+C

Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud addasiadau i'r Rhan hon er mwyn—

(a)ychwanegu, amrywio neu hepgor darpariaeth am aelodaeth y Panel, deiliadaeth ei aelodau, neu ei weithdrefnau;

(b)ychwanegu, amrywio neu hepgor darpariaeth sy'n rhoi neu'n gosod swyddogaeth ar y Panel.

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 158 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

159Dehongli Rhan 8LL+C

(1)Yn y Rhan hon—

  • mae i “adroddiad blynyddol” (“annual report”) yr ystyr a roddir yn adran 145;

  • mae i “aelod” (“member”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yr ystyr a roddir yn adran 144;

  • mae i “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yr ystyr a roddir yn adran 144;

  • mae i “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yr ystyr a roddir yn adran 144 (ac mae cyfeiriad at ddisgrifiad o awdurdod perthnasol i'w ddarllen yn unol â'r adran honno);

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;

  • mae i “mater perthnasol” (“relevant matter”) yr ystyr a roddir yn adran 142;

  • ystyr “y Panel” (“the Panel”) yw Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol;

  • mae i “pensiwn perthnasol” (“relevant pension”) yr ystyr a roddir yn adran 143.

(2)Mae'r cyfeiriadau yn adrannau 153, 154 a 157 at ofynion a osodir gan adroddiad blynyddol yn cynnwys cyfeiriad at ofynion sy'n cael eu cynnwys mewn adroddiad blynyddol gan adroddiad atodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I45A. 159 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(a)

160Diwygiadau canlyniadolLL+C

Mae Atodlen 3 (taliadau a phensiynau: mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I46A. 160 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Measure

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure as a PDF

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure without Schedules

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure without Schedules as a PDF

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Measure

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Measure without Schedules

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources