Search Legislation

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

RHAN 2ABSENOLDEB TEULUOL AR GYFER AELODAU AWDURDODAU LLEOL

23Yr hawl i absenoldeb teuluol

(1)Caiff aelod o awdurdod lleol a chanddo hawl i gyfnod o absenoldeb teuluol fod yn absennol o gyfarfodydd o'r awdurdod yn ystod y cyfnod hwnnw o absenoldeb teuluol.

(2)Os aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol yw'r aelod, caiff yr aelod fod yn absennol o gyfarfodydd o'r weithrediaeth yn ystod y cyfnod hwnnw o absenoldeb teuluol.

(3)Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i reoliadau o dan y Rhan hon.

(4)At ddibenion y Rhan hon, mae gan aelod hawl i gyfnod o absenoldeb teuluol os oes gan yr aelod hawl i gyfnod—

(a)o absenoldeb mamolaeth (gweler adran 24),

(b)o absenoldeb newydd-anedig (gweler adran 25),

(c)o absenoldeb mabwysiadydd (gweler adran 26),

(d)o absenoldeb mabwysiadu newydd (gweler adran 27), neu

(e)o absenoldeb rhiant (gweler adran 28).

24Absenoldeb mamolaeth

(1)Mae gan aelod o awdurdod lleol hawl i gyfnod o absenoldeb (“absenoldeb mamolaeth”) os yw'r aelod yn bodloni amodau rhagnodedig o ran mamolaeth.

(2)Mae'r cyfnod o absenoldeb mamolaeth y mae gan yr aelod hawl iddo i'w gyfrifo'n unol â rheoliadau.

(3)Ni chaniateir i'r rheoliadau ddarparu ar gyfer cyfnod o absenoldeb mamolaeth sy'n hwy na 26 o wythnosau.

(4)Rhaid i reoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer penderfynu pryd y caniateir cymryd absenoldeb mamolaeth.

(5)Caiff rheoliadau ganiatáu i aelod ddewis, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau rhagnodedig, y dyddiad pryd y bydd cyfnod o absenoldeb mamolaeth yn dechrau.

(6)Caiff rheoliadau ragnodi amgylchiadau pan gaiff yr aelod o awdurdod lleol, neu pan gaiff yr awdurdod lleol—

(a)terfynu cyfnod o absenoldeb mamolaeth, neu

(b)diddymu cyfnod o absenoldeb mamolaeth.

25Absenoldeb newydd-anedig

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i aelod o awdurdod lleol sy'n bodloni amodau rhagnodedig—

(a)o ran perthynas â phlentyn newydd-anedig neu blentyn a ddisgwylir, a

(b)o ran perthynas â mam y plentyn.

(2)Mae gan yr aelod hawl i gyfnod o absenoldeb (“absenoldeb newydd-anedig”) at ddibenion—

(a)gofalu am y plentyn, neu

(b)cynorthwyo'r fam.

(3)Rhaid i reoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer penderfynu—

(a)i ba raddau y mae gan aelod hawl i absenoldeb newydd-anedig mewn cysylltiad â phlentyn;

(b)pryd y caniateir cymryd absenoldeb newydd-anedig.

(4)Ni chaniateir i reoliadau ddarparu i gyfnod o absenoldeb newydd-anedig mewn cysylltiad â phlentyn fod yn hwy na dwy wythnos.

(5)Rhaid i reoliadau ei gwneud yn ofynnol i absenoldeb newydd-anedig gael ei gymryd cyn diwedd cyfnod rhagnodedig.

(6)Rhaid i'r cyfnod hwnnw fod yn gyfnod o 56 o ddiwrnodau o leiaf sy'n dechrau ar ddyddiad geni'r plentyn.

(7)Caiff rheoliadau ragnodi amgylchiadau pan gaiff aelod o awdurdod lleol, neu pan gaiff yr awdurdod lleol—

(a)terfynu cyfnod o absenoldeb newydd-anedig, neu

(b)diddymu cyfnod o absenoldeb newydd-anedig.

(8)Caiff rheoliadau—

(a)(at ddibenion is-adran (2)) ragnodi pethau sydd i'w barnu neu beidio a'u barnu yn bethau sydd wedi eu gwneud at ddibenion gofalu am blentyn neu gynorthwyo mam y plentyn;

(b)caniatáu i aelod ddewis, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau rhagnodedig, y dyddiad pryd y bydd cyfnod o absenoldeb newydd-anedig yn dechrau;

(c)gwneud darpariaeth sy'n eithrio hawl i absenoldeb newydd-anedig mewn cysylltiad â phlentyn pan fo mwy nag un plentyn yn cael ei eni o ganlyniad i'r un beichiogrwydd;

(d)gwneud darpariaeth ynghylch sut y ceir cymryd absenoldeb newydd-anedig.

(9)Pan fo mwy nag un plentyn yn cael ei eni o ganlyniad i'r un beichiogrwydd, mae'r cyfeiriad yn is-adran (6) at ddyddiad geni'r plentyn i'w ddarllen fel cyfeiriad at ddyddiad geni'r plentyn cyntaf a gaiff ei eni o ganlyniad i'r beichiogrwydd.

(10)Yn yr adran hon—

  • mae “plentyn newydd-anedig” (“newborn child”) yn cynnwys plentyn marw-anedig ar ôl 24 o wythnosau o feichiogrwydd;

  • ystyr “wythnos” (“week”) yw unrhyw gyfnod o saith niwrnod.

26Absenoldeb mabwysiadydd

(1)Mae gan aelod o awdurdod lleol hawl i gyfnod o absenoldeb (“absenoldeb mabwysiadydd”) os yw'r aelod yn bodloni amodau rhagnodedig o ran mabwysiadu plentyn.

(2)Rhaid i reoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer penderfynu—

(a)i ba raddau y mae gan aelod hawl i absenoldeb mabwysiadydd mewn cysylltiad â phlentyn;

(b)pryd y caniateir cymryd absenoldeb mabwysiadydd.

(3)Ni chaniateir i reoliadau ddarparu i gyfnod o absenoldeb mabwysiadydd mewn cysylltiad â phlentyn fod yn hwy na dwy wythnos.

(4)Caiff rheoliadau ganiatáu i aelod ddewis, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau rhagnodedig, y dyddiad pryd y bydd cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd yn dechrau.

(5)Caiff rheoliadau ragnodi amgylchiadau pan gaiff aelod o awdurdod lleol, neu pan gaiff yr awdurdod lleol—

(a)terfynu cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd, neu

(b)diddymu cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd.

27Absenoldeb mabwysiadu newydd

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i aelod o awdurdod lleol sy'n bodloni amodau rhagnodedig—

(a)o ran perthynas â phlentyn a gafodd ei leoli, neu y disgwylir iddo gael ei leoli, ar gyfer ei fabwysiadu o dan gyfraith unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, a

(b)o ran perthynas â pherson y lleolir y plentyn gydag ef, neu y disgwylir iddo gael ei leoli gydag ef, ar gyfer ei fabwysiadu.

(2)Mae gan yr aelod hawl i gyfnod o absenoldeb (“absenoldeb mabwysiadu newydd”) at ddibenion—

(a)gofalu am y plentyn, neu

(b)cynorthwyo'r person y mae'r aelod o'i herwydd yn bodloni'r amod o dan is-adran (1)(b).

(3)Rhaid i reoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer penderfynu—

(a)i ba raddau y mae gan aelod hawl i absenoldeb mabwysiadu newydd mewn cysylltiad â phlentyn;

(b)pryd y caniateir cymryd absenoldeb mabwysiadu newydd.

(4)Ni chaniateir i reoliadau ddarparu i gyfnod o absenoldeb mabwysiadu newydd mewn cysylltiad â phlentyn fod yn hwy na dwy wythnos.

(5)Rhaid i reoliadau ei gwneud yn ofynnol i absenoldeb mabwysiadu newydd gael ei gymryd cyn diwedd cyfnod rhagnodedig.

(6)Rhaid i'r cyfnod hwnnw fod yn gyfnod o 56 o ddiwrnodau o leiaf sy'n dechrau ar ddyddiad lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.

(7)Caiff rheoliadau ragnodi amgylchiadau pan gaiff aelod o awdurdod lleol, neu pan gaiff yr awdurdod lleol—

(a)terfynu cyfnod o absenoldeb mabwysiadu newydd, neu

(b)diddymu cyfnod o absenoldeb mabwysiadu newydd.

(8)Caiff rheoliadau—

(a)(at ddibenion is-adran (2)) ragnodi pethau sydd i'w barnu neu beidio a'u barnu yn bethau sydd wedi eu gwneud at ddibenion gofalu am blentyn neu gynorthwyo person y lleolir plentyn gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu;

(b)caniatáu i aelod ddewis, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau rhagnodedig, y dyddiad pryd y bydd cyfnod o absenoldeb mabwysiadu newydd yn dechrau;

(c)gwneud darpariaeth sy'n eithrio'r hawl i fod yn absennol o dan yr adran hon yn achos aelod sy'n arfer hawl i fod yn absennol oherwydd absenoldeb mabwysiadu;

(d)gwneud darpariaeth sy'n eithrio hawl i absenoldeb mabwysiadu newydd mewn cysylltiad â phlentyn pan leolir mwy nag un plentyn ar gyfer ei fabwysiadu fel rhan o'r un trefniant;

(e)gwneud darpariaeth ynghylch sut y ceir cymryd absenoldeb mabwysiadu newydd.

(9)Pan fo mwy nag un plentyn yn cael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu fel rhan o'r un trefniant, mae'r cyfeiriad yn is-adran (6) at y dyddiad y cafodd y plentyn ei leoli i'w ddarllen fel cyfeiriad at y dyddiad y cafodd y plentyn cyntaf ei leoli fel rhan o'r trefniant.

(10)Yn yr adran hon, ystyr “wythnos” yw unrhyw gyfnod o saith niwrnod.

(11)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod yr adran hon yn gymwys mewn perthynas ag achosion sy'n ymwneud â mabwysiadu, ond nid â lleoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu o dan gyfraith unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.

28Absenoldeb rhiant

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i aelod o awdurdod lleol sy'n bodloni amodau rhagnodedig o ran—

(a)ysgwyddo cyfrifoldeb am blentyn; neu

(b)disgwyl ysgwyddo cyfrifoldeb am blentyn.

(2)Mae gan yr aelod hawl i gyfnod o absenoldeb (“absenoldeb rhiant”) at ddibenion gofalu am y plentyn.

(3)Rhaid i reoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer penderfynu—

(a)i ba raddau y mae gan aelod hawl i absenoldeb rhiant mewn cysylltiad â phlentyn;

(b)pryd y caniateir cymryd yr absenoldeb rhiant.

(4)Ni chaniateir i reoliadau ddarparu i absenoldeb rhiant mewn cysylltiad â phlentyn fod yn hwy na chyfnod o dri mis neu gyfanswm o dri mis.

(5)Caiff darpariaeth o dan is-adran (3)(b) gyfeirio at y canlynol (ymhlith pethau eraill)—

(a)oedran plentyn, neu

(b)cyfnod rhagnodedig o amser sy'n dechrau gyda digwyddiad rhagnodedig.

(6)Caiff rheoliadau ragnodi amgylchiadau pan gaiff aelod o awdurdod lleol, neu pan gaiff yr awdurdod lleol—

(a)terfynu cyfnod o absenoldeb rhiant, neu

(b)diddymu cyfnod o absenoldeb rhiant.

(7)Caiff rheoliadau—

(a)(at ddibenion is-adran (2)), ragnodi pethau sydd i'w barnu neu beidio a'u barnu yn bethau sydd wedi eu gwneud, at ddibenion gofalu am blentyn;

(b)ei gwneud yn ofynnol bod absenoldeb rhiant yn cael ei gymryd fel un cyfnod o absenoldeb ym mhob achos neu mewn achosion penodedig;

(c)ei gwneud yn ofynnol bod absenoldeb rhiant yn cael ei gymryd fel cyfres o gyfnodau o absenoldeb ym mhob achos neu mewn achosion rhagnodedig;

(d)ei gwneud yn ofynnol bod yr holl gyfnod o absenoldeb rhiant neu rannau rhagnodedig ohono yn cael ei gymryd neu eu cymryd ar adegau rhagnodedig neu erbyn adegau rhagnodedig;

(e)caniatáu i aelod ddewis, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau rhagnodedig, y dyddiad y mae cyfnod o absenoldeb rhiant yn dechrau;

(f)gwneud darpariaeth i awdurdod lleol ohirio cyfnod o absenoldeb rhiant y mae aelod yn dymuno ei gymryd;

(g)rhagnodi cyfnod lleiaf o absenoldeb neu gyfnod mwyaf o absenoldeb y caniateir ei gymryd fel rhan o gyfnod absenoldeb rhiant;

(h)rhagnodi uchafswm agregiad y cyfnodau o absenoldeb rhiant y caniateir eu cymryd yn ystod cyfnod rhagnodedig o amser.

29Rheoliadau: atodol

Caiff rheoliadau o dan y Rhan hon—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch hysbysiadau sydd i'w rhoi, tystiolaeth sydd i'w dangos, cofnodion sydd i'w cadw a gweithdrefnau eraill sydd i'w dilyn gan aelod o awdurdod lleol neu gan awdurdod lleol;

(b)gwneud darpariaeth ar gyfer canlyniadau methu â rhoi hysbysiadau, dangos tystiolaeth, cadw cofnodion neu gydymffurfio â gofynion gweithdrefnol eraill;

(c)gwneud darpariaeth ar gyfer canlyniadau methu â gweithredu yn unol â hysbysiad a roddwyd yn rhinwedd paragraff (a);

(d)gwneud darpariaeth yn rhoi hawl i aelod o awdurdod lleol (neu o'r weithrediaeth) i gyflwyno cwyn ynghylch penderfyniad gan awdurdod lleol i derfynu cyfnod o absenoldeb neu i ohirio neu ddiddymu cyfnod o absenoldeb;

(e)gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â hawl a roddir yn rhinwedd paragraff (d) gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, ddarpariaeth ynghylch—

(i)ar ba sail y caniateir cyflwyno cwyn;

(ii)y person y caniateir cyflwyno cwyn iddo;

(iii)yr amodau gweithdrefnol i'w bodloni;

(iv)gwneud cwyn, penderfynu arni a'i heffaith;

(f)gwneud darpariaeth o ran aelod o awdurdod lleol (neu o'r weithrediaeth) ynghylch i ba raddau—

(i)y caiff weithredu fel aelod o'r awdurdod (neu o'r weithrediaeth) yn ystod cyfnod o absenoldeb;

(ii)y mae ganddo hawl i unrhyw fanteision sy'n dod iddo drwy aelodaeth o'r awdurdod (neu o'r weithrediaeth) yn ystod cyfnod o absenoldeb;

(iii)y mae'n rhwymedig o dan unrhyw ddyletswydd drwy aelodaeth o'r awdurdod (neu o'r weithrediaeth) yn ystod cyfnod o absenoldeb.

(g)cymhwyso deddfiad neu wneud addasiadau iddo.

30Canllawiau

Wrth iddo arfer ei swyddogaethau, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â hawliau aelodau o'r awdurdod o dan y Rhan hon.

31Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 1972

(1)Diwygir adran 85 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (gadael swydd oherwydd methiant i fynychu cyfarfodydd) fel a ganlyn.

(2)Ar ôl is-adran (3A) mewnosoder—

(3B)Subsections (3C) and (3D) apply for the purpose of calculating the period of six consecutive months under subsection (1) or (2A).

(3C)Any period during which a member of a local authority in Wales is exercising a right to absence under Part 2 of the Local Government (Wales) Measure 2011 is to be disregarded.

(3D)The following two periods are to be treated as consecutive—

(a)the period during which a member of a local authority in Wales fails to attend meetings of the authority or, as the case may be, meetings of the executive that falls immediately before the period described in subsection (3C), and

(b)the period that falls immediately after the period described in subsection (3C)..

32Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2000

(1)Diwygir adran 11 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (gweithrediaethau awdurdodau lleol) fel a ganlyn.

(2)Ar ôl is-adran (8) ychwanegwch—

(8A)For the purposes of subsection (8), no account is to be taken of a member appointed to the executive on a temporary basis to cover the absence of a member exercising a right to a family absence under Part 2 of the Local Government (Wales) Measure 2011..

33Dehongli Rhan 2

Yn y Rhan hon—

  • mae “aelod o awdurdod lleol” (“member of a local authority”) yn cynnwys maer etholedig (o fewn ystyr adran 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000) neu aelod gweithrediaeth etholedig (o fewn ystyr adran 39(4) o'r Ddeddf honno) o'r awdurdod;

  • ystyr “cyfarfod o'r awdurdod” (“meeting of the authority”) yw unrhyw un neu ragor o'r canlynol—

    (a)

    cyfarfod o'r awdurdod lleol;

    (b)

    cyfarfod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod;

    (c)

    cyfarfod o unrhyw gyd-bwyllgor, cyd-fwrdd neu gorff arall y mae swyddogaethau'r awdurdod ar y pryd yn cael eu cyflawni ganddo;

    (d)

    cyfarfod o unrhyw gorff a benodwyd i gynghori'r awdurdod ar unrhyw fater sy'n ymwneud â chyflawni swyddogaethau'r awdurdod;

    (e)

    cyfarfod o unrhyw gorff y mae'r awdurdod yn cael ei gynrychioli arno.

  • ystyr “cyfarfod o'r weithrediaeth” (“meeting of the executive”) yw unrhyw un neu ragor o'r canlynol—

    (a)

    cyfarfod o'r weithrediaeth;

    (b)

    cyfarfod o unrhyw bwyllgor i'r weithrediaeth;

    (c)

    cyflawni gan aelod sy'n gweithredu ar ei ben ei hun unrhyw swyddogaeth y mae gan y weithrediaeth gyfrifoldeb amdani;

  • ystyr “gweithrediaeth” (“executive”) yw unrhyw un o'r canlynol—

    (a)

    gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru);

    (b)

    gweithrediaeth maer a chabinet;

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Measure

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure as a PDF

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure without Schedules

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure without Schedules as a PDF

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Measure

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Measure without Schedules

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources