Adran 105 – Pŵer cyfarfod cymunedol i wneud cais am orchymyn yn grwpio ei gymuned ynghyd â chymunedau eraill o dan gyngor cymuned cyffredin
118.Mae'n cyflwyno adran 27E newydd yn Neddf 1972 i osod yr amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn y caiff cyfarfod cymunedol wneud cais i'r prif gyngor dros ei ardal am orchymyn yn grwpio ei gymuned ynghyd â chymunedau eraill o dan gyngor cymuned cyffredin. Yr un yn y bôn yw'r darpariaethau â'r darpariaethau i sefydlu cyngor cymuned o dan yr adran 27A newydd, gyda'r amod ychwanegol yn is-adran (7) sy'n ei gwneud yn ofynnol i geisiadau gael eu gwneud ar y cyd â'r cymunedau eraill sydd ynghlwm yn y grwpio arfaethedig.