Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Rhan 7 –Cymunedau a Chynghorau cymuned

96.Mae'r adrannau ym Mhenodau 1 a 2 o Ran 7 o'r Mesur yn adolygu'r trefniadau a nodir yn Neddf 1972 i alw a threfnu cyfarfodydd cymunedol a phleidleisio cymunedol yng Nghymru i'w gwneud yn fwy cynrychioliadol o'r farn leol.

Adran 88 – Cynnull cyfarfodydd cymunedol gan etholwyr llywodraeth leol

97.Mae adran 88 yn diwygio'r ddarpariaeth bresennol ym mharagraff 30 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 i gynnull cyfarfodydd cymunedol.

98.Mae is-adran (1) o'r adran newydd 88 yn ailddeddfu'r darpariaethau presennol ym mharagraff 30(1) o Atodlen 12 i'r graddau y maent yn caniatáu, mewn cymunedau a chanddynt gyngor cymuned, i gyfarfod cymunedol gael ei gynnull gan gadeirydd y cyngor neu gan ddau gynghorydd sy'n cynrychioli'r gymuned ar y cyngor.  Mae'r sbardunau hyn dros gynnull cyfarfod cymunedol heb eu newid. Effaith is-adrannau 1(b) - (e) yw, pan fo cyfarfodydd cymunedol yn cael eu cynnull yn y ffordd hon, bod y gofynion presennol i roi hysbysiad cyhoeddus yn cael eu hailgymhwyso. Yn unol â hynny, os mater cyffredinol yw busnes y cyfarfod cymunedol, rhaid rhoi hysbysiad o saith niwrnod o leiaf; os y mater gerbron yw bodolaeth cyngor cymunedol neu grwpio cymuned â chymunedau eraill (h.y. yn unol ag adrannau 27A-27L o Ddeddf 1972 fel y'u mewnosodir gan y Mesur) rhaid rhoi hysbysiad o ddeng niwrnod ar hugain o leiaf.

99.Ar ben hynny, mae'r diwygiad i baragraff 30(1) o Atodlen 12 yn dileu'r darpariaethau presennol sy'n caniatáu i gyfarfod cymunedol gael ei gynnull gan chwe etholwr llywodraeth leol (p'un a oes gan y gymuned o dan sylw gyngor cymuned ai peidio).  Mae is-adran (2) o'r adran 88 newydd yn cyflwyno trothwyon newydd, sef 10% o etholwyr llywodraeth leol y gymuned honno neu 50 o etholwyr, p'un bynnag o'r ddau sydd isaf.

Adran 89 – Hysbysiad am gyfarfod cymunedol a gafodd ei gynnull gan etholwyr llywodraeth leol

100.Mae’n mewnosod paragraff 30B newydd yn Atodlen 12 i Ddeddf 1972 sy'n rhoi'r wybodaeth y mae'n ofynnol i'w darparu i alluogi'r cyngor lleol perthnasol i benderfynu a gafodd cyfarfod cymunedol ei gynnull yn briodol pan fo cynullwyr y cyfarfod yn etholwyr llywodraeth leol.  Cyngor cymuned mewn cymunedau lle y mae cyngor cymuned yn bod a'r prif gyngor lle nad oes un yn bod yw'r cyngor lleol perthnasol y mae'n rhaid rhoi hysbysiad am gyfarfod cymunedol iddo.

101.Nodir yr wybodaeth y mae’n ofynnol i'w chynnwys mewn hysbysiad yn is-adrannau (2) - (7). Mae'r darpariaethau yn caniatáu i'r hysbysiad gael ei roi ar ffurf electronig i brif gyngor (ar yr amod ei fod yn bodloni'r gofynion technegol a osodir gan y prif gyngor o dan adran 90) ac i'r etholwyr sy'n cefnogi cynnull cyfarfod cymunedol i aros yn ddienw os cofrestrwyd hwy yn ddienw ar y gofrestr o etholwyr llywodraeth leol.

Mae adran 90 – Y cyfleuster ar gyfer darparu hysbysiadau electronig am gynnull cyfarfodydd cymunedol

102.Mae’n ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor roi cyfleusterau ar gael er mwyn dosbarthu hysbysiadau am gyfarfodydd cymunedol yn electronig. Ar ben hynny, mae'n ofynnol i'r cyngor osod y gofynion ar gyfer cynllun hysbysiadau electronig, fel dilysu llofnod electronig, a rhoi cyhoeddusrwydd priodol i’r gofynion hynny.

Adran 91 – Camau gweithredu ar ôl cael hysbysiad am gynnull gyfarfod cymunedol

103.Mae’n  ei gwneud yn ofynnol i'r cyngor sy'n cael yr hysbysiad y manylir arno yn adran 89  ystyried p'un a fodlonwyd y gofynion gosodedig a'r trothwy sbardun cychwynnol ai peidio. Os yw'r cyngor o'r farn iddynt gael eu bodloni, rhaid i'r cyngor rhoi hysbysiad cyhoeddus yn unol â'r adran newydd 92. Os yw'r cyngor o'r farn na fodlonwyd y gofynion, rhaid iddo roi hysbysiad i'r cynullwyr a datgan pam y mae o'r farn honno.

Adran 92 – Hysbysiad cyhoeddus am gyfarfod cymunedol

104.Mae'n ei gwneud yn ofynnol, cyn pen deng niwrnod ar hugain ar ôl penderfynu bod y gofynion i gynnull cyfarfod cymunedol wedi eu bodloni, i'r cyngor perthnasol roi hysbysiad cyhoeddus y cynhelir y cyfarfod cymunedol.

105.Os  mater cyffredinol yw busnes y cyfarfod cymunedol, rhaid rhoi hysbysiad o saith niwrnod o leiaf; os y mater gerbron yw bodolaeth cyngor cymunedol neu grwpio cymuned â chymunedau eraill (h.y. yn unol ag adrannau 27A-27L o Ddeddf 1972 fel y'u mewnosodir gan y Mesur), rhaid rhoi hysbysiad o ddeng niwrnod ar hugain o leiaf. Mae'r adran hefyd yn pennu manylion y mae'n ofynnol eu cynnwys yn yr hysbysiad a sut y dylid cyhoeddi'r hysbysiad.

Adran 93 – Galw am bleidleisio cymunedol

106.Mae'r adran hon yn rhoi yn lle paragraff 34(4) o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 ddarpariaeth sy'n codi'r trothwyon sy'n ofynnol er mwyn i gyfarfod cymunedol fynnu pleidleisio cymunedol. Mae'r trothwyon presennol yn ei gwneud yn ofynnol bod galw am bleidleisio yn cael ei gefnogi gan ddim llai na deg neu draean o'r etholwyr llywodraeth leol sy'n bresennol yn y cyfarfod cymunedol, p'un bynnag yw'r isaf. Yn eu lle, rhoddir mwyafrif o'r etholwyr llywodraeth leol sy'n bresennol, a'r mwyafrif hwnnw yn ffurfio 10% o'r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer y gymuned honno neu 150 o'r etholwyr, p'un bynnag yw'r lleiaf.

Adran 94 – Hysbysiad sydd i'w roi gan y swyddog canlyniadau ar ôl cymryd pleidlais o ganlyniad i gyfarfod cymunedol

107.Mae'n cyflwyno darpariaeth newydd sy'n gosod y weithdrefn hysbysu yn sgil pleidleisio cymunedol a sbardunwyd gan gyfarfod cymunedol a phan oedd mwyafrif o etholwyr oedd yn pleidleisio o blaid y cwestiwn a osodwyd. Nid oes rhaid cymhwyso'r gofynion hysbysu os oedd y pleidleisio ar gwestiwn o fath y byddai'n amhriodol i'r cyngor ymateb iddo a bod y math hwnnw wedi ei bennu mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru (yr is-baragraff 38A(2) newydd o Atodlen 12 i Ddeddf 1972).

Adran 95 – Penderfyniad swyddog monitro o ran y cyngor y mae'r pleidleisio'n ymwneud â'i swyddogaethau

108.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r swyddog monitro y rhoddwyd canlyniad y pleidleisio cymunedol iddo benderfynu, cyn pen 14 o ddiwrnodau ar ôl cael hysbysiad, y cyngor y mae cwestiwn y pleidleisio yn ymwneud â'i swyddogaethau. Yna, rhaid i'r swyddog monitro roi hysbysiad, fel y'i nodir yn y paragraff newydd, i'r cyngor perthnasol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Adran 96 – Ystyried canlyniad pleidleisio cymunedol gan gyngor cymuned

109.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyngor cymuned ystyried canlyniadau pleidleisio, yn dilyn hysbysiad o dan baragraff 38B newydd o Atodlen 12 i Ddeddf 1972, mewn cyfarfod o'r cyngor.

Adran 97 – Y camau gweithredu sydd i'w cymryd yn dilyn ystyriaeth gan gyngor cymuned o ganlyniadau pleidleisio cymunedol penodol

110.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r cyngor cymuned hysbysu cynullwyr y cyfarfod cymunedol a sbardunodd y pleidleisio am ba gamau gweithredu (os o gwbl) y mae'r cyngor yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i'r pleidleisio. Mae is-baragraff 1(a) o baragraff 29A newydd o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 yn ei gwneud yn glir nad oes disgwyliad cyfreithiol y bydd y cyngor cymuned yn cymryd unrhyw gamau gweithredu mewn ymateb i'r pleidleisio. Dim ond pan fo'r pleidleisio cymunedol wedi ei sbarduno mewn cyfarfod cymunedol o etholwyr llywodraeth leol y mae angen cymryd y camau gweithredu hyn.

Adran 98 – Prif gyngor yn ystyried canlyniad pleidleisio cymunedol

111.Mae'n cyflwyno adran 33B newydd i Ddeddf 1972 sy'n ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor, sydd wedi cael hysbysiad o dan baragraff 38B newydd, ystyried canlyniad y pleidleisio cymunedol a phenderfynu pa gamau gweithredu y bydd yn eu cymryd.  Mae'n ofynnol i'r cyngor, cyn pen dau fis ar ôl cael hysbysiad, gyflawni o leiaf un o'r camau gweithredu a nodir yn yr is-adran (4) newydd, ond caiff gyflawni mwy nag un.

Adran 99 – Prif gyngor yn egluro'i ymateb i bleidleisio cymunedol

112.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor roi hysbysiad, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, am y camau gweithredu y mae wedi eu cymryd, ac o bosibl yn bwriadu eu cymryd, mewn ymateb i bleidleisio cymunedol. Mae'r adran hon yn nodi bod pwy all gael hysbysiad o'r fath, a hynny i’w benderfynu yn ôl yr amgylchiadau.

Adran 100 – Diddymu darpariaethau presennol ynghylch sefydlu a diddymu cynghorau cymuned etc.

113.Mae'n diddymu'r darpariaethau presennol yn adrannau 28 i 29B o Ddeddf 1972 sy'n llywodraethu'r gweithdrefnau i sefydlu a diddymu cynghorau cymuned (gan gynnwys grwpiau o gymunedau), i wneud lle i’r darpariaethau newydd a nodir yn y Mesur hwn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried bod y darpariaethau presennol yn ddianghenraid o gymhleth a bod datblygiad cynghorau cymuned yn cael ei rwystro gan y trothwyon presennol sy'n gymwys i rai o'r gweithdrefnau i sefydlu neu ddiddymu cyngor cymuned. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru o'r farn bod y trothwyon presennol i sefydlu cyngor cymuned yn rhy uchel a bod y trothwyon ar gyfer diddymu cyngor cymuned yn rhy isel.

Adran 101 – Pŵer cyfarfod cymunedol i wneud cais am orchymyn i sefydlu cyngor cymuned

114.Mae'n cyflwyno adran 27A newydd yn Neddf 1972 i osod yr amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn y caiff cyfarfod cymunedol wneud cais i'r prif gyngor dros ei ardal am orchymyn i sefydlu cyngor cymuned ar gyfer yr ardal.  Mae'r is-adrannau (4) -(6) newydd yn ailddeddfu amodau sy'n gymwys o dan y darpariaethau presennol. Mae is-adrannau (2) a (3) newydd yn gostwng y trothwy ar gyfer cyfarfod cymuned sy'n pleidleisio i sefydlu cyngor cymunedol i'w gwneud yn ofynnol i 10% o etholwyr llywodraeth leol y gymuned neu 150 o'r etholwyr (p'un bynnag o'r ddau sydd isaf) fod yn bresennol ac yn pleidleisio yn y cyfarfod.  Y trothwy presennol yw 30% o etholwyr llywodraeth leol y gymuned neu 300 o'r etholwyr (p'un bynnag o'r ddau sydd isaf).

Adran 102 – Gorchmynion i sefydlu cynghorau cymuned ar wahân gyfer cymunedau

115.Mae'n cyflwyno adran 27B newydd yn Neddf 1972 i nodi'r camau gweithredu y mae'n rhaid i brif gyngor eu cymryd pan fydd yn cael cais oddi wrth gyfarfod cymunedol i sefydlu cyngor cymuned ar wahân i ardal y gymuned.

Adran 103 – Pŵer cyfarfod cymunedol i wneud cais am orchymyn i ddiddymu ei gyngor cymuned ar wahân

116.Mae'n cyflwyno adran 27C newydd yn Neddf 1972 i osod yr amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn y caiff cyfarfod cymunedol wneud cais i'r prif gyngor dros ei ardal am orchymyn i ddiddymu cyngor cymuned ar gyfer yr ardal sydd eisoes mewn bod.   Mae'r is-adrannau (2) - (5) newydd yn ailddeddfu amodau sy'n gymwys o dan y darpariaethau presennol. Mae’r trothwy ar gyfer cyfarfod cymunedol yn pleidleisio i ddiddymu cyngor cymuned yn aros yn 30% o etholwyr llywodraeth leol y gymuned neu’n 300 o'r etholwyr (p'un bynnag o'r ddau sydd isaf) yn bresennol yn ac yn pleidleisio yn y cyfarfod.  Mae is-adran (6) newydd yn cyflwyno trothwy newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol bod o leiaf ddau draean o'r rheini sy'n pleidleisio yn y pleidleisio cymunedol yn cefnogi'r cynnig i ddiddymu cyngor cymuned. Ar hyn o bryd, mae angen mwyafrif syml.

Adran 104 – Gorchmynion i ddiddymu cynghorau cymuned ar wahân ar gyfer cymunedau

117.Mae'n cyflwyno adran 27D newydd yn Neddf 1972 i nodi'r camau gweithredu y mae'n rhaid i brif gyngor eu cymryd pan fydd wedi cael cais oddi wrth gyfarfod cymunedol am orchymyn i ddiddymu cyngor cymuned ar wahân i ardal y gymuned.

Adran 105 – Pŵer cyfarfod cymunedol i wneud cais am orchymyn yn grwpio ei gymuned ynghyd â chymunedau eraill o dan gyngor cymuned cyffredin

118.Mae'n cyflwyno adran 27E newydd yn Neddf 1972 i osod yr amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn y caiff cyfarfod cymunedol wneud cais i'r prif gyngor dros ei ardal am orchymyn yn grwpio ei gymuned ynghyd â chymunedau eraill o dan gyngor cymuned cyffredin.  Yr un yn y bôn yw'r darpariaethau â'r darpariaethau i sefydlu cyngor cymuned o dan yr adran 27A newydd, gyda'r amod ychwanegol yn is-adran (7) sy'n ei gwneud yn ofynnol i geisiadau gael eu gwneud ar y cyd â'r cymunedau eraill sydd ynghlwm yn y grwpio arfaethedig.

Adran 106 – Gorchmynion yn grwpio cymuned ynghyd â chymunedau eraill o dan gyngor cymuned cyffredin

119.Mae'n cyflwyno adran 27F newydd yn Neddf 1972 i nodi'r camau gweithredu y mae'n rhaid i brif gyngor eu cymryd pan fydd wedi cael cais oddi wrth gyfarfod cymunedol am orchymyn i grwpio cyngor cymuned ynghyd â chymunedau eraill o dan gyngor cymuned cyffredin.

Adran 107 – Pŵer cyfarfod cymunedol i wneud cais am orchymyn yn ychwanegu ei gymuned at grŵp o gymunedau a chanddynt gyngor cyffredin

120.Mae'n cyflwyno adran 27G newydd yn Neddf 1972 i nodi’r amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn y caiff cyfarfod cymunedol wneud cais i'r prif gyngor dros ei ardal am orchymyn yn ychwanegu ei gymuned at grŵp o gymunedau o dan gyngor cymuned cyffredin.  Mae'r darpariaethau yn ei gwneud yn ofynnol i gael cydsyniad pob cymuned sydd ynghlwm yn y grwpio newydd arfaethedig gan gymhwyso'r un trothwyon ag a gyflwynir i sefydlu cyngor cymuned o dan yr is-adran 27A newydd.

Adran 108 – Gorchmynion yn ychwanegu cymuned at grŵp o gymunedau a chanddynt gyngor cyffredin

121.Mae'n cyflwyno adran 27H newydd yn Neddf 1972 i nodi'r camau gweithredu y mae'n rhaid i brif gyngor eu cymryd pan fydd wedi cael cais oddi wrth gyfarfod cymunedol am orchymyn i ychwanegu cymuned at grŵp o gymunedau a chanddynt gyngor cymuned cyffredin.

Adran 109 – Pŵer cyngor dros grŵp o gymunedau i wneud cais am orchymyn yn diddymu'r grŵp

122.Mae'n cyflwyno adran 27I newydd yn Neddf 1972 i nodi'r amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn y caiff cyngor dros grŵp o gymunedau wneud cais i'r prif gyngor dros ei ardal am orchymyn yn diddymu'r grŵp. Yr un yn y bôn yw'r darpariaethau â'r darpariaethau i ddiddymu cyngor cymuned ar wahân o dan yr adran 27C newydd, gyda'r gofyniad bod pob cymuned yn y grŵp yn ystyried ac yn pleidleisio ar y cynnig ar wahân.

Adran 110 – Gorchmynion yn diddymu grŵp o gymunedau

123.Mae'n cyflwyno adran 27J newydd yn Neddf 1972 i nodi'r camau gweithredu y mae'n rhaid i brif gyngor eu cymryd pan fydd wedi cael cais oddi wrth gyngor ar ran grŵp o gymunedau am orchymyn yn diddymu'r grŵp.

Adran 111 – Pŵer cyfarfod cymunedol i wneud cais am orchymyn yn gwahanu cymuned oddi wrth grŵp o gymunedau

124.Mae'n yn cyflwyno adran 27K newydd yn Neddf 1972 i nodi’r amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn y caiff cyfarfod cymunedol wneud cais i'r prif gyngor dros ei ardal am orchymyn yn gwahanu'r gymuned oddi wrth grŵp o gymunedau.  Yr un yn y bôn yw'r darpariaethau â'r darpariaethau i ddiddymu cyngor cymuned ar wahân o dan yr adran newydd 27C.

Adran 112 – Gorchmynion yn gwahanu cymunedau oddi wrth grŵp o gymunedau

125.Mae'n cyflwyno adran 27L newydd yn Neddf 1972 i nodi'r camau gweithredu y mae'n rhaid i brif gyngor eu cymryd pan fydd wedi cael cais oddi wrth gyfarfod cymunedol am orchymyn i wahanu'r gymuned oddi wrth grŵp o gymunedau sydd eisoes mewn bod.

Adran 113 – Pŵer Gweinidogion Cymru i newid trothwy pleidleisio mewn cysylltiad â threfniadaeth cynghorau cymuned

126.Mae'n cyflwyno adran 27M newydd yn Neddf 1972 i alluogi Gweinidogion Cymru drwy orchymyn i newid y trothwyon ar gyfer y gweithdrefnau sefydlu a diddymu amrywiol a gyflwynir gan y Mesur hwn a thrwy hynny eu galluogi i wneud newidiadau yng ngoleuni profiad cymhwyso'r trothwyon newydd.

Adran 114 – Trefniadaeth cymunedau a'u cynghorau: diwygiadau canlyniadol

127.Mae'n diwygio'r ddarpariaeth bresennol i adlewyrchu’r ffaith bod amryw o adrannau newydd wedi cael eu rhoi yn lle'r hen rai yn Neddf 1972 gan y darpariaethau newydd priodol yn y Rhan hon o'r Mesur.

Adran 115 – Darpariaeth drosiannol

128.Mae'n egluro na fydd y gweithdrefnau newydd a nodir ym Mhennod 2 o'r Mesur hwn yn gymwys os ymgymerwyd â gweithdrefnau presennol penodol, fel y'u nodir gan is-adrannau (a) a (b) o'r adran hon, cyn i ddarpariaethau yn y Bennod hon gael eu dwyn i rym.

Adran 116 – Gofyniad am hysbysiad cyhoeddus pan fo seddau gwag aelodau cynghorau cymuned i'w llenwi drwy gyfethol

129.Mae'n cyflwyno gofyniad, sef pan fo cyngor cymuned yn bwriadu llenwi swydd wag drwy gyfethol, rhaid i'r cyngor roi hysbysiad cyhoeddus o'r cyfle i gyfethol.  Arfer da cyffredin yw hysbysebu cyfleoedd i gyfethol yn agored, ond ar hyn o bryd nid oes rheidrwydd i wneud hynny.  Diben hyn yw osgoi'r canfyddiad mai 'siopau caeedig' yw cynghorau cymuned a bydd yn codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd i grwpiau sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli chwarae rhan amlycach ynddynt.  Rhoddir y gofynion hysbysiad cyhoeddus yn is-adran (5), sy'n cynnwys darpariaeth i Weinidogion Cymru osod gofynion eraill ar gyfer yr hysbysiad yng ngoleuni profiad.

Adran 117 – Canllawiau ynghylch rhoi hysbysiad cyhoeddus am gyfethol

130.Mae'n rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru i roi canllawiau ynghylch rhoi hysbysiad cyhoeddus am gyfethol a bydd rhaid i gynghorau cymuned a chynghorwyr roi sylw iddynt.

Adran 118 – Penodi cynrychiolwyr ieuenctid cymunedol gan gynghorau cymuned

131.Mae'n galluogi cyngor cymuned i benodi hyd at ddau gynrychiolydd ieuenctid cymunedol i'r cyngor cymuned.  Bydd y penodiadau yn rhoi llwyfan i lais pobl ifanc, yn annog cyfathrebu rhwng sectorau gwahanol o gymdeithas ac ennyn mwy o ddiddordeb ymhlith pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth a llywodraeth leol.

132.Mae’r meini prawf ar gyfer cynrychiolydd ieuenctid cymunedol wedi eu nodi yn is-adran (2).  Mae is-adran (3) yn galluogi'r cyngor cymuned i benderfynu telerau'r penodiad, gan gynnwys y rheini sy'n ymwneud â gadael y swydd yn wag.

Adran 119 – Gofynion hysbysu mewn cysylltiad â phenodi cynrychiolydd ieuenctid

133.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyngor cymuned, pan fo’n penodi cynrychiolydd ieuenctid, roi hysbysiad cyhoeddus yn gyntaf o'i fwriad i wneud hynny ac yn benodol i'r personau ac yn y dull a roddir yn is-adrannau (4-5). Mae gofynion yr hysbysiad cyhoeddus wedi eu nodi yn is-adran (6). Caiff Gweinidogion Cymru osod gofynion eraill ar yr hysbysiad yng ngoleuni profiad.

Adran 120 – Canllawiau ynghylch penodi cynrychiolwyr ieuenctid cymunedol

134.Mae'n rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau ynghylch penodi cynrychiolwyr ieuenctid cymunedol, a bydd rhaid i gynghorau cymuned roi sylw iddynt.

Adran 121 – Effaith penodi cynrychiolydd ieuenctid cymunedol

135.Ni fydd gan y cynrychiolwyr ieuenctid cymunedol unrhyw un o'r hawliau, breintiau na rhwymedigaethau statudol sydd gan gyngor cymuned ar hyn o bryd; ond mae'r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i ddarparu i gynrychiolydd ieuenctid cymunedol gael ei drin yn aelod o'r cyngor at ddibenion a bennir yn y rheoliadau.

Adran 122 – Adroddiadau am gyflawni swyddogaeth prif gyngor o gadw  ardaloedd cymunedol o dan adolygiad

136.Mae'n cyflwyno is-adrannau (2A) -(2D) yn adran 55 o Ddeddf 1972 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor gyhoeddi adroddiad bob 15 mlynedd (a'i anfon i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru – “Comisiwn Cymru”) yn nodi sut y mae wedi cyflawni'r swyddogaeth sydd ganddo ar hyn o bryd o gadw ardaloedd cymunedol o dan adolygiad. Nid oes gan y ddeddfwriaeth bresennol amserlen o'r fath i gyhoeddi adroddiadau ac mae rhai cynghorau heb gyhoeddi adroddiadau.

Adran 123 – Adroddiadau am gyflawni swyddogaeth prif gyngor o gadw trefniadau etholiadol ar gyfer cymunedau o dan adolygiad

137.Mae'n cyflwyno is-adrannau newydd (4A)-(4D) yn adran 57 o Ddeddf 1972 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor gyhoeddi adroddiad bob 15 mlynedd (a'i anfon i Gomisiwn Cymru) yn nodi sut y mae wedi cyflawni'r swyddogaeth sydd ganddo ar hyn o bryd o gadw trefniadau etholiadol ar gyfer ardaloedd cymunedol o dan adolygiad. Nid oes gan y ddeddfwriaeth bresennol amserlen o'r fath i gyhoeddi adroddiadau ac mae rhai cynghorau heb gyhoeddi adroddiadau.

Adran 124 – Arfer swyddogaethau gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru ar ran prif gynghorau

138.Mae'n cyflwyno adran 57A newydd yn Neddf 1972 i alluogi Comisiwn Cymru a phrif gyngor i gytuno ar drefniadau sy'n caniatáu i Gomisiwn Cymru arfer swyddogaethau'r prif gyngor o adolygu ardaloedd cymunedol neu drefniadau etholiadol ar gyfer cymunedau ac ystyried ceisiadau a geir oddi wrth gyfarfodydd cymunedol a chynghorau yn y cyswllt hwn.

139.Mae'r ddeddfwriaeth bresennol yn galluogi Comisiwn Cymru i ymgymryd â'r swyddogaethau hynny ar hyn o bryd, ond rhaid i Gomisiwn Cymru gael ei gyfarwyddo gan Weinidogion Cymru i wneud hynny yn gyntaf. Ar hyn o bryd cyfrifoldeb Comisiwn Cymru yw talu am gynnal adolygiadau am nad yw'r ddeddfwriaeth bresennol yn caniatáu iddo godi unrhyw ffi ar y prif gyngor o dan sylw. Mae'r ddarpariaeth newydd yn lleihau'r angen am gyfarwyddyd oddi wrth Weinidogion Cymru pan fo prif gyngor a Chomisiwn Cymru wedi dod i gytundeb am y trefniadau ar gyfer yr adolygiad.

Adran 125 – Y symiau sy'n daladwy mewn cysylltiad ag adolygiadau a gynhaliwyd gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru

140.Mae'n cyflwyno is-adrannau (4A) - (4C) newydd yn adran 56 o Ddeddf 1972 ar gyfer amgylchiadau pan fo Gweinidogion Cymru wedi gorfod cyfarwyddo Comisiwn Cymru i ymgymryd ag adolygiad ar ran prif gyngor (efallai am fod Comisiwn Cymru a'r cyngor wedi methu â dod i gytundeb am y trefniadau ar gyfer yr adolygiad). Caiff y cyfarwyddyd gynnwys gofyniad ar i'r prif gyngor o dan sylw dalu i Gomisiwn Cymru swm a bennwyd neu swm sydd i'w gyfrifo.

Adran 126 – Pwerau cynghorau cymuned i hybu llesiant

141.Mae'n diwygio adran 1(b) o Ddeddf 2000 i gynnwys cynghorau cymuned yn y rhestr o awdurdodau lleol y rhoddir pŵer llesiant iddynt gan adran 2(1) o'r Ddeddf honno.

142.Mae Rhan 1 o Ddeddf 2000 yn darparu pŵer i awdurdodau lleol wneud unrhyw beth sydd yn eu barn hwy yn debygol o sicrhau bod llesiant economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol eu hardal yn cael ei hybu neu ei wella. O ran Cymru, dim ond i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol y mae’r pŵer hwn wedi ei roi ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth y Cynulliad o'r farn y bydd estyn y pŵer llesiant i gynghorau cymuned yn amlhau'r cyfleoedd iddynt ddatblygu eu rôl mewn hybu a gwella llesiant eu hardaloedd.

Adran 127 – Addasiadau i ddeddfiadau'n atal neu'n rhwystro cyngor cymuned rhag arfer ei bwerau llesiant

143.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, i wneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad sydd yn eu barn hwy yn atal neu'n rhwystro cynghorau cymuned rhag arfer eu pŵer o dan adran 2(1) o Ddeddf 2000.

Adran 128 – Darpariaeth drosiannol

144.Mae'r ddarpariaeth drosiannol hon i ddelio â sefyllfa pan na fo strategaeth gymunedol yn unol ag adran 39(4) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 wedi ei chyhoeddi eto.

Adran 129 – Pŵer Gweinidogion Cymru i dalu grantiau i gynghorau cymuned

145.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i dalu grantiau i gynghorau cymuned. Mae'n bosibl y bydd rôl ddatblygol cynghorau cymuned yn gosod gofynion newydd ar eu cyllid ond nid yw'r ddeddfwriaeth bresennol yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud taliadau grant i gynghorau cymuned at unrhyw ddiben.

Section 130 - Power to set out model charter agreement

146.Mae’n  galluogi Gweinidogion Cymru i osod cytundeb siarter enghreifftiol mewn gorchymyn. Mae Llywodraeth y Cynulliad eisoes yn annog trefniadau cydlafurio rhwng prif gynghorau a chynghorau cymuned, gan amlaf wedi eu gosod mewn “siarter” y cytunwyd arni, y byddai dwy haen llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd drwy'r siarter mewn dull cilyddol o gefnogi a chydweithredu er budd eu cymunedau. Mae Gweinidogion Cymru o'r farn, yn y lle cyntaf, bod datblygu a mabwysiadu trefniadau / siarteri cydlafurio yn cael eu cyflawni orau ar sail wirfoddol ar lefel leol. Er hynny, ar hyn o bryd nid oes unrhyw bŵer ar gael i Lywodraeth y Cynulliad i'w gwneud yn ofynnol i gynghorau amharod ddod at ei gilydd, mynd i'r afael â materion a chytuno ar siarter er budd eu hardaloedd.

Adran 131 – Cyfarwyddiadau sy'n gwneud mabwysiadu cytundebau siarter enghreifftiol yn ofynnol

147.Mae’n galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi cyfarwyddiadau sy'n gwneud mabwysiadu cytundebau siarter enghreifftiol yn ofynnol.

Adran 132 – Canllawiau ynghylch cytundebau siarter enghreifftiol

148.Mae'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau ynghylch cytundebau siarter, y mae'n rhaid i brif gynghorau a chynghorau cymuned sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd Gweinidogion Cymru roi sylw iddynt.

Adran 133 – Ymgynghori

149.Mae’n  ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru i ymgynghori â'r cyrff, y personau neu sefydliadau llywodraeth leol a bennir cyn gwneud gorchymyn neu ddyroddi cyfarwyddyd ynghylch cytundebau siarter enghreifftiol.

Adran 134 – Cynlluniau ar gyfer achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol

150.Mae'n  galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer achredu cynllun ansawdd ar gyfer cynghorau cymuned.

151.Ar hyn o bryd nid oes cynllun ansawdd ag achrediad cenedlaethol i asesu cymhwysedd cynghorau cymuned yng Nghymru. Mae Gweinidogion Cymru o'r farn bod  gwerth mewn datblygu cynllun o'r fath i helpu i godi safonau llywodraeth leol gan gynghorau cymuned.

152.Bwriad Gweinidogion Cymru yw, yn y lle cyntaf, datblygu cynllun ansawdd ag achrediad cenedlaethol yng Nghymru a'i weithredu ar sail anstatudol. Er hynny, mae Gweinidogion Cymru o'r farn y byddai'n fanteisiol cael pŵer “wrth gefn” i gyflwyno cynllun achredu statudol ar ryw adeg yn y dyfodol pe bai hyn yn cael ei ystyried yn briodol. Mae'r adran hon yn darparu'r pŵer hwn.

Adran 135 – Achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: meini prawfAdran 136 – Achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: ceisiadauAdran 137 – Achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: ffioeddAdran 138 – Achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: tynnu achrediad yn ôlAdran 139 – Ceisiadau am achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: dirprwyo swyddogaethauAdran 140 – Achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: canlyniadau

153.Mae'r darpariaethau hyn yn ategu adran 134. Os bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau ar gyfer cynllun achredu, o ran y rheoliadau:

  • rhaid iddynt osod meini prawf i'w bodloni wrth wneud cais am achrediad. Gallai'r rhain ymwneud â'r materion a restrir yn adran 135(2), ond heb fod yn gyfyngedig iddynt;

  • rhaid iddynt osod y gofynion ar gyfer cais dilys am achrediad (adran 136);

  • caniateir iddynt osod ffioedd ar gyfer cais am achrediad (adran 137);

  • rhaid iddynt osod y seiliau dros dynnu'n ôl statws achrediad a gafodd ei ddyfarnu a thros adolygu'r statws achrediad a gafodd ei ddyfarnu (adran 138).

154.Byddai adran 139 yn caniatáu i Weinidogion Cymru drefnu i berson arall (nad oes raid iddo fod yn awdurdod cyhoeddus) weithredu'r cynllun achredu.

155.Mae adran 140 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i dynnu rhwystrau statudol oddi wrth gynghorau cymuned a achredwyd neu i’w newid (er enghraifft, oherwydd eu bod wedi cyflawni safon benodol mewn perfformiad) ac i osod rhwystrau yn ffordd cynghorau cymuned nas achredwyd (er enghraifft, oherwydd nad ydynt yn gallu dangos eu bod wedi cyflawni safon benodol).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources