Adran 155 – Peidio â gwneud taliadau
176.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod beidio â gwneud taliadau i bersonau sydd wedi eu hatal (neu wedi eu hatal yn rhannol) rhag bod yn gynghorwyr yn rhinwedd Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 o ganlyniad i ddyfarniad gan bwyllgor safonau lleol neu gan dribiwnlys achosion neu dribiwnlys achosion interim ynghylch a oedd y cynghorydd wedi cydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod lleol.
177.177. Mae is-adran (2) yn rhoi pŵer hefyd i Weinidogion Cymru ddyroddi cyfarwyddiadau, yn dilyn ymgynghoriad â'r PAGA, i awdurdod yn ei gwneud yn ofynnol iddo beidio â gwneud taliadau fel a benderfynir gan Weinidogion Cymru, i aelod o awdurdod am resymau a bennir yn y cyfarwyddyd. Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais i'r Llys am orchymyn i orfodi'r cyfarwyddyd.
178.Mae is-adran (5) yn caniatáu i awdurdodau lleol adennill taliadau a wnaed drwy gamgymeriad i aelodau o’u hawdurdod a oedd wedi eu hatal neu wedi eu hatal yn rhannol yn rhinwedd rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, a oedd yn destun cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru neu a oedd wedi peidio bod yn aelod o’r awdurdod.