Search Legislation

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, RHAN 7. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 7LL+CTRIBIWNLYS Y GYMRAEG

Y TribiwnlysLL+C

120Tribiwnlys y GymraegLL+C

(1)Bydd yna Dribiwnlys y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel y “Tribiwnlys”).

(2)Yr aelodau canlynol fydd aelodau'r Tribiwnlys—

(a)Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel y “Llywydd”);

(b)aelodau wedi ymgymhwyso yn y gyfraith; ac

(c)aelodau lleyg.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru benodi aelodau'r Tribiwnlys.

(4)Mae Atodlen 11 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch y Tribiwnlys.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 120 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 120(1) mewn grym ar 30.4.2015 gan O.S. 2015/1217, ergl. 2

I3A. 120(2)(3) mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(a)(b)

I4A. 120(4) mewn grym ar 1.4.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/969, ergl. 2(l)

I5A. 120(4) mewn grym ar 7.1.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(c)

121Cyfansoddiad ar gyfer achosion gerbron y TribiwnlysLL+C

(1)Rhaid i'r Llywydd ddewis yr aelodau o'r Tribiwnlys sydd i ymdrin ag achosion penodol gerbron y Tribiwnlys.

(2)Rhaid i'r Llywydd ddewis tri aelod o'r Tribiwnlys i ymdrin â'r achosion.

(3)Rhaid i'r Llywydd sicrhau bod—

(a)o leiaf un o'r tri aelod yn aelod cyfreithiol, a

(b)o leiaf un o'r tri aelod yn aelod lleyg.

(4)Os dim ond un o'r tri aelod sy'n aelod cyfreithiol, yr aelod cyfreithiol hwnnw sydd i gadeirio'r achos.

(5)Os oes mwy nag un o'r tri aelod yn aelodau cyfreithiol, mae'r Llywydd i ddewis yr aelod cyfreithiol sydd i gadeirio'r achos.

(6)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.

(7)Yn yr adran hon ystyr “aelod cyfreithiol” yw—

(a)y Llywydd, neu

(b)aelod o'r Tribiwnlys sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 121 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I7A. 121 mewn grym ar 30.4.2015 gan O.S. 2015/1217, ergl. 2

122Gwrandawiadau cyhoeddusLL+C

(1)Mae achosion gerbron y Tribiwnlys i'w cynnal yn gyhoeddus.

(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 122 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I9A. 122 mewn grym ar 30.4.2015 gan O.S. 2015/1217, ergl. 2

Ymarferiad a threfniadaeth etcLL+C

123Rheolau Tribiwnlys y GymraegLL+C

(1)Rhaid i'r Llywydd wneud rheolau sy'n llywodraethu'r ymarferiad a'r drefniadaeth sydd i'w dilyn yn y Tribiwnlys.

(2)Mae'r rheolau i'w galw'n “Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg” (ond cyfeirir atynt yn y Mesur hwn fel “Rheolau'r Tribiwnlys”).

(3)Rhaid i Reolau'r Tribiwnlys gynnwys y canlynol—

(a)darpariaeth ynghylch dewis o dan adran 121(2) y tri aelod o'r Tribiwnlys i ymdrin ag achosion;

(b)darpariaeth ynghylch dewis o dan adran 121(5) yr aelod cyfreithiol i gadeirio achosion;

(c)darpariaeth ynghylch gwrthdrawiadau buddiant sy'n codi—

(i)mewn perthynas â chyfranogiad aelodau o'r Tribiwnlys yn y gwaith o ddyfarnu achos, neu

(ii)mewn perthynas ag arfer swyddogaethau'r Llywydd o dan adran 121.

(4)Caiff Rheolau'r Tribiwnlys, ymysg pethau eraill, gynnwys darpariaeth ynghylch y materion a ganlyn—

(a)arfer gan y Llywydd, neu gan yr aelod sy'n cadeirio unrhyw achosion, unrhyw swyddogaethau sy'n ymwneud â materion sy'n rhagarweiniol i'r achos neu'n gysylltiedig â'r achos;

(b)cynnal achosion yn absenoldeb unrhyw aelod ac eithrio'r aelod sy'n eu cadeirio;

(c)dadlennu neu archwilio dogfennau, a'r hawl i fanylion pellach y gallai llys sirol ei rhoi;

(d)dyfarnu achosion heb wrandawiad mewn amgylchiadau a ragnodir yn Rheolau'r Tribiwnlys;

(e)achosion gwacsaw neu flinderus;

(f)caniatáu costau (gan gynnwys costau cosbedigol, ond heb eu cyfyngu i hynny) neu dreuliau;

(g)asesu'r costau neu'r treuliau hynny neu eu setlo fel arall (ac, yn benodol, ar gyfer galluogi asesu'r costau hynny yn y llys sirol);

(h)cyhoeddi adroddiadau ynghylch penderfyniadau'r Tribiwnlys;

(i)pwerau'r Tribiwnlys i adolygu ei benderfyniadau, neu i ddirymu neu amrywio ei orchmynion, yn yr amgylchiadau a gaiff eu pennu'n unol â Rheolau'r Tribiwnlys;

(j)y dyddiad y bernir bod hysbysiad wedi ei roi gan y Tribiwnlys.

(5)Mae'r pŵer i wneud Rheolau'r Tribiwnlys yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, a

(b)i roi swyddogaethau i'r Llywydd neu i Weinidogion Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.

(6)Rhaid i'r Llywydd gyflwyno Rheolau'r Tribiwnlys i Weinidogion Cymru.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod Rheolau'r Tribiwnlys a gyflwynir iddynt.

(8)O ran rheolau a ganiateir gan Weinidogion Cymru—

(a)deuant i rym ar y diwrnod y bydd Gweinidogion Cymru'n ei gyfarwyddo, a

(b)maent i'w cynnwys mewn offeryn statudol y mae Deddf Offerynnau Statudol 1946 yn gymwys iddo fel pe bai'r offeryn yn cynnwys rheolau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(9)Mae offeryn statudol sy'n cynnwys rheolau a wneir gan y Llywydd yn ddarostyngedig i'w ddiddymu'n unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 123 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I11A. 123 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(d)

F1124Cyfarwyddiadau ymarferLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

F1A. 124 wedi ei hepgor (dod i rym yn unol â rhl. 2(1) o’r O.S. cychwyn) yn rhinwedd Wales Act 2017 (c. 4), a. 71(4), Atod. 6 para. 92 (ynghyd ag Atod. 7 parau. 1, 6); O.S. 2017/351, rhl. 2(2)

125Canllawiau, cyngor a gwybodaethLL+C

(1)Caiff y Llywydd roi canllawiau i aelodau eraill o'r Tribiwnlys mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau fel aelodau o'r Tribiwnlys.

(2)Rhaid i aelod o'r Tribiwnlys roi sylw i'r canllawiau hynny wrth arfer y swyddogaethau hynny.

(3)Caiff y Llywydd roi cyngor a gwybodaeth mewn cysylltiad â'r Tribiwnlys a'i swyddogaethau (gan gynnwys ymarferiad a threfniadaeth y Tribiwnlys, ond heb ei gyfyngu iddynt).

(4)Caiff y Llywydd roi'r cyngor hwnnw—

(a)i bersonau penodol, neu

(b)yn fwy cyffredinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 125 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I13A. 125 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(f)

126Pwerau atodolLL+C

(1)Mewn perthynas â'r materion a grybwyllir yn is-adran (2), mae gan y Tribiwnlys yr un pwerau, hawliau, breintiau ac awdurdod â'r Uchel Lys.

(2)Dyma'r materion—

(a)presenoldeb tystion a'u holi,

(b)cyflwyno ac archwilio dogfennau, ac

(c)pob mater arall sy'n gysylltiedig â swyddogaethau'r Tribiwnlys.

(3)Nid yw is-adran (1)—

(a)yn cyfyngu ar unrhyw bŵer i wneud Rheoliadau'r Tribiwnlys, neu

(b)wedi ei chyfyngu gan unrhyw beth yn Rheoliadau'r Tribiwnlys, ac eithrio cyfyngiad penodol.

(4)Caiff y Tribiwnlys gyfarwyddo bod parti neu dyst i'w holi ar lw neu gadarnhad.

(5)Caiff y Tribiwnlys weinyddu unrhyw lw, neu gymryd unrhyw gadarnhad, sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 126 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I15A. 126 mewn grym ar 30.4.2015 gan O.S. 2015/1217, ergl. 2

Staff ac adnoddau eraillLL+C

127Staff, adeiladau ac adnoddau eraill y TribiwnlysLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod gan y Tribiwnlys y canlynol—

(a)staff,

(b)adeiladau, ac

(c)adnoddau ariannol ac adnoddau eraill,

sy'n briodol i'r Tribiwnlys er mwyn iddo arfer ei swyddogaethau.

(2)Gweinidogion Cymru sydd i benderfynu pa staff, adeiladau, adnoddau ariannol ac adnoddau eraill sy'n briodol at y diben hwnnw.

(3)Caniateir i Weinidogion Cymru fodloni'r ddyletswydd o dan is-adran (1)—

(a)drwy ddarparu staff, adeiladau neu adnoddau eraill, neu

(b)drwy wneud trefniadau gydag unrhyw berson arall ar gyfer darparu staff, adeiladau neu adnoddau eraill.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i staff y Tribiwnlys.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i staff y Tribiwnlys.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru dalu—

(a)pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn aelodau o staff y Tribiwnlys, neu mewn perthynas â hwy, a

(b)symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau sydd wedi bod yn aelodau o staff y Tribiwnlys, neu mewn cysylltiad â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 127 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I17A. 127 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(g)

128Cynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennigLL+C

(1)Caiff y Llywydd benodi cynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig i ddarparu cymorth i'r Tribiwnlys (boed mewn perthynas ag achosion penodol gerbron y Tribiwnlys neu fel arall).

(2)Caiff y Llywydd dalu tâl cydnabyddiaeth i gynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig.

(3)Caiff y Llywydd dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i gynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig.

(4)Ond rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo swm unrhyw dâl cydnabyddiaeth, lwfansau neu arian rhodd sy'n daladwy i gynghorydd sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig cyn i'r Llywydd dalu'r tâl cydnabyddiaeth, lwfansau neu'r arian rhodd, neu gytuno i'w talu.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 128 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I19A. 128 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(h)

Materion gweinyddolLL+C

129Y sêlLL+C

(1)Mae'r Tribiwnlys i gael sêl swyddogol.

(2)Mae pob dogfen yr honnir ei bod yn dwyn sêl swyddogol y Tribiwnlys i'w derbyn yn dystiolaeth yng Nghymru a Lloegr heb brawf pellach.

(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os dangosir nad yw'r ddogfen yn dwyn sêl swyddogol y Tribiwnlys.

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 129 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I21A. 129 mewn grym ar 30.4.2015 gan O.S. 2015/1217, ergl. 2

130Y flwyddyn ariannolLL+C

(1)Blwyddyn ariannol gyntaf y Tribiwnlys yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod cychwyn ac sy'n dod i ben—

(a)y 31 Mawrth canlynol (os 1 Ebrill yw'r diwrnod cychwyn), neu

(b)yr ail 31 Mawrth canlynol (os nad 1 Ebrill yw'r diwrnod cychwyn).

(2)Yn ddarostyngedig i hynny, blwyddyn ariannol y Tribiwnlys yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth.

(3)Yn yr adran hon ystyr “diwrnod cychwyn” yw'r diwrnod y daw adran 120 i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 130 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I23A. 130 mewn grym ar 30.4.2015 gan O.S. 2015/1217, ergl. 2

131Swydd y Llywydd yn wagLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw swydd y Llywydd yn wag.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru benodi un neu ragor o aelodau'r Tribiwnlys sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith i arfer unrhyw un neu ragor neu'r oll o swyddogaethau'r Llywydd.

(3)Os na fydd, neu i'r graddau na fydd, swyddogaethau'r Llywydd yn arferadwy gan aelod sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith yn unol ag is-adran (2), caiff Gweinidogion Cymru arfer y swyddogaethau.

(4)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru gymryd rhan yn y gwaith o ddyfarnu unrhyw achosion gerbron y Tribiwnlys.

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 131 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I25A. 131 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(i)

Adroddiadau, adolygiadau a pherfformiadLL+C

132Adroddiad blynyddol y LlywyddLL+C

(1)Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i'r Llywydd—

(a)llunio adroddiad ar y modd y mae'r Tribiwnlys wedi arfer ei swyddogaethau yn y flwyddyn ariannol honno, a

(b)gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)Rhaid i'r Llywydd gydymffurfio ag unrhyw ofynion sydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch ffurf yr adroddiad ac ynghylch ei osod.

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 132 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I27A. 132 mewn grym ar 30.4.2015 gan O.S. 2015/1217, ergl. 2

133Hyfforddiant etc ar gyfer aelodau'r TribiwnlysLL+C

(1)Rhaid i'r Llywydd gynnal trefniadau priodol ar gyfer hyfforddiant, arweiniad a lles aelodau'r Tribiwnlys.

(2)Y Llywydd sydd i benderfynu pa drefniadau sy'n briodol at y diben hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 133 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I29A. 133 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(j)

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Measure

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure as a PDF

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Measure

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources