Search Legislation

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

Newidiadau dros amser i: RHAN 3

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, RHAN 3. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 3LL+CASESIADAU AR DDEFNYDDWYR BLAENOROL O WASANAETHAU IECHYD MEDDWL EILAIDD

Trefniadau asesiadLL+C

19Trefniadau ar gyfer asesu defnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaiddLL+C

(1)Rhaid i bartneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i gytuno ar drefniadau ar gyfer–

(a)cynnal asesiadau yn unol ag adrannau 25 a 26 ar gyfer oedolion sydd fel arfer yn preswylio yn yr ardal honno a chanddynt hawl i asesiadau o'r fath o dan adran 22; a

(b)gwneud atgyfeiriadau a ddisgrifir yn adran 28(1) yn dilyn asesiadau o'r fath.

(2)Os cytunwyd ar drefniadau, rhaid i'r partneriaid sicrhau bod y trefniadau'n cael eu cofnodi'n ysgrifenedig.

(3)Rhaid i'r trefniadau ddynodi i ba raddau y mae pob partner i gynnal yr asesiadau hynny a gwneud yr atgyfeiriadau hynny.

(4)Caiff y trefniadau ddarparu–

(a)bod un o'r partneriaid i ddarparu pob asesiad a gwneud pob atgyfeiriad;

(b)bod partneriaid gwahanol yn ymgymryd â gwahanol agweddau ar asesiad, a gwahanol atgyfeiriadau yn dilyn asesiad.

(5)Caiff y partneriaid newid eu trefniadau (gan gynnwys trefniadau a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 21 a threfniadau sydd eisoes wedi eu newid) os ydynt yn cytuno ar y newidiadau.

(6)Os newidir trefniadau o dan is-adran (5), rhaid i'r partneriaid sicrhau bod y newidiadau'n cael eu cofnodi'n ysgrifenedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 19 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

I2A. 19 mewn grym ar 6.6.2012 gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(h)

20Dyletswydd i gynnal asesiadauLL+C

(1)Oni fydd adran 21(1)(a) yn gymwys, rhaid i'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol gynnal asesiadau a gwneud atgyfeiriadau yn unol â'r trefniadau a–

(a)gytunwyd ar gyfer eu hardal o dan adran 19; neu

(b)benderfynwyd ar gyfer eu hardal gan Weinidogion Cymru o dan adran 21.

(2)Os yw'r trefniadau wedi eu newid o dan adran 19(5) neu 21(2), rhaid cynnal asesiadau a gwneud atgyfeiriadau yn unol â'r trefniadau fel y'u newidiwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 20 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

I4A. 20 mewn grym ar 6.6.2012 gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(i)

21Methiant i gytuno ar drefniadauLL+C

(1)Os na fydd y partneriaid yn gallu cytuno ar drefniadau o dan adran 19–

(a)tra na bo cytundeb, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol gynnal yr asesiadau y cyfeirir atynt yn adran 19(1)(a) a gwneud yr atgyfeiriadau y cyfeirir atynt yn adran 19(1)(b);

(b)rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu Gweinidogion Cymru na ellir dod i gytundeb;

(c)caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar y trefniadau ac, os byddant yn gwneud hynny, rhaid iddynt eu cofnodi'n ysgrifenedig.

(2)Os bydd un partner yn dymuno newid y trefniadau, ond nad yw'r llall yn dymuno gwneud, caiff Gweinidogion Cymru, os gwneir cais i Weinidogion Cymru gan y naill bartner neu'r llall, newid y trefniadau i'r graddau y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.

(3)Os bydd Gweinidogion Cymru'n newid trefniadau o dan is-adran (2), rhaid iddynt gofnodi'r newidiadau'n ysgrifenedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 21 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

I6A. 21 mewn grym ar 6.6.2012 gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(j)

Hawliau asesuLL+C

22Hawl i asesiadLL+C

(1)Mae gan oedolyn hawl i asesiad fel a ddisgrifir yn adran 25–

(a)os yw'r oedolyn yn gwneud cais i'r naill neu'r llall o'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol y mae'r oedolyn fel arfer yn preswylio ynddi i gynnal asesiad o'r fath;

(b)os yw'r oedolyn wedi'i ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd (p'un a oedd y gwasanaethau yn gyfrifoldeb partner iechyd meddwl lleol y gwnaed y cais am asesiad iddo ai peidio);

(c)os gwneir y cais o fewn y cyfnod rhyddhau perthnasol (gweler adran 23); a

(d)os nad yw'r partner iechyd meddwl lleol y gwneir y cais iddo yn ystyried y cais yn flinderus neu'n wacsaw.

(2)At ddibenion is-adran (1)(b), mae oedolyn wedi'i ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd os darparwyd gwasanaeth neu wasanaethau iechyd meddwl eilaidd i'r oedolyn ond na ddarperir iddo bellach, am ba reswm bynnag, unrhyw wasanaeth iechyd meddwl eilaidd.

(3)Mae'r cyfeiriad at ryddhau oedolyn o wasanaeth iechyd meddwl eilaidd yn cynnwys rhyddhau a ddigwyddodd pan oedd yr oedolyn yn blentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 22 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

I8A. 22 mewn grym ar 6.6.2012 gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(k)

23Asesiadau: y cyfnod rhyddhau perthnasolLL+C

(1)Mae'r cyfnod rhyddhau perthnasol mewn perthynas ag oedolyn–

(a)yn dechrau ar y dyddiad pan gafodd yr oedolyn ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd (o fewn ystyr adran 22(2)); a

(b)yn gorffen pan fo'r cyfnod o amser a bennir mewn rheoliadau a wneir at ddibenion yr adran hon gan Weinidogion Cymru wedi dod i ben.

(2)Mae'r cyfnod rhyddhau perthnasol hefyd yn dod i ben, cyn i'r cyfnod o amser y cyfeirir ati yn is-adran (1)(b) ddod i ben, os bydd achlysur a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn digwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 23 mewn grym ar 15.2.2011 at ddibenion penodedig, gweler a. 55(1)(2)(b)

I10A. 23 mewn grym ar 6.6.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(l)

24Darparu gwybodaeth am asesiadauLL+C

(1)Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn rhyddhau oedolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, rhaid i'r Bwrdd roi gwybodaeth ysgrifenedig i'r oedolyn ynghylch hawl i asesiad o dan y Rhan hon os nad yw unrhyw awdurdod lleol, ar ddyddiad rhyddhau'r oedolyn, yn darparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd iddo.

(2)Pan fo awdurdod lleol yn rhyddhau oedolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, rhaid i'r awdurdod roi gwybodaeth ysgrifenedig i'r oedolyn ynghylch hawl i asesiad o dan y Rhan hon os nad oes unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol, ar ddyddiad yr asesiad, yn darparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd ar gyfer yr oedolyn.

(3)Pan fo'r cyfnod rhyddhau perthnasol yn cychwyn pan fo unigolyn yn blentyn ac yn dod i ben pan fo'r unigolyn hwnnw'n dod yn oedolyn, mae'r Bwrdd neu'r awdurdod o dan yr un ddyletswydd i roi gwybodaeth i'r unigolyn hwnnw ynghylch ei hawl i asesiad ag y mae i roi'r cyfryw wybodaeth i oedolyn o dan is-adrannau (1) a (2).

(4)At ddibenion yr adran hon, mae Bwrdd neu awdurdod yn rhyddhau unigolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd pan fydd yn gweithredu penderfyniad nad oes angen i'r Bwrdd neu'r awdurdod ddarparu mwyach unrhyw wasanaeth o'r fath ar gyfer yr unigolyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 24 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

I12A. 24 mewn grym ar 6.6.2012 gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(m)

Y broses asesuLL+C

25Diben asesuLL+C

Mae asesiad o dan y Rhan hon yn ddadansoddiad o iechyd meddwl oedolyn sy'n dynodi–

(a)y gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd (os oes rhai) a allai wella iechyd meddwl y person sy'n cael ei asesu neu atal dirywiad ynddo;

(b)y gwasanaethau gofal cymunedol, nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, (os oes rhai) a allai wella iechyd meddwl y person sy'n cael ei asesu neu atal dirywiad ynddo; ac

(c)y gwasanaethau tai neu'r gwasanaethau llesiant (os oes rhai) a allai wella iechyd meddwl y person sy'n cael ei asesu neu atal dirywiad ynddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 25 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

I14A. 25 mewn grym ar 6.6.2012 gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(n)

26Asesiadau: darpariaeth bellachLL+C

(1)Rhaid cynnal asesiad o dan y Rhan hon cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r cais y cyfeirir ato yn adran 22(1) gael ei wneud.

(2)Rhaid i bartneriaid iechyd meddwl lleol sicrhau–

(a)bod asesiad yn arwain at un adroddiad ysgrifenedig sy'n cofnodi a yw'r asesiad wedi dynodi unrhyw wasanaethau'n unol ag adran 25; a

(b)bod copi o'r adroddiad hwnnw yn cael ei roi i'r oedolyn a gafodd ei asesu o fewn y cyfryw gyfnod yn dilyn cwblhau'r asesiad ag a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Os un partner iechyd meddwl lleol sydd wedi cynnal asesiad o dan y Rhan hon, rhaid i'r partner, os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny, roi copi o'r adroddiad i'r partner arall cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol iddo wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 26 mewn grym ar 15.2.2011 at ddibenion penodedig, gweler a. 55(1)(2)(b)

I16A. 26 mewn grym ar 6.6.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(o)

27Camau yn dilyn asesiadLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw asesiad o dan adran 25(a) neu (b) wedi dynodi gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd neu wasanaethau gofal cymunedol (nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd) a allai helpu i wella iechyd meddwl oedolyn neu atal dirywiad ynddo.

(2)Os un o'r partneriaid iechyd meddwl lleol fyddai'r awdurdod cyfrifol mewn perthynas ag unrhyw wasanaeth o'r fath, rhaid i'r partner hwnnw benderfynu p'un a oes galw am ddarparu'r gwasanaeth hwnnw ai peidio.

(3)Yn yr adran hon ystyr “awdurdod cyfrifol” yw'r awdurdod a fyddai'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i'w darparu.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 27 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

I18A. 27 mewn grym ar 6.6.2012 gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(p)

28Atgyfeiriadau sy'n ymwneud â gwasanaethau tai neu wasanaethau llesiantLL+C

(1)Onid yw is-adran (2) yn gymwys, pan fo asesiad iechyd meddwl eilaidd o dan adran 25(c) wedi dynodi gwasanaeth tai neu wasanaeth llesiant a allai helpu i wella iechyd meddwl oedolyn neu atal dirywiad ynddo, rhaid i'r partner ofyn i'r darparydd gwasanaeth cyfrifol ystyried a fydd yn darparu'r gwasanaeth i'r oedolyn neu, os nad yw hynny'n briodol, a fydd yn gwahodd yr oedolyn i wneud cais am y gwasanaeth.

(2)Os y partner iechyd meddwl awdurdod lleol fyddai'r darparydd gwasanaeth cyfrifol mewn perthynas â'r gwasanaeth tai hwnnw neu'r gwasanaeth llesiant hwnnw, rhaid i'r awdurdod benderfynu a oes galw am ddarparu'r gwasanaeth neu, os nad yw hynny'n briodol, benderfynu a fydd yn gwahodd yr oedolyn i wneud cais am y gwasanaeth.

(3)Yn is-adrannau (1) a (2), ystyr “darparydd gwasanaeth cyfrifol” yw person sy'n ymgymryd â gweithgareddau yng Nghymru a fyddai'n darparu'r gwasanaeth pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i'w ddarparu.

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 28 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

I20A. 28 mewn grym ar 6.6.2012 gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(q)

AtodolLL+C

29Penderfynu man preswylio arferolLL+C

(1)At ddibenion y Rhan hon, mae unrhyw gwestiwn o ran ardal yr awdurdod lleol y mae oedolyn fel arfer yn preswylio ynddi i'w benderfynu yn unol â darpariaeth mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae'r ddarpariaeth y caniateir iddi gael ei gwneud mewn rheoliadau o dan is-adran (1) yn cynnwys darpariaeth (ond nid yw wedi ei chyfyngu iddi)–

(a)sy'n rhoi pŵer i benderfynu ar ardal yr awdurdod lleol y mae oedolyn fel arfer yn preswylio ynddi;

(b)ar gyfer tybio bod oedolyn fel arfer yn preswylio mewn ardal.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 29 mewn grym ar 15.2.2011 at ddibenion penodedig, gweler a. 55(1)(2)(b)

I22A. 29 mewn grym ar 6.6.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(r)

30Cymhwysiad y Rhan hon i bersonau o dan warcheidiaeth awdurdod lleolLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i unigolyn–

(a)sydd wedi peidio â bod o dan warcheidiaeth awdurdod lleol, a

(b)wrth beidio â bod felly, na ddarparwyd iddo wasanaeth iechyd meddwl eilaidd.

(2)At ddibenion y Rhan hon, mae'r unigolyn i'w drin fel un a gafodd ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd ar y dyddiad pan beidiodd yr unigolyn â bod o dan warcheidiaeth yr awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 30 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

I24A. 30 mewn grym ar 6.6.2012 gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(s)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources