Adran 4 – Gosod ardoll: dynodi personau sy’n atebol
9.Y prif ddull o roi cefnogaeth ariannol i'r diwydiant cig coch yw drwy godi cronfeydd yn fewnol oddi wrth y diwydiant hwnnw y gellir wedyn eu gwario ar ddatblygu a hybu'r amrywiol weithgareddau a osodir yn Atodlen 1.
10.Mae'r Mesur yn gosod rhai paramedrau sylfaenol mewn perthynas â'r ardoll.
11.Mae'n rhaid gwario'r arian a godir ym mhob sector (gwartheg, defaid a moch) er budd y sector hwnnw ac felly caiff y sector ei hybu yn gymesur â'i bwysigrwydd i'r diwydiant amaeth yng Nghymru.
12.Dim ond ar hybu a datblygu'r tri sector hwn yn y diwydiant cig coch y ceir gwario'r arian a godir, ni cheir ei wario, er enghraifft, ar hybu cynnyrch amaethyddol cyffredinol o Gymru na'i wario ychwaith ar ymchwil a datblygu'n gyffredinol.
13.Mae'r Mesur yn darparu hyblygrwydd fel y byddai modd ei gwneud yn ofynnol i bawb drwy'r gadwyn gyflenwi yn ei chyfanrwydd, o'r amaethwr sy'n cadw'r stoc ac yn bridio a meithrin yr anifeiliaid i'r cigydd sy'n gwerthu cig a chynhyrchion eraill i'r cwsmer terfynol, dalu'r ardoll. Fe allai gweithredwyr lladd-dai, allforwyr, marchnadoedd ocsiynau da byw a chwmnïau sy'n ymwneud â phob ffurf ar brosesu pellach ddod yn rhai cymwys i godi ffi ardoll arnynt.
14.Mae'r Mesur yn gosod pedwar categori o berson a allai fod yn gymwys i godi ffi ardoll arno, sef
Person sy'n cyflawni gweithgaredd cynradd dynodedig
Person sy'n cyflawni gweithgaredd eilradd dynodedig
Cigyddwyr
Allforwyr
15.Caiff y termau gweithgaredd cynradd a gweithgaredd eilradd eu diffinio yn yr adran hon ym mharagraff 6.
16.Gwneir y diffiniadau hyn mewn termau sy'n fwy eang na phenodol fel y gall y Mesur ddarparu fframwaith hyblyg y gallai gwahanol rannau'r diwydiant ei defnyddio fel y man pennu os oes ardoll i'w chodi. Ceir yr un hyblygrwydd o ran y man neu'r mannau lle gellid casglu'r ardoll.
17.Mae'r hyblygrwydd hwn yn bwysig mewn Mesur fel hwn oherwydd fod angen i Weinidogion Cymru fod â phwerau sy'n eu galluogi i ddatblygu'r diwydiant yn unol â strategaethau tymor canolig a hirdymor sy'n seiliedig ar asesu a gwerthuso gofynion a chyfleoedd y farchnad yn y dyfodol. Mae'r amcanestyniadau hynny ynghylch y dyfodol yn rhwym o newid ac felly mae'r Mesur hwn yn amcanu datblygu'r dulliau sy'n galluogi addasu'r gefnogaeth a roddir i'r diwydiant mewn modd sy'n ymateb i'r newidiadau hynny ac sy'n eu hadlewyrchu.
