Adran 11: Pŵer i alw am dystion a dogfennau ac Adran 12: Tystion a dogfennau: hysbysu
23.Mae’r adrannau hyn, sy’n dilyn patrwm adrannau 37 a 38 o’r Ddeddf, yn darparu dull i’r Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson y mae’r Comisiynydd yn credu bod ganddo wybodaeth sy’n berthnasol i ymchwiliad fod yn bresennol gerbron y Comisiynydd i roi tystiolaeth lafar neu gyflwyno tystiolaeth ddogfennol. Er mwyn gorfodi gofyniad o’r fath, rhaid i’r Comisiynydd roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person o dan sylw.
24.Dyma ddarpariaethau allweddol y Mesur. Maent yn rhoi i’r Comisiynydd y pwerau i gynnal ymchwiliadau trwyadl i gwynion. Mae’r pwerau sydd i’w rhoi i’r Comisiynydd yn ehangach mewn rhai ffyrdd na’r pwerau a all gael eu harfer gan y Cynulliad (a Phwyllgorau’r Cynulliad) o dan y Ddeddf. Dim ond i ategu eu gwaith wrth graffu ar Weinidogion Cymru ac mewn perthynas â phersonau sy’n ymwneud ag arfer swyddogaethau neu gynnal gweithgareddau mewn perthynas â Chymru y caniateir i bwerau’r Cynulliad gael eu defnyddio. Heblaw’r cyfyngiad a grybwyllir ym mharagraff 26, yr unig gyfyngiad ar y personau y caniateir ei gwneud yn ofynnol iddynt roi neu gyflwyno tystiolaeth yw bod yn rhaid i’r dystiolaeth fod yn berthnasol i ymchwiliad sy’n cael ei gynnal gan y Comisiynydd.
25.Nid yw bodolaeth y pŵer o dan adran 11 (a’r pŵer cyfatebol o dan adran 13) yn golygu bod y pwerau o dan sylw yn debyg o gael eu defnyddio fel rhan o’r drefn. Dim ond os bydd y person hwnnw’n gwrthod gwneud hynny o’i wirfodd y bydd angen i’r Comisiynydd orfodi tyst i roi tystiolaeth neu i gyflwyno dogfennau.
26.Mae is-adran 12(2) yn darparu mai dim ond i berson mewn cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr y caniateir i’r hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol neu gyflwyno dogfennau gael ei roi, gan na chaiff Mesur Cynulliad gynnwys darpariaethau y mae eu heffaith gyfreithiol yn ymestyn y tu allan i awdurdodaeth Cymru a Lloegr.