Adran 4: Gofynion ynglŷn â bwyd a diod a ddarperir ar fangre ysgol etc.
5.Mae’r adran hon wedi’i seilio ar yr adran 114A gyfredol yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, sy’n cael ei chynnwys yn y Mesur fel bod yr holl ddeddfwriaeth berthnasol ynghylch safonau maethiad yn yr ysgolion yn cael ei thrafod mewn un darn o ddeddfwriaeth sylfaenol. Mae’n parhau i roi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ragnodi gofynion a fydd yn gymwys i’r bwyd a’r ddiod sy’n cael eu darparu ar fangre unrhyw ysgol a gynhelir. Caniateir hefyd i reoliadau gael eu gwneud mewn perthynas â bwyd a diod sy’n cael eu darparu gan yr awdurdodau lleol neu’r corff llywodraethu mewn man arall ar gyfer disgyblion sydd wedi’u cofrestru yn yr ysgol. Serch hynny, fydd y gofynion ddim yn gymwys i ginio pecyn.
6.Mae’r adran hefyd yn ychwanegu, yn is-adran (2), bŵer i bennu uchafsymiau braster, braster dirlawn, halen a siwgr yn y bwyd a’r ddiod sy’n cael eu darparu ar gyfer disgyblion.
7.Mae hefyd yn cynnwys gofyniad bod rhaid i Weinidogion Cymru ganfod barn disgyblion ac eraill cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon.
