Search Legislation

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, Adran 3 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 27 Ebrill 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to the whole Measure associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Measure (including any effects on those provisions):

3Dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau cludoLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn o oedran ysgol gorfodol—

(a)os yw'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol,

(b)os yw'r amgylchiadau a nodir mewn cofnod yng ngholofn 1 y tabl canlynol yn gymwys i'r plentyn, ac

(c)os bodlonir yr amod, neu'r holl amodau, a nodir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 y tabl mewn perthynas â'r plentyn.

(2)Rhaid i'r awdurdod lleol wneud trefniadau cludo addas i hwyluso'r ffordd i'r plentyn fynychu bob dydd y mannau perthnasol lle y mae'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant. Ond mae'r ddyletswydd hon yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 5.

TABL

Colofn 1Colofn 2
AmgylchiadauAmod(au)

Mae'r plentyn yn cael addysg gynradd mewn—

(a)

ysgol a gynhelir,

(b)

uned cyfeirio disgyblion,

(c)

ysgol annibynnol [F1a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996] [F1neu sefydliad arall a enwir mewn cynllun datblygu unigol a gynhelir ar gyfer y plentyn o dan adran 14 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018] , neu

(d)

ysgol arbennig nas cynhelir,

lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig.

(a)

Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 2 filltir (3.218688 o gilometrau) neu fwy o'r ysgol neu'r uned.

(b)

Nid oes trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol i alluogi'r plentyn i ddod yn ddisgybl cofrestredig mewn—

(i)

ysgol a gynhelir sy'n ysgol addas,

(ii)

uned cyfeirio disgyblion sy'n uned addas,

(iii)

ysgol annibynnol [F2a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996] [F2neu sefydliad arall a enwir mewn cynllun datblygu unigol a gynhelir ar gyfer y plentyn o dan adran 14 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018] , neu

(iv)

ysgol arbennig nas cynhelir sy'n ysgol addas,

ac sy'n nes at y man lle y mae'r plentyn yn preswylio fel arfer.

(c)

Nid oes trefniadau wedi eu gwneud gan yr awrdurdod lleol ar gyfer llety byrddio addas i'r plentyn yn yr ysgol neu'r uned neu'n agos at yr ysgol neu'r uned.

Mae'r plentyn yn cael addysg uwchradd mewn—

(a)

ysgol a gynhelir,

(b)

uned cyfeirio disgyblion,

(c)

ysgol annibynnol [F1a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996] [F1neu sefydliad arall a enwir mewn cynllun datblygu unigol a gynhelir ar gyfer y plentyn o dan adran 14 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018] , neu

(d)

ysgol arbennig nas cynhelir,

lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig.

(a)

Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 3 milltir (4.828032 o gilometrau) neu fwy o'r ysgol neu'r uned.

(b)

Nid oes trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol i alluogi'r plentyn i ddod yn ddisgybl cofrestredig mewn—

(i)

ysgol a gynhelir sy'n ysgol addas,

(ii)

uned cyfeirio disgyblion sy'n uned addas,

(iii)

ysgol annibynnol [F2a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996] [F2neu sefydliad arall a enwir mewn cynllun datblygu unigol a gynhelir ar gyfer y plentyn o dan adran 14 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018] , neu

(iv)

ysgol arbennig nas cynhelir sy'n ysgol addas,

ac sy'n nes at y man lle y mae'r plentyn yn preswylio fel arfer.

(c)

Nid oes trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol ar gyfer llety byrddio addas i'r plentyn yn yr ysgol neu'r uned neu'n agos at yr ysgol neu'r uned.

Mae'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant mewn sefydliad yn y sector addysg bellach lle y mae'r plentyn wedi ymrestru fel myfyriwr llawnamser.
(a)

Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 3 milltir (4.828032 o gilometrau) neu fwy o'r sefydliad.

(b)

Nid oes trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol i alluogi'r plentyn i ymrestru mewn sefydliad addas sy'n nes at y man lle y mae'r plentyn yn preswylio fel arfer.

Mae'r plentyn—

(a)

yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, a

(b)

yn cael addysg uwchradd mewn man perthnasol ac eithrio'r ysgol honno.

Addysg sydd wedi ei threfnu gan y canlynol yw'r addysg uwchradd y cyfeirir ati ym mharagraff (b)—

(i)

gan yr awdurdod lleol, neu

(ii)

gan gorff llywodraethu yr ysgol lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig, neu ar ran y corff llywodraethu.

Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 3 milltir (4.828032 o gilometrau) neu fwy o'r man perthnasol.

Mae'r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol ac mae'n cael addysg gynradd mewn—

(a)

ysgol a gynhelir,

(b)

uned cyfeirio disgyblion,

(c)

ysgol annibynnol [F3a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996] [F3neu sefydliad arall a enwir mewn cynllun datblygu unigol a gynhelir ar gyfer y plentyn o dan adran 19 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018] , neu

(d)

ysgol arbennig nas cynhelir,

lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig.

Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 2 filltir (3.218688 o gilometrau) neu fwy o'r ysgol neu'r uned.

Mae'r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol ac mae'n cael addysg uwchradd mewn—

(a)

ysgol a gynhelir,

(b)

uned cyfeirio disgyblion,

(c)

ysgol annibynnol [F3a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996] [F3neu sefydliad arall a enwir mewn cynllun datblygu unigol a gynhelir ar gyfer y plentyn o dan adran 19 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018] , neu

(d)

ysgol arbennig nas cynhelir,

lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig.

Mae'r plentyn fel arfer yn preswylio mewn man sydd 3 milltir (4.828032 o gilometrau) neu fwy o'r ysgol neu'r uned.

(3)Rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chodi tâl ar blentyn neu riant sy'n unigolyn am unrhyw drefniadau cludo a wneir yn unol â'r adran hon.

(4)Caiff trefniadau cludo a wneir yn unol â'r adran hon gynnwys—

(a)darparu cludiant;

(b)talu'r cyfan, ond nid rhan, o dreuliau cludo plentyn.

(5)At ddibenion is-adran (2), nid yw trefniadau cludo'n addas—

(a)os ydynt yn peri lefelau afresymol o straen i'r plentyn,

(b)os ydynt yn cymryd amser afresymol o hir, neu

(c)os nad ydynt yn ddiogel.

(6)At ddibenion pob paragraff (b) yn ail golofn y tabl yn yr adran hon, mae'r ysgol, yr uned neu'r sefydliad yn addas i'r plentyn os yw'r addysg neu'r hyfforddiant a ddarperir yno yn addas, o ystyried oed, gallu a doniau'r plentyn ac unrhyw anawsterau dysgu a all fod ganddo.

(7)Mae'r pellteroedd a grybwyllir yng ngholofn 2 y tabl yn yr adran hon i'w mesur ar hyd y ffordd fyrraf sydd ar gael.

(8)Mae ffordd “ar gael” at ddibenion is-adran (7)—

(a)os yw'n ddiogel i blentyn heb anabledd neu anhawster dysgu gerdded y ffordd ar ei ben ei hun, neu

(b)os yw'n ddiogel i'r cyfryw blentyn gerdded y ffordd gyda hebryngwr, pe byddai oed y plentyn yn galw am ddarparu hebryngwr.

(9)Caiff rheoliadau bennu amgylchiadau ac amodau at ddibenion paragraffau (b) ac (c) o is-adran (1); caiff y cyfryw reoliadau ddiwygio'r tabl neu ddiwygio is-adrannau (6), (7) ac (8) (gan gynnwys diddymu cofnod yn y tabl neu yn yr is-adrannau hynny).

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn a. 3 wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 14(3)(a)(i); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (as diwygio gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (as diwygio gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (as diwygio gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

F2Geiriau yn a. 3 wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 14(3)(b); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (as diwygio gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (as diwygio gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (as diwygio gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

F3Geiriau yn a. 3 wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 14(3)(a)(ii); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (as diwygio gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (as diwygio gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (as diwygio gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 3 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I2A. 3 mewn grym ar 1.9.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2), Atod. Rhn. 2

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources