Adran 9 – Trefniadau teithio i ddysgwyr a’r rheini’n drefniadau nad ydynt i ffafrio mathau penodol o addysg neu hyfforddiant
39.Mae adran 9 yn gwahardd y trefniadau teithio a wneir o dan adrannau 3, 4 a 6 rhag camwahaniaethu rhwng amryw gategorïau o ddysgwyr. Gwelir y categorïau yn y tabl. Rhaid peidio â thrin plant o oedran ysgol gorfodol sydd mewn sefydliadau nad ydynt yn ysgolion a gynhelir yn llai ffafriol na phlant yr un oed mewn ysgolion a gynhelir. Rhaid peidio â thrin dysgwyr eraill sy’n cael addysg lawnamser neu hyfforddiant llawnamser mewn sefydliadau nad ydynt yn ysgolion a gynhelir yn llai ffafriol na dysgwyr yr un oed mewn ysgolion a gynhelir. Yn yr un modd ni ddylid camwahaniaethu rhwng y rhai sydd yr un oed a chanddynt anawsterau dysgu neu anabledd neu sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol ac sy’n mynychu sefydliadau ac eithrio ysgolion a gynhelir, a’r rhai sy’n mynychu ysgolion a gynhelir. Mae’n diogelu’r egwyddor bod dysgwyr sy’n elwa o drefniadau teithio yn cael eu trin yn deg.