Adran 8 – Trefniadau teithio i fannau lle y darperir addysg feithrin ac oddi yno
38.Pŵer gwneud rheoliadau yw adran 8 sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth ynghylch trefniadau teithio i blant oed meithrin. O dan y pŵer hwn gallai Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau teithio i blant o dan oedran ysgol gorfodol sydd mewn addysg feithrin. Mae is-adran (2) yn disgrifio cwmpas y pwerau gwneud rheoliadau. Gallai’r rheoliadau wneud darpariaeth debyg i’r ddarpariaeth a wneir yn y Mesur mewn perthynas â phlant o oedran ysgol gorfodol a gallent ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddarparu gwybodaeth a chymorth y gallai fod yn rhesymol bod ar awdurdod lleol eu hangen.