Adran 4 – Dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau teithio eraill
25.Mae adran 4 yn rhoi dyletswydd ar awdurdod lleol i wneud trefniadau teithio ar gyfer plant o oedran ysgol gorfodol os yw’r awdurdod o’r farn bod angen gwneud hynny er mwyn hwyluso’r ffordd i blentyn fynychu’r man perthnasol lle y mae’r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant.
26 Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i drefniadau o dan yr adran hon fod yn ddi-dâl (ac eithrio mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal ac yn yr achos hwnnw caiff yr awdurdod adennill costau oddi wrth awdurdod arall o dan adran 18). Ni chaniateir gan is-adran (4) dalu rhan o dreuliau teithio dysgwr (dim ond y gost lawn y caniateir ei thalu).
27.Wrth ystyried a yw trefniadau teithio o dan yr adran hon yn addas, mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod roi sylw i asesiad o anghenion yr ymgymerir ag ef o dan adran 2(2), y trefniadau cludo y mae’n ddyletswydd arno eu gwneud o dan adran 3, oed y plentyn, unrhyw anabledd neu anhawster dysgu a natur y ffordd. Rhaid i drefniadau, yn rhinwedd is-adran (6), fod yn ddiogel, peidio â chymryd amser afresymol o hir, a rhaid iddynt beidio â pheri lefelau afresymol o straen.
28.Rhaid i awdurdod gael ei fodloni hefyd fod angen y trefniadau. Wrth ystyried hyn, mae is-adran (7) yn ei gwneud yn ofynnol iddo ystyried yr un ffactorau ag a geir yn is-adran (5) ond mae’n caniatáu iddo hefyd ystyried a yw plentyn yn mynychu’r sefydliad addysgol sydd agosaf at ei gartref ac sy’n sefydliad addas. Mae hyn yn gwneud y berthynas rhwng adrannau 3 a 4 yn glir. O dan is-adrannau (7) ac (8) nid oes angen i awdurdod lleol ystyried bod angen trefniadau teithio os nad yw plentyn yn mynychu’r ysgol agosaf sy’n addas (a bod trefniadau wedi eu gwneud i’r plentyn fynychu ysgol sy’n nes at ei gartref ac sy’n addas). Mae is-adran (8)(a) yn ei gwneud yn glir fodd bynnag nad yw hyn yn gymwys mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal. Ni all y cwestiwn a yw plentyn sy’n derbyn gofal yn mynychu’r ysgol agosaf sy’n addas fod yn ffactor i’r awdurdod lleol ei ystyried wrth benderfynu a yw trefniadau teithio’n angenrheidiol.
29.Efallai y bydd awdurdod o’r farn bod angen gwneud trefniadau o dan yr adran hon ar gyfer plentyn nad oes ganddo hawl i gludiant am ddim o dan adran 3 oherwydd amgylchiadau arbennig y plentyn hwnnw. Neu efallai y bydd awdurdod o’r farn bod angen gwneud trefniadau o dan yr adran hon yn ychwanegol at ddarparu cludiant fel sy'n ofynnol o dan adran 3; er enghraifft, bod angen trefnu hebryngwr neu offer ar gyfer plentyn anabl. Nid oes rhaid i awdurdod ddarparu cludiant. Gallai, er enghraifft, ddarparu pàs bws ar gyfer dysgwr neu drefnu i blant gerdded gyda hebryngwr i’r man perthnasol. Bydd yr adran hon hefyd yn darparu sail i awdurdodau lleol gefnogi teithio gan blant a chanddynt unrhyw anghenion penodol p’un a yw’r anghenion yn deillio o anhawster dysgu, o anabledd neu o unrhyw ffactor arall sy’n gwneud trefniadau teithio penodol yn angenrheidiol er mwyn hwyluso’r ffordd i blentyn fynychu man perthnasol.