Adran 3 – Dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau cludo
11.Mae adran 3 yn rhoi dyletswydd ar awdurdod lleol i wneud trefniadau cludo ar gyfer plant o oedran ysgol gorfodol mewn amgylchiadau penodedig ac yn ddarostyngedig i amodau penodedig. Nodir yr amgylchiadau a’r amodau yn y tabl ar ôl is-adran (2). Mae’r adran yn darparu system o hawl i gludiant am ddim yn dibynnu p’un ai addysg gynradd ai addysg uwchradd y mae plant yn ei chael ac a ydynt yn byw y pellteroedd penodedig neu’n bellach o’r mannau lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant. Mae’r dull hwn o benderfynu hawl yn debyg i’r system a luniwyd wrth roi ar waith gyda’i gilydd adrannau 444 a 509 o Ddeddf Addysg 1996.
12.Mae is-adran (1) yn darparu bod yr adran yn gymwys i blant o oedran ysgol gorfodol sy’n preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol os yw’r amgylchiadau a nodir yng ngholofn 1 y tabl yn gymwys i’r plentyn ac os bodlonir yr amodau a geir yng ngholofn 2.
13.Mae is-adran (2) yn nodi’r brif ddyletswydd sydd ar yr awdurdod lleol i wneud trefniadau cludo addas i hwyluso’r ffordd i blentyn y mae’r adran yn gymwys iddo fynychu bob dydd y mannau perthnasol lle y mae’r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant. Hwylusir y ffordd i’r plentyn fynychu’r mannau hynny os gwneir trefniadau i’r plentyn deithio o’i gartref i’r man lle y mae’n cael addysg neu hyfforddiant ac yn ôl adref.
14.Mae’r tabl ar ôl is-adran (2) yn nodi’r amgylchiadau a’r amodau sy’n arwain at hawl i gael trefniadau cludo am ddim.
15.Bydd gan blant sy’n cael addysg gynradd yr hawl i gludiant am ddim os ydynt yn byw ddwy filltir neu fwy o’r ysgol a gynhelir, o’r uned cyfeirio disgyblion, neu o’r ysgol arbennig nas cynhelir lle y maent yn ddisgyblion, onid yw’r awdurdod wedi trefnu i’r plentyn ddod yn ddisgybl cofrestredig mewn sefydliad addas yn nes at gartref y plentyn neu wedi trefnu i’r plentyn fyrddio yn yr ysgol neu’n agos ati. Pan fo gan blentyn ddatganiad o anghenion addysgol arbennig sy’n enwi ysgol annibynnol, os bydd yr ysgol honno ddwy filltir neu fwy o gartref y plentyn, bydd yn rhaid i awdurdod lleol ddarparu cludiant am ddim onid yw wedi trefnu i’r plentyn ddod yn ddisgybl cofrestredig mewn sefydliad addas yn nes at ei gartref, neu wedi trefnu i’r plentyn fyrddio yn yr ysgol neu’n agos ati.
16.Darperir hawl debyg i blant sy’n cael addysg uwchradd, ond gwneir hynny yn yr achos hwn os ydynt yn byw dair milltir neu fwy o’r ysgol a gynhelir, o’r uned cyfeirio disgyblion, o’r ysgol arbennig nas cynhelir neu o’r ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad o anghenion addysgol arbennig lle y maent yn ddisgyblion. Nid yw’r ddyletswydd i ddarparu cludiant am ddim yn gymwys pan yw’r awdurdod lleol wedi trefnu i’r plentyn ddod yn ddisgybl cofrestredig mewn sefydliad addas sy’n nes at ei gartref, neu pan yw’r awdurdod wedi trefnu i’r plentyn fyrddio yn yr ysgol neu’n agos ati. Mae’r hawl yn cynnwys cludiant i unrhyw blentyn o oedran ysgol gorfodol sy’n mynychu sefydliad addysg bellach fel myfyriwr llawn-amser os yw’r sefydliad dair milltir neu fwy o’i gartref ac os nad yw’r awdurdod lleol wedi trefnu i’r plentyn fynychu sefydliad addas yn nes at ei gartref. Mae’r hawl hefyd yn cynnwys teithio rhwng y cartref a man perthnasol ac eithrio’r man lle y mae plentyn yn ddisgybl cofrestredig. Mae hyn yn cymryd i ystyriaeth y ffaith bod rhai plant yn mynychu mannau gwahanol ar ddyddiau gwahanol, a byddai, er enghraifft, yn cwmpasu lleoliadau profiad gwaith neu fynychu ysgol wahanol neu sefydliad addysg bellach gwahanol ar gyfer cyrsiau penodol. Fodd bynnag, nid yw trefniadau teithio ond i ymwneud â theithio rhwng y cartref a mannau perthnasol ar ddechrau ac ar ddiwedd y diwrnod ysgol ac nid ydynt yn ymwneud â theithio yn ystod y dydd. Mae unrhyw drefniadau ar gyfer teithio yn ystod y dydd y tu allan i gwmpas y ddyletswydd sydd ar awdurdod lleol (gweler adran 5).
17.Mae’r un meini prawf oed a phellter yn gymwys i blant sy’n ‘derbyn gofal’, ond nid yw mynychu’r sefydliad agosaf i’w cartref sy’n sefydliad addas yn amod. Yr awdurdod lleol y mae plentyn yn derbyn gofal ganddo fydd i benderfynu ble y dylai plentyn fynd a gallai’r man hwnnw fod yn ysgol ac eithrio’r ysgol agosaf sy’n addas oherwydd, er enghraifft, bod sicrhau parhad yn addysg y plentyn neu yng nghysylltiad y plentyn â brodyr a chwiorydd a ffrindiau yn flaenoriaeth.
18.Mae is-adran (3) yn gwahardd awdurdod rhag codi tâl am drefniadau cludo y mae’n ofynnol iddo eu gwneud ar gyfer plant o oedran ysgol gorfodol o dan yr adran hon (ac eithrio mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal ac yn yr achos hwnnw gall adennill costau oddi wrth awdurdod arall o dan adran 18).
19.Mae is-adran (4) yn pennu y caiff trefniadau cludo a wneir o dan yr adran gynnwys darparu cludiant neu dalu’r cyfan, ond nid rhan, o dreuliau teithio plentyn. Ystyr yr is-adran hon yw y gallai awdurdod gyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (2) drwy drefnu gyda chontractwr bysiau neu dacsi wasanaeth bysiau, a darparu pàs i’w ddefnyddio ar drafnidiaeth gyhoeddus neu ad-dalu treuliau teithio rhieni neu ddysgwyr.
20.Mae is-adrannau (5) i (8) yn diffinio a yw trefniadau’n ‘addas’, a yw ysgol neu gyfleuster addysg arall yn gwneud darpariaeth ‘addas’, ac a oes llwybr ‘ar gael’.
21.Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i drefniadau cludo fod, o fewn rheswm, yn rhydd o straen, iddynt beidio â chymryd amser afresymol o hir, ac iddynt fod yn ddiogel.
22.Mae is-adran (6) yn diffinio addasrwydd addysg neu hyfforddiant at ddiben yr adran hon drwy gyfeirio at oed plentyn, ei allu a’i ddoniau, ac at unrhyw anawsterau dysgu. Nid oes a wnelo dewis iaith, neu famiaith, na chredo neu argyhoeddiad crefyddol y plentyn neu’r rhiant, ddim ag addasrwydd ysgol at ddiben yr adran hon.
23.Mae is-adran (7) yn pennu bod y pellteroedd yn y tabl i’w mesur ar hyd y llwybr byrraf sydd ar gael. Ymdrinnir ag a oes llwybr ar gael yn is-adran (8) sy’n nodi’r amgylchiadau pan ellir disgwyl i blentyn gerdded i’r ysgol. Os nad yw’r amgylchiadau hyn yn gymwys, yna ni ellir disgwyl i blentyn gerdded i’r ysgol hyd yn oed pan fydd y pellter rhwng ei gartref a’r ysgol yn llai na’r terfyn pellter sy’n gymwys i’w oed fel a nodir yn y tabl. Yr amgylchiadau yw bod natur y ffordd yn ei gwneud yn ddiogel i blentyn gerdded ar ei ben ei hun neu, pan fo oed y plentyn yn gwneud hynny’n ofynnol, gydag oedolyn yn ei hebrwng. Os nad yw’r amgylchiadau hyn yn gymwys, mae is-adrannau (1) a (2) yn darparu hawl i drefniadau teithio am ddim onid yw awdurdod wedi gwneud trefniadau i addysgu’r plentyn mewn ysgol addas amgen yn nes at gartref y plentyn.
24.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan is-adran (9) yn pennu’r amgylchiadau a’r amodau pan fyddai gan blant o oedran ysgol gorfodol hawl i gludiant am ddim. Caiff rheoliadau ddiwygio’r tabl neu is-adrannau (6), (7) ac (8) neu gofnodion yn y tabl. Er enghraifft, gallai Gweinidogion Cymru newid y meini prawf pellter ac oed sy’n penderfynu cymhwystra a darparu ar gyfer awdurdodau lleol fwy o ddisgresiwn neu lai i weithredu eu polisïau cludiant eu hunain. Byddai unrhyw reoliadau a wneid o dan y ddarpariaeth hon yn cael eu gwneud drwy’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol a byddent yn ddarostyngedig i asesiad effaith rheoleiddiol ac i graffu arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol.