Adran 5 - Dull darparu iawn
10.Mae'r adran hon yn disgrifio'n fanylach y math o ddarpariaeth y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud mewn rheoliadau ynglŷn â sut y bydd y trefniadau'n gweithio. Mae is-adran (1) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud pa drefniadau bynnag mewn rheoliadau y maent yn barnu eu bod yn addas ynghylch sut y mae iawn i'w ddarparu, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau isadrannau (3), (5) a (6). Yn ôl yr isadrannau hynny, rhaid i'r rheoliadau ddarparu:
bod terfynau amser ar gyfer ymchwilio i achosion a chwblhau achosion yr ymdrinnir â hwy o dan drefniadau Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG; bod canfyddiadau unrhyw ymchwiliad yn cael eu cofnodi mewn adroddiad a bod copi o'r adroddiad hwnnw ar gael i'r person sy'n ceisio iawn (is-adran (3));
bod unrhyw setliad o dan y trefniadau yn cynnwys hepgoriad o'r hawl i godi achos sifil mewn perthynas â'r un materion. (is-adran (5)); ac
os cychwynnir rheithdrefn mewn perthynas â'r un pynciau, na allai'r trefniadau iawn fod yn gymwys mwyach wedyn. Mewn achosion o'r fath, byddai rhaid gollwng unrhyw ymchwiliad a ddechreuwyd eisoes (is-adran (6)).
11.Mae is-adran (2) yn dweud y caiff y rheoliadau ddarparu ar gyfer manylion sy’n ymwneud ag ymchwiliadau a setliadau. Mae is-adran (4) yn darparu y caiff y rheoliadau bennu nad oes angen darparu copi o adroddiad ymchwiliad o dan amgylchiadau penodol.