Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'R Gig (Cymru) 2008

Cyflwyniad

1.Mae'r nodiadau esboniadol hyn yn ymwneud â'r Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008 fel y'i pasiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 6 Mai 2008 ac y’i cymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor ar 9 Gorffennaf 2008. Fe’u paratowyd gan Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynorthwyo darllenydd y Mesur. Dylai’r Nodiadau Esboniadol gael eu darllen ar y cyd â’r Mesur ond nid ydynt yn rhan ohono.

Sylwadau Ar Adrannau

Adran 1 -  Pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ar gyfer Iawn am Gamweddau'r GIG

2.Mae Is-adran (1) yn nodi'r egwyddor gyffredinol y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer trefniadau Iawn am Gamweddau'r GIG a fydd yn caniatáu i faterion gael eu setlo heb orfod mynd i'r llys pan fo atebolrwydd cymwys mewn camwedd yn codi. Mae is-adran (2) yn darparu y bydd y trefniadau yn gymwys i achosion pan fo atebolrwydd mewn camwedd yn deillio o wasanaethau iechyd a ddarperir fel rhan o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, neu'n rhywle arall, ar yr amod ei fod yn cael ei gomisiynu fel rhan o'r gwasanaeth iechyd ar gyfer person sy'n preswylio yng Nghymru. Fel y nodir yn is-adran (3), bydd y trefniadau yn gymwys i atebolrwydd mewn camwedd sy'n deillio ar ran:

  • Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru;

  • Byrddau Iechyd Lleol;

  • Awdurdodau Iechyd Arbennig;

  • Gweinidogion Cymru;

  • Unrhyw berson neu gorff sy'n darparu neu'n trefnu ar gyfer darparu gwasanaethau yng Nghymru o ganlyniad i drefniant gydag unrhyw un o'r cyrff uchod. Mae hyn yn golygu y gall ymarferwyr cyffredinol; deintyddion, fferyllwyr ac offthalmolegwyr sy'n darparu gofal GIG neu ysbytai annibynnol a gomisiynir i ddarparu gofal fel rhan o'r GIG beri atebolrwydd.

3.Mae is-adran (4) yn darparu bod rhaid i atebolrwyddau mewn camwedd fod yn atebolrwyddau o ran anaf personol neu golled sy'n deillio o dordyletswydd gofal, mewn cysylltiad â diagnosio salwch, neu o ran y gofal neu'r driniaeth a ddarparwyd. Felly bydd iawn yn gymwys fel rheol mewn perthynas â chleifion sy'n cael gofal GIG. Mae is-adran (4) yn darparu'n benodol y bydd yr atebolrwydd hwn yn ddyledus o ganlyniad i unrhyw weithred neu anweithred gan broffesiynolyn gofal iechyd, ond mae gan Weinidogion Cymru bŵer i bennu unrhyw gorff arall neu berson arall a allai beri atebolrwydd hefyd.

4.Ni fyddai trefniadau yn cael eu cyfyngu i hawliadau gan gleifion. Cyhyd â bod hawliadau yn dod fel arall o dan y diffiniad yn is-adran (4), gall y diffiniad hwnnw gwmpasu hawliadau y gellid eu gwneud yn sgil marwolaeth claf yn rhinwedd Deddf Diwygio'r Gyfraith (Darpariaethau Amrywiol) 1934 (sy'n darparu, pan fo gan berson sail i achos a bod y person hwnnw'n marw, caniateir bwrw ymlaen â’r achos er budd ei ystâd). Gall gwmpasu hefyd hawliadau y deuir â hwy gerbron llys gan ddibynyddion claf ymadawedig o dan Ddeddf Damweiniau Marwol 1976. Mae'r Ddeddf honno'n darparu, pan fo marwolaeth person wedi'i achosi gan unrhyw gamweithred, esgeulustod neu ddiffyg y mae ei natur o fath a fyddai wedi rhoi i’r person a anafwyd, pe na bai ei farwolaeth wedi digwydd, hawlogaeth i barhau ag achos ac adennill iawndal mewn perthynas â'r anaf, fod atebolrwydd i ddwyn achos am iawndal yn parhau er budd dibynyddion y person a fu farw, sef dibynyddion megis gwraig, plentyn neu bartner sifil

5.Mae is-adran (6) yn darparu na fyddai pobl sy'n gweithio o dan gontract cyflogaeth yn cael eu hystyried yn atebol yn bersonol am esgeuluster, ond mai eu cyflogwr yn hytrach a fyddai'n atebol am eu gweithredoedd.

Adran 2 - Iawn o dan y rheoliadau

6.Mae'r adran hon yn disgrifio’n fanylach y math o ddarpariaeth y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud mewn perthynas â threfniadau iawn. Mae is-adran (1) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud pa drefniadau bynnag mewn rheoliadau y maent yn credu eu bod yn briodol ynglŷn ag iawn, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau isadrannau (2), (3) a (6)(b). Mae'r isadrannau hynny’n datgan bod rhaid i'r rheoliadau ddarparu:

  • bod iawn yn cynnwys cynnig digollediad ariannol; rhoi esboniadau, ymddiheuriadau ysgrifenedig, ac adroddiad ar y camau a gymerwyd a’r hyn a ddysgwyd a bod modd i’r rhain gael eu darparu mewn unrhyw gyfuniad (is-adran (2));

  • bod rhaid i'r trefniadau beidio â bod yn gymwys i achos sydd eisoes neu sydd wedi bod yn destun rheithdrefn (is-adran(3)); a

  • bod rhaid i unrhyw reoliadau sy'n darparu ar gyfer digollediad ariannol bennu terfyn uchaf ar y swm sydd i'w gynnig mewn perthynas â phoen a dioddefaint (iawndal cyffredinol), os na phennir unrhyw derfyn uchaf hollgynhwysfawr (is-adran (6)(b)). Rhagwelir ar hyn o bryd y byddai unrhyw drefniadau yn ceisio pennu terfyn cyflawn a fyddai'n cwmpasu iawndal cyffredinol ac iawndal arbennig i sicrhau y byddai hawliadau mwy cymhleth a rhai uchel eu gwerth yn cael eu trin gan arbenigwyr hawliadau ac nid drwy'r trefniadau lleol.

7.Mae is-adran (4) yn darparu y caiff y rheoliadau ganiatáu i ddigollediad gael ei gynnig ar ffurf triniaeth adfer a/neu ddigollediad ariannol, a nodir mewn contract gyda'r claf. Byddai hyn yn rhoi gwarantau go iawn i'r claf y byddai’n cael y gofal adfer y mae arno ei angen, o fewn amser penodedig. Os yw digollediad ariannol i'w gynnig, yna mae is-adran (5) yn darparu y caiff y rheoliadau bennu'r materion y caniateir i ddigollediad ariannol gael ei gynnig mewn perthynas â hwy a sut y mae'r broses o asesu'r digollediad i'w chyflawni. Mae is-adran 6(a) yn darparu y caniateir i derfyn uchaf gael ei osod ar y swm o ddigollediad ariannol.

Adran 3 - Ymofyn am Iawn

8.Mae'r adran hon yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru wneud pa drefniadau bynnag y maent yn barnu eu bod yn briodol ynglŷn ag ymofyn am drefniadau iawn. Mae is-adran (2) yn darparu y caiff y rheoliadau bennu pwy sy’n cael ymofyn am y trefniadau. Efallai mai'r claf fyddai hwnnw neu rywun sy'n gweithredu ar ei ran, neu gallai'r corff o dan sylw roi cychwyn ar y trefniadau ar ran y claf a chyda'i gydsyniad. Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer terfynau amser mewn perthynas ag ymofyn am iawn.

Adran 4 -  Dyletswydd i ystyried y posibilrwydd o ymofyn am drefniadau iawn

9.Mae'r adran hon yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru bennu mewn rheoliadau y dylai unrhyw gorff neu berson sy'n adolygu achos penodol sy'n ymwneud â chlaf ystyried o ddifrif a all iawn fod ar gael mewn perthynas â'r achos hwnnw.

Adran 5 - Dull darparu iawn

10.Mae'r adran hon yn disgrifio'n fanylach y math o ddarpariaeth y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud mewn rheoliadau ynglŷn â sut y bydd y trefniadau'n gweithio. Mae is-adran (1) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud pa drefniadau bynnag mewn rheoliadau y maent yn barnu eu bod yn addas ynghylch sut y mae iawn i'w ddarparu, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau isadrannau (3), (5) a (6). Yn ôl yr isadrannau hynny, rhaid i'r rheoliadau ddarparu:

  • bod terfynau amser ar gyfer ymchwilio i achosion a chwblhau achosion yr ymdrinnir â hwy o dan drefniadau Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG; bod canfyddiadau unrhyw ymchwiliad yn cael eu cofnodi mewn adroddiad a bod copi o'r adroddiad hwnnw ar gael i'r person sy'n ceisio iawn (is-adran (3));

  • bod unrhyw setliad o dan y trefniadau yn cynnwys hepgoriad o'r hawl i godi achos sifil mewn perthynas â'r un materion. (is-adran (5)); ac

  • os cychwynnir rheithdrefn mewn perthynas â'r un pynciau, na allai'r trefniadau iawn fod yn gymwys mwyach wedyn. Mewn achosion o'r fath, byddai rhaid gollwng unrhyw ymchwiliad a ddechreuwyd eisoes (is-adran (6)).

11.Mae is-adran (2) yn dweud y caiff y rheoliadau ddarparu ar gyfer manylion sy’n ymwneud ag ymchwiliadau a setliadau. Mae is-adran (4) yn darparu y caiff y rheoliadau bennu nad oes angen darparu copi o adroddiad ymchwiliad o dan amgylchiadau penodol.

Adran 6 - Atal dros dro gyfnod y cyfyngiad

12.Mae Deddf Cyfyngiadau Achosion 1980 yn darparu na chaiff person ddwyn achos llys am anaf personol fwy na thair blynedd o'r dyddiad y cododd y niwed neu y daeth y person i wybod am y niwed hwnnw. Mae'r adran hon yn sicrhau bod rhaid i'r rheoliadau ddarparu ar gyfer atal dros dro unrhyw gyfnod cyfyngu sy'n gymwys i achosion sy'n cael eu hystyried o dan y trefniadau. Wrth wneud hynny, mae'n golygu na fydd achos cleifion yn cael ei niweidio ac na fydd cleifion yn cael eu hatal rhag dwyn materion gerbron llys (os byddant yn dewis peidio â derbyn unrhyw gynnig) drwy orfod disgwyl am ganlyniad ymchwiliad o dan y trefniadau iawn.

Adran 7- Cyngor cyfreithiol, etc.

13.Mae'r adran hon yn nodi y caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw ddarpariaethau y maent yn barnu eu bod yn addas mewn rheoliadau ar gyfer rhoi cyngor cyfreithiol neu ddarparu gwasanaethau eraill, gan gynnwys rhoi barn feddygol arbenigol i bobl sy'n defnyddio'r trefniadau iawn (is-adran 1). Rhaid i'r rheoliadau sicrhau fan leiaf fod pobl yn cael ymofyn am gyngor cyfreithiol ynglŷn ag unrhyw gynnig, unrhyw benderfyniad i wrthod gwneud cynnig neu unrhyw gytundeb i setlo (is-adran 2). Mae is-adran (3) yn nodi y caiff y rheoliadau bennu y dylai pwy bynnag sy'n rhoi cyngor cyfreithiol gael ei gynnwys ar restr. Mae is-adran (4) yn darparu, os yw cyngor arbenigydd meddygol i'w gomisiynu, y byddai hynny wedyn yn cael ei wneud i bob pwrpas ar y cyd gan y corff GIG a'r unigolyn sy'n ceisio iawn.

Adran 8 - Cymorth i unigolion sy'n ceisio iawn

14.Mae'r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i drefnu cymorth rhesymol i bobl sy'n ceisio neu'n bwriadu ceisio iawn o dan y trefniadau. Mae is-adran (4) yn darparu y dylai'r cymorth fod yn annibynnol ar y person neu'r corff sy'n destun y gŵyn. Mae'r cymorth hwn yn wahanol i'r cyngor cyfreithiol y darperir ar ei gyfer o dan Adran 7 ac yn debycach i gymorth neu gyngor cyffredinol i bobl sy'n teimlo efallai yr hoffent drafod eu sefyllfa yn drylwyr cyn cymryd camau pellach neu gael rhywun i eiriol drostynt neu eu cynrychioli mewn cyfarfodydd, etc.

Adran 9 - Swyddogaethau o ran trefniadau iawn

15.Mae'r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru nodi mewn rheoliadau'r swyddogaethau a fydd gan unrhyw berson neu gorff o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru o ran gweithredu'r trefniadau iawn. Yn benodol, mae is-adran (2) yn nodi y caiff y rhain gynnwys swyddogaethau ynghylch ymofyn am iawn, gwneud taliadau, monitro a chasglu data, etc.

16.Mae is-adran (3) yn gwneud darpariaeth ar gyfer cadw cofnodion a rhoi i unrhyw gorff neu berson gyfrifoldeb dros oruchwylio bod y trefniadau'n cael eu cyflawni'n briodol a sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu. Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i'r rheoliadau wneud darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gorff neu berson a bennir gyhoeddi adroddiad blynyddol ar yr achosion y mae'n ymdrin â hwy a'r gwersi a ddysgwyd ((is-adran (4)) ac i roi sylw i'r cyngor a'r canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru (is-adran (6)). Mae'r adran yn caniatáu hefyd ar gyfer rheoliadau i ddarparu ar gyfer swyddogaethau sydd i'w harfer ar y cyd (is-adran (5)).

Adran 10 - Cwynion

17.Mae'r adran hon yn diwygio adran 113(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 i gynnwys cwynion ynglŷn â'r trefniadau iawn a ddarperir. Mae hyn yn golygu y bydd gan bobl hawl i gwyno am y ffordd y mae'r trefniant iawn yn cael ei weinyddu (h.y. a oedd penderfyniad wedi'i wneud yn briodol). Nid yw hyn yr un peth ag anghytuno â phenderfyniad sydd wedi'i wneud yn briodol ac nid oes unrhyw hawl i apelio mewn sefyllfaoedd o'r fath. Os yw'r hawlydd yn anghytuno â phenderfyniad sydd wedi'i wneud yn briodol, yna mae'n cadw'r hawl i gymryd camau cyfreithiol.

Adran 11 - Gorchmynion a rheoliadau

18.Mae'r adran hon yn gwneud darpariaeth am bwerau Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan y Mesur. Yn benodol, mae is-adran (6) yn darparu y defnyddir y weithdrefn gadarnhaol bob tro y gwneir rheoliadau o dan adran 12 sy’n diwygio Deddf Seneddol neu Fesur Cynulliad a phob tro y bydd y rheoliadau yn gwneud darpariaeth o dan adrannau 1(4)(b); 1(5); 3 a 5. Hefyd, defnyddir y weithdrefn gadarnhaol ar gyfer y gyfres gyntaf o reoliadau i wneud darpariaeth o dan adrannau 2, 4, 6, 7 a 9. Mewn unrhyw achos, bydd y gyfres gyntaf o reoliadau a wneir o dan y Mesur, ni waeth pa adrannau a gwmpesir, yn cael eu gwneud drwy ddefnyddio’r weithdrefn gadarnhaol.

Adran 12 - Pŵer i wneud darpariaeth atodol a chanlyniadol bellach, etc.

19.Mae'r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig eraill i roi ei effaith i'r Mesur. Yn benodol, mae is-adran (2) yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio neu ddiddymu unrhyw Ddeddf Seneddol ac offerynnau statudol o ganlyniad i newidiadau y mae eu hangen oherwydd y rheoliadau. Mae cwmpas y pwerau hyn wedi'i gyfyngu gan rychwant y pwerau i wneud Mesurau i ddiwygiadau sy'n gysylltiedig â gwneud iawn am gamweddau'r GIG.

Adran 13 - Dehongli

20.Mae adran 13 yn darparu diffiniadau ar gyfer ymadroddion penodol a ddefnyddir yn y Mesur.

Adran 14 - Teitl byr a chychwyn

21.Mae’r adran hon yn nodi o dan ba enw yr adwaenir y Mesur. Mae'n gwneud darpariaeth hefyd i Weinidogion gychwyn adrannau ar adegau gwahanol i'w gilydd.

COFNOD TRAFODION YNG NGHYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU

Mae’r tabl canlynol yn dangos dyddiadau pob cam o daith y Mesur trwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyflwynwyd2 Gorffennaf 2007
Cyfnod 1 – Dadl29 Ionawr 2008
Cyfnod 2 -  Pwyllgor Craffu  – ystyried gwelliannau4 Mawrth 2008
Cyfnod 2 -  Pwyllgor Craffu  – ystyried gwelliannau11 Mawrth 2008
Cyfnod 3 – Dadl6 Mai 2008
Cyfnod 4 – Dadl i basio’r Gamweddau'r GIG (Cymru) 20086 Mai 2008
Cymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor9 Gorffennaf 2008

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources